Welsh Rock at the moment is
almost exclusively aimed at middle class children rather than working class
kids” Scorcher 1982.
Mae hyn rhai blynyddoedd cyn i’r diweddar Emyr Price roi
gofod i mi herio’r Sefydliad Cymraeg yn y Faner, yn wir yn ol ym 1982 doedd
fawr o neb yn cymeryd sylw na diddordeb yn y ffansins oedd yn cael eu cyhoeddi,
y casetiau oedd yn cael eu rhyddhau na’r grwpiau newydd “tanddaearol” oedd yn
trio rhoi llais i’r gynulleidfa anweledig Gymraeg, (sef unrhywun oedd ddim mewn
neuadd breswyl Prifysgol Cymru).
Tybiaf
fod y Sefydliad mwy na thebyg heb glywed am fodolaeth y grwpiau tanddaearol neu
os oedd unrhyw ymwybyddiaeth o gwbl ganddynt, mae’r teimlad oedd “anwybyddwch
nhw a mi ddiflanau ddigon cyflym”. Ond gyda’r cyhoeddiad Scorcher, dan
olygyddiaeth Ian Bone a oedd yn ddiweddarach i lansio’r papur Class War, fe
gafwyd, efallai am y tro cyntaf, erthygl drwy gyfrwng y Saesneg ym lambastio’r
Byd Cymraeg.
Gan fod
hwn yn gylchgrawn anarchaidd ac yn rhyw fath o rhagflaenydd i Class War, fe benderfynais
alw pawb oedd yn gweithio i’r Cyfryngau Cymraeg yn “hipis allan o gysylltiad”.
Dim byd newydd na chwyldroadaol – roeddwn i a nifer arall wedi bod yn pledu
cyhuddiadau o’r fath mewn ffansins ers dechrau’r 80au ond – roedd rheini yn y
Gymraeg – fydd neb yn eu darllen !
Ond
gyda cyhoeddiad Seasneg dyma ysgwyd ychydig ar y Sefydliad Cymraeg – yn bennaf
am nad oedd neb yn rhyw sicr iawn beth oedd cylchrediad Scorcher. Wrth ddarllen yn ol, rwyf yn weddol
sicr mae hwn yw un o’r darnau gwaethaf i mi sgwennu erioed ond, fe gafod effaith ………
Gawn ni weld y darn llawn?
ReplyDeleteEfallai byddai mwy o ddiddordeb nawr achos mae diwylliant Cymraeg yn boddi ei hun mewn retromania.
Rhaid mi sganio'r erthygl i gyd pan gaf gyfle!
ReplyDelete