Beth am
ddechrau’r drafodaeth gyda Tony Wilson (neu Anthony H Wilson, 1950-2007) y gwr
a sefydlodd y label recordiau Factory ddiwedd y 1970au a thrwy hynny dod a
grwpiau pop fel Joy Division a’r Happy Mondays i sylw ehangach. Ond, fe wnaeth
Wilson rhywbeth llawer pwysicach na buddsoddi mewn grwpiau pop a label recordio,
neu hyd yn oed clybiau nos, fe fuddsoddodd mewn syniad. A’r syniad oedd, fod dinas
Manceinion yn ddigon hyderus yn ei groen ei hyn i wrthsefyll dylanwadau a/neu
sel-bendith Llundain.
Felly dwy
wers i ni yma yng Nghymru, nid sel bendith Lloegr / Llundain yw’r mesur o
lwyddiant neu werth – wyddo’chi yr hen ystrydeb yn y Byd Pop, fod grwp pop
Cymraeg / Cymreig wedi cael eu harwyddo gan label yn Llundain neu wedi cael eu
chwarae ar BBC 6Music neu wedi cael adolygiad ffafriol yn yr NME. Diffyg hyder
diwylliannol yw credu fod rhywbeth Cymraeg / Cymreig yn dda ond os yw’r Saeson
yn dweud hynny wrthom.
Yr ail wers
gan Wilson, yr un anweledig sydd yn amhosib i’w fesur, yw’r un ynglyn a
buddsoddi mewn syniadau, buddsoddi mewn
balchder, buddsoddi mewn hunan barch. Nid buddsoddiad ariannol yw hyn ond
buddsoddiad yn ein diwylliant / hanes. I ddyfynnu Wilson "What
do I do? Tell the truth or go for the myth? - Go with the myth every
time". Buddsoddi mewn balchder dinesig wnaeth Wilson a hynny i raddau
drwy godi dau fys ar Lundain, chwarae y
Gogledd yn erbyn y De.
Yma yng
Nghymru, mae angen ail-ddiffinio’r frwydr bron, neu oleiaf newid y pwyslais.
Nid son am grwpiau pop yr wyf felly, er pwysiced diwylliant cyfoes Cymraeg, ond
son am yr holl beth, y darlun llawn, y cyd-destyn ehangach. Rhaid buddsoddi yn
y balchder a’r ymwybyddiaeth o’r lle yma, rhaid busddsoddi yn y syniad. Bydd
pris i’w dalu o beidio buddsoddi. Bron a bod mae’r buddsoddiad yma yn gyfystyr
a newid agwedd.
Cofiwn yn
ddiweddar i furlun y Siartwyr yng Nghasnewydd gael ei chwalu’n rhacs a hyd yn
oed yr Aelod Seneddol lleol, Paul Flynn yn awgrymu (siomedig iawn rhaid mi
ddweud) fod digon o gofebion eraill ar gael i’r Siartwyr. Yn ol Flynn “It would be better to commission a new
Chartist artwork than spend cash on moving it”. Er fod yr achos yma wedi
creu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein treftadaeth diwylliannol a hanesyddol – methiant
llwyr fu unrhyw ymgyrch na ddadl i ail leoli’r murlun. Mi fydda criw o
artistiad ifanc wedi gallu gwneud hyn am chwarter unrhyw ddyfynbris!
Neu, cymerwch
yr engraifft o furlun Ed Povey ger Llyfrgell Caernarfon. Yn ol y son roedd
Povey yn ymwybodol wrth greu y murlun fod y llyfrgell i’w hadeiladu yn erbyn
rhan o’r wal a bu iddo greu y murlun gyda hynny mewn golwg. Heddiw cawn hanner
murlun, hanner y stori. Wrth ymyl ac yn agos, mae’r paent yn dechrau disgyn o’r
wal, mae ambell i grac yma ac acw. Y disgrifiad gorau o’r murlun yw un sydd
wedi gweld dyddiau gwell.
Ond wrth
ddechrau trafodaeth ar Facebook am y murlyn cafwyd ymateb da, os nad diddorol a
bywiog. Yn wir bu ymgyrch i ‘achub’ y murlun yn ol ym 1980 a dyma un ymateb
gefais ynghyd a chopi o lythyr ymddangosodd yn y Caernarfon & Denbigh ym
1980
“Some of of us
cared at that time...from the Caernarfon and Denbigh,December 1980”
Fel gyda murlun y Siartwyr, piti nad oedd modd cadw’r
peth yn gyfan. Yr eironi yng Nghaernarfon wrthgwrs oedd mai Llyfrgell ddaeth yn hanner
ei le – fel ein hatgoffwyd gan Aneurin Bevan a’r Manic Street Preachers – “Libraries gave us power”.
Nepell o’r murlun yng Nghaernarfon cawn rhywbeth arall sydd
yn awgrym o ddiffyg gofal, neu o ddiffyg cynllunio – ac eto siawns, fod newid hyn
ar y gweill, siawns ….. Yn Turf Square
cawn fwrdd gwybodaeth am Hanes Caernarfon sydd wedi ei hanner guddio gan wal
ddiweddar. Rhaid fod rhywun yn rhywle yn bwriadu symud y bwrdd gwybodaeth, ond
mae ei adael fel y mae yn awgrymu nad yw’r hanes yn bwysig. Does neb yn darllen
pethau o’r fath beth bynnag …….
Rwyf yn
derbyn bellach fod trio creu unrhyw ddiddordeb o gwbl ym mhensaerniaeth Basil
Spence yn Atomfa Trawsfynydd yn ymgyrch fethiedig ar y naw. Son am siomedig -
dwi dal yn siomedig na dderbyniwyd fy nghais (gan gwmni Magnox) i ymweld a’r
safle er mwyn sgwennu rhywbeth am goncrit Spence. Mae’r pethau yma yn bwysig,
yn werth eu dathlu, yn werth eu trafod.
Sgwn’i fydda
Wilson wedi malio am furlun Siartwyr ym Manceinion? Y wers efallai o ran
engraifft Wilson, yw fod rhaid i ni gredu, rhaid creu stori newydd, rhaid creu
balchder newydd. Gwlad beirdd a chantorion yn sicr, ond mae angen bod yn wlad
sydd hefyd yn dathlu celf, pensaerniaeth, henebion, treftadaeth (a chanu pop) a
chymeryd fwy o ddiddordeb a gofal.
Rwyf yn
troedio llwybr cyfarwydd, rwyf yn ol hefo’r gair buddsoddi, nid gyda siec am
filiwn o bunnoedd (er mor handi fydda hunna i dacluso murlun Povey) ond ein bod
ni fel Cenedl yn buddsoddi yn y syniad ac yn rhoi gwerth i beth sydd yma.
No comments:
Post a Comment