Yn ystod yr
Eisteddfod Genedlaethol eleni bu i Myrddin ap Dafydd a minnau gymeryd rhan mewn
sgwrs ynglyn a llysoedd tywysogion Gwynedd drwy wahoddiad Amgueddfa
Genedlaethol Cymru. Edrych ar y dystiolaeth ddisgrifiadol o fywyd yn y llys o’r
hen gywyddau wnaeth Myrddin a fy nghyfraniaid i wedyn oedd i awgrymu pa
dystiolaeth archaeolegol oedd yn bodoli i gadarnhau neu i ategu hyn.
Yn ystod ein
sgwrs fe enwyd lleoliadau fel Castell Prysor a Chastell Carn Dochan, safleoedd
sydd a chysylltiad a thywysogion Gwynedd. Ond, y pwynt pwysig rwyf yn teimlo
gafodd ei wneud yn ystod y sesiwn drafod, yw fod ein ymwybyddiaeth fel Cymry
Cymraeg o safleoedd fel Carn Dochan yn llawer rhy isel.
Sonias ar y
diwedd, mai nid trafod Carn Dochan yr oeddem mewn ffordd ond yn hytrach yn
cyflwyno Carn Dochan, efallai am y tro cyntaf, i’r gynulleidfa. Felly, rwyf yn
falch iawn o gyhoeddi fod gwaith archaeolegol diweddar gan Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd wedi gwneud cam fechan ond pendant i unioni’r cam mawr
yma.
Saif Carn
Dochan ar ben brigiad amlwg uwchben Llanuwchllyn, ac efallai dyma esbonio un
rheswm pam fod y safle yma yn un llai amlwg, mae yna waith cerdded sylweddol
i’w gyrraedd. Yr ail reswm yw fod cyn llied i’w weld yma go iawn, does dim cymhariaeth
o gwbl gyda gorthyrau Dolbadarn a Dolwyddelan, adfeilion yn unig sydd yma yng
Ngharn Dochan.
Yr
archaeolegydd David Hopewell oedd yn cyfarwyddo’r gwaith archaeolegol diweddar
ar y safle ac yng ngeiriau Hopewell “Ychydig iawn a wyddom am hanes y safle, ac
nid oes sôn amdano mewn dogfennau canoloesol, er y gred yw y cafodd y castell
ei adeiladu'n wreiddiol ar ddechrau i ganol y drydedd ganrif ar ddeg, gan
Llewelyn ap Iorwerth o bosib. Efallai y safodd y tŵr sgwâr mewnol ar ei ben ei
hun yn wreiddiol, fel Dinas Emrys, gyda gweddill y safle wedi ei adeiladu'n o'i
amgylch yn ddiweddarach, dros sawl cyfnod efallai. Nid oes tystiolaeth o
ddefnydd parhaus wedi 1283”.
Prif nod y
prosiect oedd gwenud gwaith cadwraeth ar ddarnau o’r castell oedd yn erydu’n
naturiol gan obeithio wedyn dychwelyd i wneud gwaith pellach yn 2015. Ar yr
olwg cyntaf mae ansawdd gwael i rhai o’r waliau a bu rhaid clirio’n ofalus y
cerrig hynny oedd wedi disgyn er mwyn dadorchuddio wyneb y waliau. Drwy glirio
fel hyn cafwyd cipolwg ar wyneb mewnol y wal len er engraifft a sylweddoli fod
cerrig ddigon nobl wedi eu hadeiladu yn daclus yma.
Darganfyddiad
arall pwysig oedd fod mortar wedi ei ddefnyddio i ddal y cerrig yn eu lle ond
fod y cregyn yn y mortar yn amrywio rhwng y twr siap D ar wal len sydd eto yn
awgrymu dau gyfnod gwahanol o adeiladu. Eto yng ngeiriau Hopewell “Nodwyd bod y mortar yn ffosydd 3 a 4 yn
cynnwys cregyn cocos gan ddynodi bod y calch wedi dod o'r arfordir (30km i
ffwrdd o leiaf). Ni chanfuwyd unrhyw gocos yn y tŵr ar ffurf D (ffosydd 1 a 2)
gan awgrymu felly bod y mortar wedi dod o ddau le gwahanol ac efallai'n awgrymu
dau gyfnod gwahanol o adeiladu. Casglwyd samplau o'r mortar i'w dadansoddi”.
