Rwyf am aros ym myd yr Eglwysi hynafol eto yr wythnos hon. A
dweud y gwir y bwriad oedd sgwennu am fy hoff wrthrychau, ar ffurf ‘Deg Uchaf’,
sydd yn Amgueddfa Gwynedd, ond gan fod stori newydd ei gyhoeddi gyda’r Curadur
Esther Robert yr wythnos dwetha yn yr Herald Gymraeg (5ed Fedi) fe gaiff y golofn yna aros am wythnos neu
ddwy. Felly rwyf am ddychwelyd i Eglwys Llangadwaladr, Gorllewin Mon a son am y
ffenestri hynafol.
Ond cyn
i ni gyrraedd Llangadwaladr, rwyf am fynd am dro bach. Does dim cysylltiad a’r
Cyn--Raphaelites a Sir Fon hyd y g’wn i, os oes, byddwn yn falch iawn o glywed,
ond yn sicr does dim cysylltiad gyda Rossetti, Millais a Holman Hunt a
Llangadwaladr rwy’n weddol saff o hynny. Mae’r Cyn-Raffaeliaid wedi dod yn fwy
fwy i fy sylw yn ddiweddar, yn bennaf oherwydd eu cysylltiad a’r cynllunydd
William Morris. Rwan mae gan Morris gysylltiad a Chastell Penrhyn (papur wal a
thecstiliau) a hefyd y ffenestr wydr yn Eglwys Forden yn dangos y dair forwyn
Mair, dyddiedig 1872, mewn arddull ddigon tebyg i’r Cyn-Raffaeliaid. Mi fydd
trip i Eglwys Forden yn golofn arall rhyw ben.
Yr hyn
am trawodd am y Brawdgarwch Cyn-Raffaelaidd gwreiddiol oedd eu hagwedd, yn wir
roedd dilynwyr fel John Ruskin yn gyfrifol am eu canmol a’u hyrwyddo yn y Wasg
a doedd Rossetti ei hyn ddim uwchlaw canmol ei hyn yn y Wasg dan y ffug enw
Fredric Stephens. Peth arall doniol am y “brodyr” oedd eu gwrthwynebiad chwyrn,
os nad atgasedd, tuag at Sir Joshua Reynolds, llywydd cyntaf yr Academi Brenhinol,
gwr a fathwyd yn “Sir Sloshua” gan Rossetti a’i gyfeillion.
Gair
arall o bosib a fathwyd gan Rossetti oedd “stunner” i ddynodi merch hynod dlws,
ac yn wir, fel bydda rhywun yn ei ddisgwyl gan artistiaid ifanc a gwyllt (a
gormod o laudanum lawr eu corn cwac), buan iawn roedd Rossetti yn cael
carwriaeth gyda Jane neu Janey Morris, sef gwraig William, y ferch a eisteddodd
ar gyfer cymaint o luniau Rossetti. Fe ddisgrifiwyd y Cyn-Raffaeliaid gan rhai
fel y “Mutual Appreciation Brotherhood” a dyma’r nodyn berodd i mi chwerthin
fwyaf.
Doeddwn
ddim yn ymwybodol o’r feirniadaeth yma, ond fe ddefnyddiais bron yr un
disgrifiad, y “Mutual Appreciation Society” i ddisgrifio mewnblygrwydd y Byd
Pop Cymraeg ar ddechrau’r 90au, sef i ddisgrifio’r hunnan-glodfori a’r hunnan-ganmol
ddaeth yn gymaint rhan o’r Byd Pop Cymraeg yn sgil sefydlu label recordio Ankst.
Wrth ddefnyddio’r disgrifiad heriol yma roeddwn yn awgrymu fod y grwpiau
bellach yn perfformio yn unig o flaen eu ffrindiau yn hytrach nac yn cenhadu i
gynulleidfaoedd newydd. Sefyllfa sydd yn cael ei ail adrodd heddiw i raddau er
nid gan bawb wrth reswm. Y gair arall am hyn yw’r ‘Bybl Cymraeg’ os mynnwch.
