Efallai fod rhai o ddarllenwyr yr Herald yn ymwybodol fod
Mis Medi yn fis “Drysau Agored”, sef cyfle i gael gweld adeiladau sydd ar y
cyfan ddim ar agor i’r cyhoedd fel arfer, er fod eithriadau, lle mae
amgueddfeydd ac archifdai er engraifft yn cynnig rhywbeth ychwanegol a
chyfleoedd i weld y stordai. Neu ffordd arall o ddweud hyn yw – cyfle da i gael
busnesu – ond mewn adeiladau hanesyddol, hen dai ac Eglwysi, pob un yn hynod
ddiddorol a felly penwythnos dwetha dyma gymeryd mantais llawn o’r cyfle gan
ymweld yn gyntaf ar Eglwys Bresbyteraidd ar y Maes yng Nghaernarfon.
Diddorol
oedd cerdded i mewn i’r Eglwys, a hynny am y tro cyntaf, a sylwi fod eraill yn
amlwg yn gwneud yr un peth a fi. Roedd hogyn yna roeddwn yn ei adnabod o ran ei
weld a felly dyma ei gyfarch. Dywedodd ei fod yn siomedig iddo golli un o fy
nheithiau tywys o amgylch Segontium ar ran CADW yr Haf yma a dyma sylweddoli
fod cymaint o bobl, efallai o dan y radar o ran Cymdeithasau Hanes a Llen sydd
yn ymddiddori mewn hanes. Yr anweledig.
Yn wir
dros yr Haf cefais nifer o “Cofis go iawn” yn ymuno a mi o amgylch Segontium,
pobl leol, Cymry Cymraeg, pobl oedd yn gwybod llawer o hanes achos roedd eu
teuluoedd yn hen deulu o Gofis, wedi byw yng Nghaernarfon ers blynyddoedd
maith. Dysgais innau cymaint oddi wrthynt hwy ac efallai ddysgo’ nhw gennyf i,
a dyma sgwrs arall yn yr Eglwys, y ddau ohonnom yno am y tro cyntaf, ond yno
oherwydd “Drysau Agored”.
Diddorol
nodi hefyd faint o’r Cofis yma, gymharol ifanc, yn eu 30au, 40au sydd yn amlwg
yn ymddiddori mewn cerddoriaeth a mwy na thebyg peldroed hefyd, ond unwaith
eto, o dan y radar, ddim yn rhan o’r bybl Cymraeg, go brin y gallant enwi can
gan Cowbois Rhos Botwnnog, go brin eu bod yn wrandawyr C2 ac eto mi fydda nhw’n
mwynhau petae ond modd eu cyrraedd.
Dwi’n gweld hyn yn ofnadwy o
ddiddorol; pam fod y Byd Cymraeg yn dal
i fethu cyfathrebu a thrwch y siaradwyr Cymraeg ? Mae wir angen dipyn o
ddemocrateiddio, fel cafwyd efallai yn niwedd y 70au, oleiaf yn y maes diwylliant
poblogaidd, pan chwalwyd yr hen drefn
gan y chwyldro a’r ffrwydriad pync – a phan gafwyd o ganlyniad, grwpiau Cymraeg
wedyn yn ffurfio ddechrau’r 80au, grwpiau “dosbarth gweithiol” fel Y Cyrff neu
Elfyn Presli ac yn naturiol ganu yn
Gymraeg heb yr un aelod rioed fynychu Eisteddfod. Hynny mewn trefi fel Llanrwst
a Phorthmadog – tu allan i’r cylch ddieflig o drefi Coleg a Neuaddau Preswyl,
cadarnleoedd y bybl.
Ond math gwahanol o gerddoriaeth
oedd yn yr Eglwys, wrth i Alun yr organydd daranu ar yr organ hynafol, gyda
dros 800 o bibelli a osodwyd gan William Rushwoth ym 1887. Fe aeth Alun a fi o
amgylch yr Eglwys, i fyny i’r oriel i ryfeddu ar y to pren, y nenfwd drawiadol,
ac i edrych lawr ar yr organ, yn disgleirio yn las yng ngolau’r haul. Pensaer
yr Eglwys oedd Richard Owen, Pwllheli a gynlluniodd Engedi a’r Institiwt yng
Nghaernarfon ddiwedd y Bedwraedd Ganrif ar Bymtheg.
Math gwahanol iawn o adeilad oedd
hi ar y Sul canlynol wrth i ni fentro am Hafoty, Llansadwrn, neu Ty Neuadd Hafoty
i fod yn fanwl gywir. Ty yn dyddio yn ol i’r pymthegfed ganrif, a thy
sylweddol, yn perthyn i deulu cyfoethog a dylanwadol heb os. Nid hafoty yn yr
ystyr o dy yn uwch ar y mynydd ar gyfer bugeilio dros yr Haf yw y ty yma ond yn
hytrach math o dy a ddisgrifir fel “ty neuadd”
gyda neuadd ganolig a dwy adain i’r naill ochr. Mae’n glamp o dy wedi ei
wyngalchu.
Efallai’n wir i’r ty gael ei
adeiladu gan deulu Norres, roedd gwr o’r enw Thomas Norres o Orllewin Derby,
Swydd Caerhirfryn yn gapten ar warchodlu Castell Biwmares ym 1439 ac erbyn 1456
yn perchennog ar Bodarddar sef yr enw gwreiddiol ar y stad. Drwy briodas ac
etifeddiaeth daeth cysylltiad a theulu Norres o Speke ger Lerpwl ond erbyn 1511
roedd y stad wedi ei drosglwyddo i deulu’r Bulkeley’s a’r Bulkeley’s sydd yn
dal yn berchen ar y stad hyd heddiw. Cymhelth iawn y byddaf yn gweld yr hanes yma o briodas ac
etifeddiaeth, efallai fod modd ei symleiddio, mae’r tai a’r stadau yma yn cael
eu trosglwyddo o un genhdlaeth i’r llall o’r boneddigion.
Dryslud a chymhleth, os nad
diflas, teimlaf yw’r llyfrau tywys sydd yn ceisio esbonio’r “goeden deulu”, yn
aml mae stadau yn cael eu trosglwyddo drwy briodas ond yn gyffredinol, pan mae
rhywun yn son am unrhyw stad mae’r hanes yn tueddu fod yr un peth – o fewn y
teuluoedd cefnog. Er hynny, dydi’r cefndir yma ddim yn amharu ar y pleser a’r
mwynhad o ymweld a Hafoty a mae tywysydd yno i’n croesawu. Mantais cael
tywysydd yw fod y tywysydd yn gallu dangos pethau i’r ymwelydd fydda’r ymwelydd
yn ei golli fel arall. Mae’r tywysydd hefyd yn gallu ateb cwestiynnau.
Os oedd gennyf unrhyw
feirniadaeth, ac un fechan iawn mewn un ystyr yw hyn, doedd y tywysydd ddim yn
gallu’r Gymraeg, ond yn Sir Fon, efallai bydda rhywun wedi disgwyl hynny, ddim
yn Neuadd Speke efallai, ond fe fyddai wedi bod yn braf rhaid cyfaddef cael siaradwr Cymraeg hefo ni ar Ynys Mon.
Byddaf yn argymell fod pobl yn
mynd draw i Hafoty fel rhan o Drysau Agored a bydd y neuadd ar agor ar y 23 a
30 o Fis Medi.
No comments:
Post a Comment