Dyma’r tro cyntaf i mi ddod ar draws gwaith Frank Green.
Rwyf yn gyfarwydd a gwaith ei ferch, Sian, yn wir mae darn o waith celf Sian
Green yn cymeryd ei le yn ein ystafell fyw. Arlunydd a chysylltiad agos a dinas
Lerpwl yw Frank ond mae ei gartref bellach ym Mhontrug. Roedd Frank yn rhoi
sgwrs ar bnawn Sul diweddar yn Oriel Plas Glyn y Weddw.
Ystafell orlawn, yn amlwg mae diddordeb yn y cysylltiad
Cymreig a Lerpwl. Sgwrs yn Gymraeg gan arlunydd ddysgodd drwy wrando ar gaset o
wersi Cymraeg tra’n arlunio yn yr awyr agored o amgylch Lerpwl. Mae lluniau ar
gael o Frank yn y 1970au, sach cysgu am ei goesau i’w gadw yn gynnes hefo’r
chwaraeydd casetiau wrth ei ymyl yn peintio tirluniau trefol Lerpwl. Does ond
canmoliaeth o’r radd uchaf gennyf am ei ymdrech i feirstioli’r Gymraeg. A dweud
y gwir onibai fod Frank wedi dwyn sylw i’r ffaith iddo ddysgu’r iaith yn y
1970au go brin byddai unrhywun wedi sylweddoli ei fod yn “ddysgwr”.
Os oes ffasiwn beth ac arlunydd archaeolegol, efallai fod
Frank yn agos iddi, gan iddo dreulio’r holl flynyddoedd yn ‘cofnodi’ strydoedd
Lerpwl sydd wedi diflannu neu sydd yn prysur ddiflannu. Y bygythiad diweddara i
rhai o strydoedd y ddinas yw’r bwriad i ymestyn Clwb Peldroed Lerpwl ac o
ganlyniad strydoedd eraill i’w dymchwel.
Cofnod o gyfnod sydd yma felly yng ngwaith Frank Green. Mewn
paent yn hytrach na ffotograff, ond yr
un mor bwysig. Os mai dyma’r unig gofnod o rhai o’r strydoedd colledig, mae
felly yn gofnod archaeolegol. Ond hefyd dyma chi gymwynas aruthrol i unrhywun,
unigolyn neu sefydliad drwy sicrhau fod cofnod ar gael. Heb anghofio’r celf
wrthgwrs.
Yn ystod ei sgwrs mae Frank yn son sut mae cymaint o
berchnogion tai brics wedi eu paentio ac o ganlyniad wedi gorchuddio’r gwaith
brics celfyd, wedi colli’r patrymau oedd yn rhan mor anatod o’r cynllun
gwreiddiol. Ar bob cam o’r daith yma mae rhywun yn gweiddi ‘fandaliaeth’ boed
hynny gan y Cyngor neu gan berchnogion tai.
Y diffyg parch tuag at dreftadaeth adeiladol sydd yn dychryn
rhywun, yn siomi rhywun. Gyda’r adeiladau gor-uchel diwedar soniodd Frank sut
mae’r tirlun dinesig a’r gorwel yn prysur newid. Engraifft perffaith yw
datblygiad Liverpool 1, siopau, siopau, siopau – yr iwtopia cyfalafol – y
dyfodol (am y tro).
Y cysylltiad Cymreig sydd wedi denu’r niferoedd ar banwn Sul
fel hyn, a rhyfeddol yw clywed hanes adeiladwyr fel Owen Jones, Brynrefail, Bwlchtocyn, Abersoch
(1861-1943). Er iddo ddechrau fel saer coed ar Stryd Parliament ymhlith
cannoedd o Gymry eraill fe aeth yn ei flaen i sefydlu busnes ei hyn. Yn ol
Frank roedd rhai o weithwyr Ynys Mon yn eitha drwgdybys o weithwyr o rannau
eraill o Gymru a dyma un ysgodiad i Owen Jones fentro ar liwt ei hyn.
Erbyn diwedd ei yrfa roedd Owen Jones yn gyfrifol am
adeiladu tai yn ardal Smithdown Road, Aigburth a Wavertree. Yn ei gyfrol ‘Frank Green Lerpwl’ (Carreg
Gwalch) cawn hanes adeiladwyr Cymreig fel
William Jones, Cerrigydrudion a David Hughes Cemaes. Digon i godi awydd
i fynd draw i grwydro strydoedd Lerpwl – er fod hanner rhain a’r adeiladau
cysylltiedig fel y capeli wedi eu chwalu.
Rwyf yn ymwybodol iawn yma fy mod yn “anwybyddu’r” celf.
Ewch draw i Oriel Plas Glyn y Weddw i weld dros eich hunnan. Rwyf wedi son
cymaint yn ddiweddar am y diffyg buddsoddiad yn ein celfyddydau a thraddodiadau
diwylliannol ond heb os mae Gwyn Jones cyfarwyddwr Glyn y Weddw yn un curadur
yn sicr sydd yn newid pethau erg well yng ngogledd Cymru. Dyma chi ddiwylliant
o’r radd uchaf – ar bnawn Sul a hynny ym Mhen Llyn.
No comments:
Post a Comment