Dychwelais i Ynyscynhaiarn, yr hen eglwys ger Pentrefelin yn
Eifionydd; roeddwn wedi treulio’r bore ar gwrs ar gyfer Tiwtoriaid Coleg
Harlech ym Mhorthmadog, sydd o hyd yn ddifyr, ond erbyn ganol pnawn roedd angen
dipyn o awyr iach arnaf felly dyma benderfynu gadael y car ym Mhentrefelin a
cherdded draw am yr Eglwys. Rwyf wedi son am hanes John Ystumllyn o’r blaen, ef
yw’r enwog “Jack Black”, ac yn sicr roeddwn am ail-ymweld a’i garreg fedd.
Mae’n
dro bach hyfryd o Bentrefelin i Ynyscynhaiarn, gan gerdded ar hyd y sarn dros
yr hen dir corsiog ac ar bnawn Sadwrn o Hydref fel hyn doedd fawr o neb o
gwmpas, doedd yna ddim swn y Byd, felly dyma fwynhau ugain munud o ddistawrwydd
rhwng y lon fawr a’r hen Eglwys. Rhaid cyfaddef erbyn i mi gyrraedd roeddwn
wedi rhyw hanner anghofio lle roedd carreg fedd “Jack Black”, roeddwn yn
cofio’r ochr iawn i’r llwybr ond roeddwn
yn credu ei fod yn agosach at yr Eglwys.
Doedd
dim amdani ond dechrau o’r Eglwys a cherdded nol ac ymlaen ar hyd y rhesi yn
systematig, cofiaf fod y garreg yn un oedd yn sefyll i fyny, ond siom fawr o
ddarganfod y garreg oedd sylweddoli pam mor ddrwg mae’r geiriau arni wedi
erydu. Dipyn o gamp eu darllen bellach, roedd enw John Ystumllyn yno i’w weld
ond yr englyn ar y gwaelod, wel bron yn amhosib i’w ddarllen.
Gwr
arall a gladdwyd yn y fynwent yw Robert Isaac Jones, mae ei garreg fedd ger
porth y fynwent ar yr ochr dde fel mae rhywun yn mynd i mewn, a diddorol iawn
yw nodi mae ei enw barddol oedd ‘Alltud
Eifion’ sef y gwr a sgwennodd hanes John Ystumllyn yn ol ym 1888. Rwan mae
llyfryn Alltud Eifion bellach wedi ei lun gopio gan Gyfeillion yr Eglwys felly
mae modd darllen y llyfryn yma, ond rhaid cyfaddef dwi rioed wedi dod o hyd i,
na gweld, copi gwreiddiol. Efallai gall rhai o ddarllenwyr Y Casglwr ddod o hyd
i gopi ?
A dyma
chi ddarllen diddorol. Llyfr sydd yn perthyn i’w cyfnod heb os, ac a gyhoeddwyd
yn wrieddiol yn Nhremadog a hynny yn y Gymraeg. Cyfieithiad Saesneg yw’r
llungopi sydd ar werth yn yr Eglwys er fod naws y llyfr wedi ei barchu. Wrth
ddarllen y llyfryn a cheisio dychmygu sut fath o fywyd oedd gan John druan,
fe’m atgoffwyd ychydig o golofn “ddadleuol” Angharad am H.M Stanley yn
ddiweddar. Yn sicr dydi’r math o Iaith, disgrifiadau a damcaniaethau sydd yn
cael eu crybwyll gan Alltud Eifion ddim yn rhai sydd yn gwneud darllen hollol
gyfforddus i ni heddiw.
Nid fod
rhywun am eiliad yn awgrymu fod Alltud Eifion yn hiliol mewn unrhyw ffordd
achos mae’n ymddangos i John Ystumllyn gael ei dderbyn gan y gymdeithas leol ac
yn sicr roedd cryn ddiddordeb ynddo ymhlith y genod lleol, felly da ni ddim yn
som am eithafwyr adain dde yn Eifionydd ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg o
gwbl yn fan hyn !
Ond yn
ei gyflwyniad mae Alltud Eifion yn son am John fel un o feibion Han a gipwyd
dros gan mlynedd yn ddiweddarach o Affrica bell. Mae hyd yn oed son fod un o
deulu Wynn, Ystumllyn, un oedd yn berchen ar gwch, wedi ei gipio o Affrica pan
oedd John ond yn 8 oed. Dyna chi stori frawychus, ond cwestwin da os oes unrhyw
sail i hyn ? Yn ol Alltud Eifion, mae rhai o’r hanesion yn y llyfryn yn rhai
gafodd gan ei fam. Naturiol fod yr hogyn bach du wedi bod yn destun sawl sgwrs
a dros y blynyddoedd fod y storiau wedi tyfu i fod yn chwedloniaeth pur.
Parhau
yn sicr mae’r cwestwin o sut daethpwyd ac ef yma i Eifionydd, ac o ble y daeth,
a’i o Affrica yn syth i Gymru neu oedd John druan yn rhan o’r holl broses o
fasnachu pobl, y broses erchyll honno roedd cymaint o ddinasyddion Cymreig
ddigon parod i fod yn rhan ohonno (meddwl am Twm Chware Teg, teulu Penrhyn).
Soniwyd sut y bu i John gael ei fedyddio yng Nghricieth neu yn Ynyscynhaiarn
gan deulu Ystumllyn ond y disgrifiad o’r hogyn bach gan Alltud Eifion sydd yn
taro’r hoelen ar ei phen ac yn creu y ddelwedd mwyaf ysgwytol a brawychus. Fe ddefnyddiaf y cyfieithiad Saesneg o’r
llyfryn yma er mwyn cyfleu’r hyn sydd
dan sylw. “When he first arrived he was
terrified of all strangers and spoke no proper language; he could only utter
doglike howls and screams”.
Wrth reswm, mae’n rhaid fod
yr hogyn bach ofn am ei fywyd, ond y disgrifiad efallai sydd yn agrymu’r
safbwynt lled Imperialaidd, sef cyfnod Victoria a’r Ymerodraeth Brydeinig yn ei
anterth, hynny yw, fod yr hogyn bach du yn anwaraidd, yn sgrechian fel ci, ac
heb Iaith – sgwni wir ?
Wedyn
mae cofnod arall “It took them a long
time to civilise him and during this time he was not allowed out; but after
much effort by the ladies he learnt two languages and learnt to write”. Ond gwella mae’r stori, a fel mae Jack yn tyfu
i fod yn ddyn ifanc golygus mae’n debyg fod cryn gystdadleuaeth ymhlith merched
y fro i hawlio ei sylw.
Mae’n
stori hynod ddiddorol, a bellach mae cerdyn post o’r garreg fedd ar gael yn yr
Eglwys, sydd yn dangos yr ysgrifen ddipyn gwell na’r lluniau dwi’n gael ar fy
nghamera digidol. O fewn y fynwent mae cerrig bedd Ioan Madog, Ellis Owen
Cefnmeusydd, James Spooner (un o gynllunwyr Rheilffordd Stiniog) ac wrthgwrs
Dafydd y Garreg Wen.
Stori hynod diddorol
ReplyDelete