Sunday 9 September 2012

Tuduriaid Penmynydd Herald Gymraeg 5 Medi 2012


 
Dyma chi gwestiwn diddorol, be da ni fod i neud hefo’r Tuduriaid ’ma yn Sir Fon ? Y cysylltiad brenhinol, Teulu Penmynydd, yda ni fod i ymfalchuo fod disgynnydd teulu Penmynydd wedi dod yn Frenin ar Loegr ym 1485 neu fel Cymry, yda ni i fod i wfftio’r fath gysylltiad, a chyfansoddi rhyw fath o anthem arall, fel “Carlo”, ar gyfer y cyfnod Canol Oesoedd, i ddangos ein lliwiau a’n gwrthwynebiad ? Ond dydi pethau byth mor syml a hynny chwaith ………

                Nid fod hon yn ddadl sydd yn chael ei thrafod mor aml a hynny, a dweud y gwir, dwi ddim mor siwr faint o bobl sydd hyd yn oed yn ymwybodol o’r cysylltiad, ond fel arfer, mae yna hanes diddorol iawn yma yn ardal Penmynydd a fel byddaf yn awgrymu bob amser, rhydd i bawb ei farn ond mae’r hanes, beth bynnag eich safbwyntau gwleidyddol, yn ofnadwy o ddiddorol.

                Gan droi at ddechrau’r stori, a mae hyn yn ei hyn yn cymhlethu pethau o ran safbwynt gwleidyddol, dyma ni Ednyfed Fychan (1170-1246) swyddog cyfreithiol yn Llys Llywelyn Fawr, ar yr ochr iawn fel petae. Ond wedyn mae ei ddisgynyddion, Tudur ap Gronw yn amlygu ei hyn yn y Llys Seisnig a’i fab wedyn, Goronwy neu Gronw Fychan yn amlwg fel milwr yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd yn erbyn Ffrainc, yn amlwg ar yr ochr Seisnig –Normanaidd.

                Ac wrth son am y llai cyfarwydd, i rai yn sicr, dyma droi at Eglwys Sant Gredifael, eglwys lle mae’r safle yn dyddio yn ol i’r 6ed ganrif, er fod yr Eglwys gerrig wreiddiol yn bennaf yn dyddio o’r Canol Oesoedd er iddi gael ei ail-adeiladu wedyn ym 1848. Ar y lon fach gefn rhwng Rhoscefnhir a Phenmynydd, di-arffordd bron, pell i gerdded a naws unig iddi ond ar ddiwrnod braf o Haf, lle hynod braf i ymweld a hi.

                Er fod yr Eglwys dan glo, roeddwn yn benderfynol o fwynhau fy ymweliad, ac wrth grwydro o amgylch yr Eglwys dyma ddod ar draws y ffenestr enwog ar yr ochr ddeheuol, gyda’r gwydr lliw, y Rhosyn Tuduraidd coch, y cleddyfau a’r portcullis. Darn bach o hanes yn wir. Ac oddi fewn i’r ffenestr mewn cornel fach i’r Eglwys gorweddai Gronw Fychan a’i wriag Myfanwy mewn cist alabastr yn dyddio oddeutu 1385. Rhaid oedd edrych arnynt o bell drwy ffenestr llychlyd. Gwnes fy ngorau i gymeryd yr holl beth i mewn wrth edrych drwy’r ffenestr ond roeddwn yn sicr fod rhaid wrth ymweliad arall, call, gyda’r drws ar agor y tro nesa !

                Ymlaen a ni drwy hanes, ac unwaith eto, mae’r Tuduriaid yn ymddangos ar “yr ochr iawn”, y tro yma wrth i  Maredydd ap Tudur gefnogi gwrthryfel Glyndwr ar ddechrau’r Bymthegfed Ganrif. Ei fab wedyn, Owain Tudur yn cysylltu ei hyn gyda Harri’r Pumed yn y Llys yn Llundain, a Owain Tudur mewn ffordd yw’r dyn sydd yn bwysig yn yr ystyr mae dyma’r cysylltiad gyda Harri’r Seithfed.

                Bu farw Harri’r Pumed gan adael ei wraig, Catherine, ond yn un ar hugain oed, hi wrthgwrs oedd Katherine de Valois, neu y “dear Kate” yn ol Shakespeare (Henry V) a fe ail briododd Catherine yn gyfrinachol gyda Owain Tudur. Ei wyr nhw, yw Harri Tudur (Harri VII), a laniodd yn Aberdaugleddau ac aeth yn ei flaen i drechu Rhisiart III ar Faes Bosworth gan ddechrau y cyfnod Tuduraidd wedyn.

                Cartref y teulu Tuduraidd oedd Plas Penmynydd, ychydig filltiroedd i’r de ddwyrain o Langefni ger yr Afon Ceint, er fod y ty presenol yn dyddio oddeutu 1576, a mae’r ty bellach mewn meddiant preifat. Cefais gyfle yn ddiweddar i ymwled a’r Plas drwy arwain taith o amgylch Ynys Mon yn edrych ar y cysylltiadau “Brenhinol” fel rhan o’r prosiect Mona Antiqua. A rhag i chi gyd wylltio, roedd y pwyslais ar Llywelyn Fawr, Siwan, Llys Rhosyr, Cadfan a rhan fechan iawn o’r diwrnod oedd yn gorfod cael ei dreulio yn crybwyll William a Kate (a hynny wrth fynd heibio Waitrose !).

                Daeth safle Llanfaes i mewn i’r sgwrs drwy gydol y diwrnod, fel cartref gwreiddiol sarcoffagws Siwan, fel lleoliad gwreiddiol bedd Gronwy a Myfanwy a hyd yn oed fel ffynhonnell rhai o’r cerrig yn yr adeilad 1576 ym Mhlas Penmynydd. Mae sawl carreg i’w gweld ym mur allanol Penmynydd sydd ar llythyren “I” neu “J” arnynt, sef Iesu ac o feddwl fod Afon cefni ar un adeg yn agored i’r mor, digon hawdd fyddai cludo cerrig o Lanfaes ar hyd yr afordir a wedyn drosodd i gyfeiriad Llangefni drwy Malltraeth.

                A bod yn hollol onest, ychydig o sylw roeddwn wedi ei roi i’r cysylltiad Tuduraidd a Mon hyd yma, mae fy sylw i ran amla yn cael ei hawlio gan y Cyfnod Cyn-hanesyddol ac yn wir roedd rhaid wrth y Map O.S i ddarganfod troad Plas Penmynydd. Ond rhwng hen Eglwys Gredifael a’r Plas ei hyn, heb son am ddipyn o ddarllen gartref wedyn am Bosworth ac yn y blaen dyma sylweddoli fod hyn i gyd yn plethu, o Llywelyn Fawr, drwy Glyndwr at Harri VII a mae’n rhywbeth sydd yn amlwg ddim yn cael digon o sylw o ran rhoi Mon ar y map.

                Doedd dim rhaid cymeryd “ochr”, doedd dim rhaid poeni gormod am safbwyntiau gwleidyddol (heblaw am y darn Waitrose) a chafwyd diwrnod hyfryd iawn yn darganfod perlau bach o amgylch Mon. Mae Eglwys Llangadwaladr yn un arall sydd yn haeddu colofn gyfan rhywbryd eto.

               

               

 

No comments:

Post a Comment