Mae’r
pethau ’ma o hyd yn gweu i’w gilydd, mae’n creu stori a mae modd creu storiau
newydd, pwy fydda wedu dychmygu fod modd sgwennu erthygl yn cysylltu’r
Cyn-Raffaeliaid ar Byd Pop Cymraeg ? Ond hefyd mae’n dangos fod “dadleuol” yn
hen stori ym myd y Celfyddydau, mae angen ddipyn o gynnwrf, o or-ddweud a hyd
yn oed o wrth-ddweud.
Wrth
ddarllen llyfr am William Morris a’r ffenestr hynod yn Forden, rwyf yn rhoi hyn
lawr ar fy rhestr o lefydd i ymweld a nhw, rhestr cynyddyol a rhestr maith ond
oleiaf rwyf nawr yn gallu croesi Llangadwaladr oddi ar y rhestr. Dydi hynny
ddim i ddweud na fyddaf yn dychwelyd, achos mae hynny yn sicr, ond oleiaf nawr,
rwyf wedi treulio pnawn difyr iawn yn yr Eglwys.
Mae’r
archaeolegydd wrthgwrs yn mynd yn syth am Garreg Cadfan, gyferbyn a’r drws, y
garreg fedd pwysicaf a mwyaf arwyddocaol ar Fon yn ol Frances Lynch, carreg
sy’n dyddio o’r 7fed Ganrif. Carreg fedd un o frenhinoedd cynnar Gwynedd yw’r
garreg, yn cyfeirio at Cadfan neu Catamanus sydd yn marw oddeutu 625 OC. Ond yr
arwyddocad mawr yw fod awgrym yma fod y Llys yn Aberffraw a’r Eglwys yn
Llangadwaladr wedi eu gwahanu yn fwriadol, mae afon rhyngthynt, a fod hyn yn
rhan o’r drefn.
Gorweddai
Carreg Cadfan bellach yn uchel ar y wal, wedi ei gosod ar ei fflat fel petae
gyda’r ysgrifen yn darllen yn gywir ond y groes ar ei hochr. Yn wreiddiol
byddai’r garreg wedei sefyll ar i fyny a’r groes yn syth a byddai rhaid darllen
yr ysgrifen o’r ochr dde am i lawr. Wedyn mae i’r ysgrifen neges ddiddorol dros
ben achos fe gyfeirir ar Cadfan fel “y doethaf a’r mwyaf uchel ei barch o’r
brenhinoedd”.
Mae’n
garreg werth ei gweld er fod ei safle yn uchel ar y wal efallai braidd yn
anaddas os nad anffodus, ond oleiaf mae’n saff ! Ac i droi wedyn at y ffenestr
ddwyreiniol yn y Gangell, a’r unig wydr o’r Canol Oesoedd i oroesi ar Fon. Yma
ceir darlun o Cadfan, yn eistedd yn ei wisg brenhinol, er fod cyfnod y wisg yn
cyfateb a ffasiwn y 15fed Ganrif. Nodyn arall o ddiddordeb yw fod gwydr ei ben
wedi ei atgyweirio yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.
Rhyfeddais
ar pam mor llwigar a byw oedd y ffensetr, Cadfan yn eistedd yn falch o dan yr
Iesu ar y Groes. I’w chwith mae llun o Meurig ap Llywelyn a’i wraig Marged
ferch Ifan Fychan ac i’w dde Owain am Meurig a’i wraig Elin ferch Robert. Ac uwch rheini ceir Mair i’r chwith a Ioan
i’r dde. Mae’n ffenestr rwy’n siwr y bydda William Morris wedi bod yn flach
iawn ohonni, a peth gweddol anghyffredin yw gweld delwedd mor eglur, mor fyw,
mor lliwgar o un o frenhinoedd cynnar Gwynedd mewn eglwys fel hyn.
No comments:
Post a Comment