Yr hyn sydd fwyaf od efallai am Hen Caerwys yw fod pentref
cyfagos Caerwys yn debygol o fod yn hynach a mae rhyw fath o gangymeriad
anfwriadol gan yr archaeolegydd W.J.
Hemp yn ystod y 60au oedd rhoi yr enw “Hen” i’r safle hynod Canol Oesol yma
rhyw filltir neu ddwy i’r gogledd o’r pentref presenol. Mae’n debyg i Hemp
ymgynghori a hanesydd lleol o’r enw Ellis Davies ac iddynt gredu fod y safle
yma yn gynharach na’r pentref cyfagos.
Yn
draddodiadol yr enw a roddir ar safle fel hyn yw “Pentref Canoloesol Diffaith”
ond mae meddylfryd diweddar y Byd Archaeolegol yn tueddu i son am dirwedd sydd
wedi cael ei ffosileiddio, sef canrifoedd o olion byw ac amaethu wedi goroesi
ar y tir. Felly mae’n ddarlun cymhleth a hynod ddiddorol ac yn ddiweddar bu
CADW ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys yma yn ail edrych ar waith
cloddio Cymdeithas Hanes Sir y Fflint yn ystod y 60au dan ofal T. Pennant
Williams a G. Leach.
Yn
ystod cloddio’r 60au daethpwyd o hyd i dai canol oesol wedi eu hadeiladu ar
ochr y bryn, a adeiladwyd yn aml drwy gloddio i mewn i ochr y bryn er mwyn creu
safle gwastad a wedyn adeiladu’r seiliau o gerrig gan adael ffos neu ddraen o
amgylch y ty er mwyn cael gwared a unrhyw ddwr fyddai’n rhedeg o ochr y bryn.
Byddai’r tai o do gwellt hefyd wedi cynnwys ffram o bren i ddal y to. Calchfaen
yw’r graig naturiol yma felly digon hawdd yw adeiladu waliau o gerrig.
Un o’r
pethau diddorol am edrych yn ol ar waith o’r 60au yw fod y dechneg archaeolegol
wedi datblygu cymaint ers hynny ac yn sicr felly o ran cofnodi yn fanwl a
dulliau fel arolwg geo-ffisegol o ddod o hyd i olion o dan y ddaear. Am ryw
reswm mae’r rhan fwyaf o ganfyddiadau’r 60au wedi diflannu ond y son oedd
iddynt ddarganfod crochenwaith yn dyddio o’r 15fed ganrif yn ystod y gwaith
cloddio.
Ond mae cymeriad arall yn
ymddangos yn stori Hen Caerwys, sydd efallai yn gwneud yr holl beth yn hyd yn
oed fwy diddorol, gan fod stori y gwr yma yn ymdebygu i rhyw stori ddirgel,
rhywbeth fydda T. Llew Jones efallai wedi ei ddychmygu. Y gwr yw Tom Rogers, enw arall a gysylltir a’r
arloeswyr uchod o ran cloddio yn Hen Caerwys. Dywedir iddo fod o dras Canadaidd
ond does neb yn siwr iawn o’i gefndir na chwaith am ei gefndir archaeolegol.
Mae
Rogers “yr archaeolegydd” yn ymddangos fel petae o nunlle ar ddechrau’r 70au
gan honi fod ganddo gysylltiadau a Choleg y Brifysgol Bangor, er doedd neb i
weld yn siwr iawn beth oedd y cysylltiad, ond beth sydd yn sicr yw fod ganddo
ddiddordeb yn Hen Caerwys. Yn wir mae’n cyhoeddi erthygl ar Hen Caerwys yn y
cylchgrawn ‘Bulletin of the Board of Celtic Sudies’ ym 1979 gan drafod gwaith
cloddio Pennant Williams a Leach yn ol yn y 60au.
Bu son
hefyd fod gan Rogers ddiddordeb gwenud
gwaith cloddio pellach yn Hen Caerwys ond yn ol y son daeth dim o’r
trafodaethau a mae’n bosib i’w sylw symud yn fuan iawn wedyn at safle Ogof
Arthur yn Nyffryn Gwy. Cyhoeddodd Rogers ei fod wedi darganfod gwaith celf
palaeolithig, sef paentiadau ar y graig ond buan iawn cafodd ei
ddarganfyddiadau eu di-ystyru gan arbenigwyr.
Efallai
fod elfen yma o fyw mewn Byd ffantasi o ran Rogers, neu efallai fod archaeoleg
wedi hawlio ei sylw am ychydig flynyddoedd, cyn iddo fentro i rhyw faes arall – pwy a wyr ? Yn sicr bydd rhaid i mi fynd i’r
Archifdy i chwilota am ei erthygl yn y ‘Bulletin of the Board of Celtic Sudies’.
Fe fydd hynny yn sicr yn gwneud darllen diddorol. Ond yn wahanol iawn i anturiaethau Rogers,
roedd fy ymweliad i a Hen Caerwys ddiwedd mis Gorffennaf yn un ddigon arferol.
Roeddwn yn awyddus i gael gweld y safle ac yn fwy na bodlon rhoi help llaw os
oeddwn am fynd draw.
Digwydd
bod, roedd fy ymweliad ar ddiwrnod olaf y gwaith cloddio ond cefais groeso mawr
gan Bob Silvester a Wil Davies a hyd yn oed bore cyfan o gloddio hefo fy
nhrowal oddi fewn i un o’r adeiladau gan lanhau’r llawr am y tro olaf eleni
rhag ofn fod rhywbeth fel tyllau pyst yn ymddangos. Ond ar ol cinio yng
nghysgod Coedymarian / Coed Gerddigleision dyma ddechrau ar y gwaith go iawn,
rodd yn rhaid llenwi’r tyllau oedd wedi cael eu creu yn ystod Haf 2012.
Dyna
chi waith caled, tunelli o gerrig wal calchfaen yn gorfod cael eu rhoi yn ol i
mewn yn un o’r tai – a hynny gyda llaw. Fe fuodd pedwar ohonnom wrthi am ddwy
awr go dda yn eu gosod yn lled ofalus o amgylch seilia un o’r tai a gloddwyd yn
y 60au cyn rhoi’r pridd yn ol ar ei ben. Dyna ddiwedd y cloddio ar y ty yma am
byth mwy na thebyg.
Chwarddodd
nifer fy mod mor “wallgof” a dod ar y diwrnod olaf pryd bydd rhaid llenwi
tyllau ond fel esboniais, dyma oedd fy unig gyfle i ymweld eleni, a fel rheol
dwi’n llawer hapusach yn gwneud rhywbeth nac yn sefyllian o gwmpas. Dwi ddim yn
aelod da o’r gynulleidfa, gwell gennyf fod yn y sedd yrru mewn car, gwell
genynyf fod yn gweithio nac yn ymwelydd.
No comments:
Post a Comment