Mae’r llyfr
‘Ffarwel i Freiburg, Crwydriadau cynnar T.H Parry-Williams’ gan Angharad Price
yn sawl peth, swmpus, hynod ddiddorol, academaidd, yn dangos gwaith ymchwil
trylwyr (argian dan ydi) ond yn fwy na dim byd arall hoffwn awgrymu fod y
gampwaith yma gan Angharad yn gymwynas a’r Genedl.
Bydd rhywun yn son yn aml iawn am ‘fwy o wybodaeth na sydd ei angen’ a does dim
dwy waith wrth darllen ‘Ffarwel i Freiburg’ fod yr holl beth yn gorlifo o
wybodaeth, gwybodaeth sydd wrth reswm yn newydd i ni oll a dyma’r rhan gyntaf
o’r gymwynas a’r genedl. Mae yma sylwedd. Sylwedd ydi’r gair allweddol a diolch
byth amdano. Wrth i’r Cyfryngau a rhan helaeth o’r ‘Byd Cymraeg’ faglu dros
grea-sgidiau eu gilydd yn y ras i fod yn ‘boblogaidd’ heb ddweud dim o bwys mae
Angharad wedi llwyddo i osod y Gymraeg ar lefel uchaf sylwedd.
Hynny yw, mae gwaith ymchwil
Angharad yn waith o sylwedd, ac un o’r elfenau y gwerthfawrogais wrth ddarllen
yw fod Angharad bob amser yn gosod crwydriadau Parry-Williams yng nghyd-destyn
y dydd a’r lle. Dyma rhywbeth sydd wedi bod yn diethr yn llawer rhy aml yn y
Byd Cymraeg, sef sylweddoli fod unrhywbeth sydd yn digwydd yng Nghymru neu i
Gymro / Gymraes yn digwydd mewn cyd-destyn ehangach.
Rydym mor ofn fel Cenedl dygymod a’r
ffaith ein bod yn rhan o Wledydd Prydain, cawn gytuno a, neu wrthwynebu goblygiadau
hynny yn cyd destyn gwleidyddol, ond rydym yn rhan o’r un cyd-destun yn
gymdeithasol os nad diwylliannol yn aml, does dim modd osgoi hynny. Mae modd
felly i agweddau Cymreig, neu’r cyd-destyn Cymreig, fodoli oddi fewn i sawl
cyd-destyn, un Prydeinig, un Ewropeaidd, un Rhyngwladol. Mae teithiau cynnar
Parry-Williams yn cael eu hadrodd o fewn y cyd-destyn ehangach.
Cymerwych
Parry-Williams yn cyrraedd Prifysgol Freiburg yn y flwyddyn 1911. Mae’n treulio
dwy flynedd yno ac yn gadael blwyddyn cyn ddechrau’r Rhyfel Mawr. Dyna chi
gyd-destyn diddorol i ddechrau ond yr hyn sydd gan Angharad yw cyd-destyn y
Brifysgol hon yn yr Almaen o ran bywyd a disgwyliadau academaidd y cyfnod. Un
agwedd ddiddorol oedd pwyslais y Brifysgol ar i fyfyrwyr fynychu darlithoedd tu
allan i’w meusydd craidd, er mwyn cael darlun ehangach – addysg er mwyn dysgu
nid er mwyn gradd yn unig, am flaengar.
Awgrymai
Angharad i Parry-Williams fynychu darlithoedd o’r fath a does dim ofn gan yr
awdur ymhelaethu ar gyd-destyn academaidd Prifysgol Freiburg gan nodi er
engraifft fod yr Athro Sooleg, August Weismann (1834-1914) yno ar yr un pryd a
Parri-Williams, sef un o fiolegwyr amlycaf ei ddydd a dyn wanaeth waith yr un
mor arloesol a Darwin yn y maes esblygiad. Felly mae’r Cymro o Rhyd Ddu yn cael
ei osod, heb os, yn y cyd-destun ehangach, un Ewropeaidd ac un sydd yn perthyn
i gyfnod penodol ar ddechrau’r Ugeinfed Ganrif.
Rhaid
dweud mae yna rhywbeth iach iawn am y darlun yma sydd yn cael ei gyflwyno gan
Price. Diddorol iawn yw sylweddoli mae ond am yr unarddeg mlynedd cyntaf o’i
fywyd bu Parry-Williams yn Rhyd Ddu go iawn. Yn dilyn ysgoloriaeth i fynd i’r
ysgol ym Mhorthmadog, yn hogyn prin yn ei arddegau, dydi Parry-Williams ddim yn
dychwelyd go iawn. Cawn gipolowg ar falchder ei dad (athro ysgol) wrth ei fab
fynd i Port a’r tad balch yn ei hebrwng ond anodd dychmygu’r teimladau a’r
emosiynau bu rhaid i’r TH ifanc druan ddygymod a nhw wrth fod ffwrdd o adre, ffwrdd o dad a mam –
er heddiw dydi Port ddim yn bell ond dyddiau hynny roedd yn golygu aros mewn
‘lojins’ drwy’r wythnos.
Cysylltir
Rhyd Ddu a Parry-Williams bob amser. ‘Mae darnau ohonnaf ar wasgar hyd y fro’,
a bron amhosib yw gyrru drwy Rhyd Ddu heb godi llaw ar yr Ysgoldy a darllen y
frawddeg uchod ar ei gofeb llechan. Ond mae’r daith yn mynd drwy Rhydychen,
dychmygwch, a throsodd wedyn i gyfandir Ewrop – dyma antur academaidd,
ddiwylliannol – hynod – a hynny o bentref bach wrth droed yr Wyddfa. Y
rheilffordd oedd y ffordd allan, a’r stesiwn bach yn Rhyd Ddu yn ddrws i fyd
arall.
Heb os mae sylwadau Parry-Williams
ar ei gyd-feirdd, fel beirniad eisteddfodol a fel dyn oedd yn dechrau rhesymu a
mynegi barn yn werth eu clywed. Beth oedd y gwahaniaeth barn hefo rhai fel John
Morris Jones ac yn weddol amlwg awgrymir gan Angharad fod Parry-Williams yn fwy
na pharod i fynegi barn yn ddi-flewyn ar dafod. Roedd un engraifft o
ddefnyddio’r gair “erthyl” am ymdrechion un barbd druan, sydd yn eitha eithafol
o llyfn mewn ffordd ac eto dyna sydd ei angen ynde – peidio bod ofn mynegi barn
yn y Gymru Cymraeg.
Does dim modd gwneud cyfiawnder a
llyfr mor swmpus mewn colofn mor fer a hon. Nid llyfr ar gyfer amser gwely mo
‘Ffarwel i Freiburg’, ond llyfr efallai ar gyfer pnawniau oer a gwlyb. Rhaid
wrth ganolbwytio, rhaid bod yn barod i ddarllen, ond rhaid ategu’r hyn
ddywedais ar ddechrau’r golofn hon, mae Angharad Price wrth gyhoeddi’r hanesion
yma, wrth gyhoeddi’r gwaith ymchwil penigamp, os nad syfrdanol, yma – wedi ac
yn gwneud cymwynas a’r Genedl.
No comments:
Post a Comment