Y gobaith
gyda Carn Dochan yw dychwelyd yma yn y dyfodol i wneud mwy o waith
archaeolegol. Y gobaith i ni fel Cymru Cymraeg yw bydd hyn hefyd yn arwain at
well ymwybyddiaeth o’r safle yma – o bosib un o gestyll Llywelyn ab Iorwerth.
Safle
canoloesol arall y bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn edrych arno eleni
oedd tomen gastell neu mwnt Tŷ Newydd, Llannor (Y Mount SH 346382). Bu i Jamie
Davies ysgrifennu ei draethawd hir tra ym Mhrifysgol Durham ar gestyll coed a
phridd penrhyn Llŷn a mae’r papur yma wedi ei gyhoeddi gan y
castlestudiesgroup.org.uk
Mae Jamie
hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn ac ei waith ef sydd
wedi arwain at y gwaith cloddio diweddar gan Jane Kenney o Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd yn Nhŷ Newydd. Unwaith eto mae erydu naturiol yn fygythiad
i safle Tŷ Newydd ac fel yn achos Carn Dochan ychydig a wyddom go iawn am y
safle.
Awgrymir fod
hwn yn safle Normanaidd, o bosib yn perthyn i’r ymgyrchoedd Normanaidd i mewn i
ogledd Cymru yn y cyfnod 1081-93 a mae awgrym bosib o ddefnydd diweddarach o’r
safle. Yn dilyn buddugoliaethau Gruffydd ap Cynan yng nghannol y 1090au mae’r
cestyll Normaniadd yn dod yn ol i feddiant y Cymry.
Rhan bwysig
arall o’r gwaith yn ystod mis Medi 2014 oedd fod modd i’r cyhoedd ymweld a’r
safle. Y ddadl bellach yw nad oes fawr o werth i gasglu gwybodaeth arcaheolegol
onibai fod y wybodaeth yma yn cael ei rannu gyda’r werin bobl a’r gymuned leol
(ac wrthreswm gyda Cymru cyfan maes o law). Braf oedd gweld cynifer yn ymweld a
thomen Tŷ Newydd a chael cyfle i drafpod hanes y safle gyda’r archaeolegwyr
Jane Kenney a Jamie Davies.
Darganfyddiad
arall diddorol yn ystod y gwaith cloddio oedd dod o hyd i ben saeth Neolithig,
a ddisgrifir fel un siap deilen, sydd yn awgrymu dyddiad o’r Neolithig cynnar.
Wrth reswm does dim cysylltiad o gwbl rhwng y pen saeth a’r castell canol
oesol. Cyd ddigwyddiad yw cael hyd i’r pen saeth Neolithig yma wrth gloddio,
ond yr hyn a awgrymir gan ddarganfyddiad o’r fath yw fod pobl Neolithig yn byw,
ffermio neu hela o gwmpas ardal Llannor yn ol yn y 4dd a 3dd mileniwm cyn Crist.
Rwyf wedi synnu
pam mor aml rydym yn dod o hyd i wrthrychau callestr Neolithig fel hyn wrth
gloddio. Cafwyd hyd i offer callestr wrth gloddio’r gaer Oes yr Haearn ym
Morthdinllaen ychydig yn ȏl. Felly hefyd ym Meillionydd bob tymor cloddio dros
yr Haf, cawn hyd i grafwr neu gyllell callestr. Unwaith eto yr awgrym yw fod y
ffernwyr cynnar yma wedi troedio llwybrau Llŷn ers miloedd o flynyddoedd.
Dyma ddau
engraifft felly o safleoedd canoloesol yng ngogledd Cymru lle mae gwaith
archaeolegol diweddar yn cyfrannu ychydig mwy at yr ychydig wybodaeth sydd
ganddom ar hyn o bryd.
Diolch i
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd am y defnydd o’r lluniau.
No comments:
Post a Comment