Cefais noson fendigedig yn ddiweddar yng nghwmni dwy gangen
o Merched y Wawr, cangen Talsarnau a changen Penrhyndeudraeth. Roedd cryn
drafodaeth wedi bod o flaen llaw ynglyn a chynnwys fy sgwrs, fel arfer byddaf
yn dewis rhywbeth sydd yn ymwneud ac Archaeoleg ond doedd hyn ddim i weld yn
apelio ac wrthgwrs doedd trafod ‘Teithio Ewrop gyda’r Anhrefn rhwng 1988 a
1994’ ddim yn ail ddewis medrwn ei gynnig.
Ar ol
hir drafodaethau dros y ffon dyma gytuno ar ‘Sgwennu Colofnau’ (awgrym Cangen
Talsarnau) a wyddoch chi beth, dyna syniad bach da, rhywbeth mor syml a hynny,
a rhywbeth rwyf yn dreulio nifer o oriau yn wythnosol yn ei wneud. Felly y cam
cyntaf oedd ceisio rhoi trefn ar hyn i gyd, bydd angen sgwrsio am oddeutu awr,
bydd angen i’r sgwrs fod yn ddiddorol ac yn hwyliog a bydd angen digon o
luniau.
Efallai
fod cefndir a chyd-destun yn lle da i gychwyn, felly rwyf yn mynd a nhw yn ol i
Lanfair Caereinion ac yn ceisio esbonio sut bu i mi ddechrau sgwennu ac yn fwy
pwysig efallai, mynegi barn. Yn ei hunangofiant mae Sian James yn crisialu hyn
cystal a neb “aeth Rhys wedyn drwy ei gyfnod blin….. yn herian pawb a phopeth, a
fedrwn i yn fy myw a chysoni’r person annwyl, afiethus y bu’m yn ffrindie efo
fo dros y blynyddoedd ar pync ifanc cecrus oedd mor uchel ei gloch ar y teledu
a’r radio !”
Un o’r pethau hanfodol yn fy
hanes i wrthgwrs oedd dylanwad Punk Rock a’r Sex Pistols ond fod hynny wedyn
wedi troi yn awydd, yn angerdd ac yn genhadaeth i greu y pethau yma yn y
Gymraeg, nid fel efelychiadau eil-dwym ond fel cerbyd i fynegiant hollol
Gymraeg a Chymreig oedd heb fodoli cyn hynny. Do cafwyd hwyl yn esbonio hyn,
roedd pawb wedi adnabod llun “Johnny Rotten” a tybiaf mae dyma’r tro cyntaf
erioed i lun o’r Sex Pistols gael ei ddangos mewn sgwrs i Merched y Wawr.
Ond doedd dim oedi ar y
cyd-destyn Seisnig i fod, doedd dim angen, cefndir yn unig oedd hyn i esbonio
sut cafwyd chwyldro diwylliannol yn y Byd Pop (a sgwennu) Cymraeg yn ystod yr
80au, yr hyn fedyddwyd yn “Sin Danddaearol” a sydd hyd heddiw yn gyfrifol am
greu rhai o feirdd mwyaf beiddgar Cymru, David R Edwards, Mark Cyrff a Gruff
Rhys – beirdd wrthreswm sydd heb eu hurddo a mawr yw fy ngobaith na fydd “urdd”
yn dod iddynt chwaith achos fe fydda hynny yr arwydd mwyaf o fethiant llwyr.
Do fe dreuliwyd dipyn ar gyfnod
colofn Y Faner (1984-85). Roedd yn amlwg faint o barch oedd i’r golygydd Emyr
Price yn yr ystafell ac esbonias fel y cefais ryddid anhygoel gan Emyr i ymosod
yn fisol ar y “Byd Cymraeg”. Cyd-destyn hyn esboniais oedd cylchgronnau fel The
Face a colofnwyr miniog eu teipiadur fel Julie Burchill a Jon Savage. Roedd
pawb yn dilyn, neb yn pendwmpian a finnau yn fewnol yn gweddio fod neb yn dweud
“dyna ddigon Mr Mwyn”.
