Rwyf newydd
orffen darllen llyfr o’r enw ‘Phoenix at Coventry, The Building of a Cathedral
– by its Architect Basil Spence’. Cyhoeddwyd y llyfr ym 1962, blwyddyn fy
ngenedigaeth, a wyddoch chi beth, trwy ddamwain cawsom hyd i gopi o’r llyfr ar
silffoedd llyfrau ail-law caffi Machinations yn Llanbrynmair. I’r rhai ohonnom
sydd yn or-gyfarwydd ar A470, y caffi bach hynod yma, yn hen neuadd y pentref
Llanbrynmair, yw’r cafffi rydym yn ei werthfawrogi fwya ar y daith hir o’r gogledd
i’r de (neu’r ffordd arall).
Dyma chi lyfr
sydd yn ysbrydoli rhywun, nid yn unig oherwydd gweldigaeth pensaerniol Spence
a’r modd mae’n cyfuno’r hen a newydd yn Coventry drwy gadw’r hen furiau a
chwalwyd gan fomiau’r Almaenwyr ond hefyd am y dadleuon a’r rhesymeg mae’n
gyflwyno am y broses a’r dewisiadau mae yn ei wneud.
Cawn bennod
hynod ddifir am y gystadleuaeth mae Spence yn geisio ym 1951 gan feddwl nad
oedd ganddo unrhyw obaith o ennill y comisiwn a mae agwedd ddihymongar Spence
yn parhau drwy’r llyfr. Rhywbeth arall oedd yn amlwg yw fod Spence wedi ceisio
ei orau i roi pob sylw a phob gofal i’r agwedd grefyddol yn y gadeirlan. Nid
gosod pensaerniaeth ar ben crefydd mae Spence, ond yn cyfuno’r ddau beth gyda
gofal manwl.
Pennod arall
hynod ddiddorol yw’r un sydd yn ymdrin a’i ymweliadau drosodd i Ffrainc i ddwyn
perswad ar Graham Sutherland i dderbyn y comisiwn i greu y tapestri anferth o
Grist sydd i’w osod yn y gangell. Nid yn unig felly, llyfr yn disgrifio’r
bensaerniaeth sydd yma, ond llyfr yn olrhain y cymeriadau fel Sutherland ac
wrthgwrs Jacob Epstein sydd yn gyfrifol am y cerflun o Sant Mihangell a’r
Diafol ar wal y gadeirlan newydd.
Chwerthais yn
uchel wrth ddarllen yr hanes sut bu i’r Pwyllgor Adlunio wrthwynebu penodi
Epstein “but he’s a Jew” a Spence yn eu rhoi yn eu lle, “so was Christ”.
Epstein wrthgwrs sydd yn gyfrifol am y cerflun o Grist yng nghadeirlan Llandaf
(y cysylltiad Cymreig). Ond i droi at y cysylltiad Cymreig a Basil Spence, y
cysylltiad wrthgwrs yw Atomfa Trawsfynydd.
Rwyf wedi
cyfeirio at gwaith concrit Spence yn Traws sawl gwaith yn ddiweddar a fel y
soniais, rwyf yn cael ymateb ddigon negyddol wrth drafod gwaith Spence. Daw’r
gwrthwynebiad o gyfeiriad y rheini a wrthwynebai ynni niwclear, dallt hynny,
ond son am y bensaerniaeth wyf i nid y da neu’r drwg am ynni niwclear.
Y gobaith
oedd cael trefnu ymweliad a’r atomfa i gael gweld gwaith Spence ac hefyd i
drafod y cynlluniau am y dyfodol. Beth yn union fydd yn digwydd i’r
adeiladwaith a phensaerniaeth Spence wrth i’r lleoliad gael ei dirweddu. Felly
dyma gysylltu a Magnox PR yn y gobaith o drefnu ymweliad a sgwrs.
Ond siomedig
iawn oedd yr ymateb. Ni fydd gwahoddiad yn cael ei roi meddant a theimlais
rhywsut fod yr ymateb yn un swta a braidd yn ddi-sylwedd. Dyma a gefais “Yr ydym yn gweld nifer fawr o
geisiadau am ymweliadau safle ar draws ein holl safleoedd. Mae angen parhau i
ganolbwyntio ar gyflawni rhaglen waith y safle ac felly, mae'n ddrwg gennai,
ond na fydd yn briodol ar hyn o bryd i gynnal y math yma o ymweliad”.
Efallai eu bod yn ofni ymgyrch un dyn i achub concrit
Basil Spence. Efallai nad yw PR yn cyfri iddynt, mae’n amlwg nad ydynt eisiau
nac angen sylw yn yr Herald Gymraeg. Rwyf yn siomedig achos rwyf wirioneddol a
diddordeb sgwennu mwy am Spence a’r cysylltiad Cymreig. Yr unig beth gefais gan
Magnox oedd linc ar gyfer gwefan y Comisiwn Brenhinol. Ella bydd rhaid bodloni
ar ymweliad a Choventry felly i sgwennu am y gadeirlan, mi wneith drip tren
bach difyr.
No comments:
Post a Comment