Roedd angen y cyd-destyn yma er
mwyn i’r stori wneud synnwyr ond gwybio heibio Burchill a Savage oeddwn i, dim
ond egluro fod fy arddull i pryd hynny yn deillio o ddylanwad y cymeriadau
tanllyd yma. Roedd colofnau’r Faner yn perthyn i’w hamser wrthgwrs. Parod iawn
oeddwn i gydnabod gwendid a diniweidrwydd y colofnau ond o ran neges roeddwn
hefyd yn glir – “dwi’n dal i gredu yr un peth, does dim wedi newid yn hynny o
beth”.
Un peth a’m trawodd wrth sgwrsio
yw mor brin yw’r cyfleoedd bellach i drafod diwylliant Cymraeg ar y Cyfryngau.
Nid fy ngholofn yn yr Herald yw’r lle gan fod llais unfrydol yn galw am
golofnau am Hanes Cymru ac heblaw am ambell i gyfraniad i Barn, prin iawn yw fy
sylwadau diwylliannol y dyddie yma. Cofiwch mae elfen amheus ynddof fod y
Cyfryngau ddigon hapus hefo hyn – “mae Mwyn yn Archaeolegydd bellach felly does
dim ei angen i drafod Canu Pop”. Rwyf rhwng dau le, yn hapusach yn y Byd Hanes
heb os, ond heb ymddeol yn llwyr o’r Byd Pop chwaith.
Er fod Archaeoleg fel prif destyn
y sgwrs wedi ei wrthod, dyma gyrraedd colofnau’r Herald a dyma ni yn ol ar dir
cyfarwydd i bawb. Defnyddiais engreifftiau diweddar o luniau dynnais ar gyfer y
golofn bob trydedd wythnos, sef y rhai gyda llun, er mwyn son am y broses o sgwennu a hefyd i
gael symud y sgwrs tuag at beddrod anhygoel Bryn Cader Faner, cromlechi hynafol
iawn Neolithig Dyffryn Ardudwy, y dosbarth Archaeoleg sydd gennyf yn Y Las Ynys
Fawr, ie braf oedd cael dychwelyd i’r tir cyfarwydd ac esgus i ddangos lluniau
o wynebau cyfarwydd i’r merched.
Rwy’n cyfaddef i mi dynnu coes
ychydig ar trydar o flaen llaw, “sut mae esbonio Julie Burchill i Merched y
Wawr ?” ond mewn gwirionedd roedd pawb yn hapus i dderbyn y cyd-destyn, y
storiau a’r hwyl wedi’r cwbl oedd yn cynnal y noson. Cefais gyfle i greu
darlith fydd yn ddefnyddiol eto yn y dyfodol, ac wrth deithio adre o Dalsarnau
dros Bont Briwet ac Afon Dwyryd islaw, dyma ddiolch yn fewnol i Merched y Wawr
am eu gwahoddiad, eu croeso cynnes, eu parodrwydd i wrando, y banad a sgwrs
wedyn – roedd hon wedi bod yn noson fendigedig.
Beth bynnag oedd fy nghyfraniad i
ac eraill i’r Byd Pop Cymraeg yn y cyfnod “Tanddaearol” does byth wahoddiad o
Brifysgol na Choleg i drafod y cyfnod yma, sydd yn fy synnu rhywsut na fyddai
Hanes Diwylliant Cyfoes Cymraeg yn cael ei drin a’i drafod yn Academaidd
bellach. Ond o ystyried y croeso a’r derbyniad yn Nhalsarnau dwi ddim am golli
gormod o gwsg am hynny. Edrychaf ymlaen at y noson nesaf yng nghwmni Merched y
Wawr !
No comments:
Post a Comment