Rwyf wedi
sgwennu sawl gwaith am ffenestr hyfryd Burne-Jones yn eglwys Santes Margaret,
Bodelwyddan. Yr wyf wedi ymwled ag Eglwys Santes Margaret, Bodelwyddan ddwsinau
o weithiau i weld y ffenestr hyfryd yma. Rwyf wedi dysgu’r hanes o lyfr Matthew
am stori’r lili a fod Duw yn edrych ar ȏl y rhai sydd angen.
Felly dipyn o
“sioc” oedd darllen gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru (stainedglass.llgc.org.uk)
a gweld fod Martin Crampin (awdur y llyfr Stained Glass from Welsh Churches,
gwasg y Lolfa) wedi nodi mae cynllun gan George Measures Parlby sydd i’r
ffenestr hon a nid Burne-Jones.
Wedi ei chreu
ym 1885 gan gwmni Ward & Hughes, does dim cysylltiad felly a Morris &
Co na Burne-Jones. Mewn ffordd does dim gormod o ots, mae’n parhau i fod yn
ffenestr drawiadol yng nghangell St Margaret’s ochr yn ochr a phedair ffenestr
gan O’Connor ac un arall gan Ward & Hughes, heb anghofio’r ffenestr ddywrieniol hyfryd gan
O’Connor.
Ond roedd
rhywun wedi amau yndoedd. Ar ȏl pob ymweliad, roedd rhyw fymryn mwy o
amheuaeth, doedd y cartŵns fel y gelwir y lluniau, ddim yn rhai amlwg
gyn-Raffaelaidd o ran eu harddyll. Rhywsut mae’n gysur mae ffenestr Ward &
Hughes yw hon wedi’r cwbl. Byddaf yn parhau i ddychweld i’r Eglwys Famor, yn
parhau i fwynhau, ond ddim yn disgwyl Burne-Jones yno byth eto.
Os am weld
ffenestri Burne-Jones ar eu gorau yma yng ngogledd Cymru, efallai mae Eglwys
Sant Deiniol ym Mhenarlag yw’r lle i fynd. Os amserwch eich hymweliad yn iawn
cewch fynd drws nesa i Lyfrgell Gladstone am eich panad.
Oherwydd
difrod yn ystod y Rhyfel Gartref, does dim ffenestri canoloesol wedi goroesi yn
eglwys Sant Deiniol ond mae gennym chwech ffenestr gan Burne-Jones. Mae ffenestri
eraill yma gan William Wailes yn dyddio i’r 1850au ac un arall gan Edward
Frampton yn dangos Sant Gregory (1897).
Y cysylltiad
ac Ewart Gladstone, prifweinidog, a’i
gyfeillgarwch a Burne-Jones sydd yn esbonio pam fod yr holl ffenestri gan Burne-Jones yma. Roedd Burne-Jones yn
ymwelydd cyson a Chastell Penarlag. Diddorol a dweud y gwir yw olrain hanes y
byd creadigol yn y cyfnod Fictoriadd. Beirdd a llenorion ac arlunwyr yn troi yn
yr un cylchoedd. Byd bach, pawb yn adnabod eu gilydd a cymeriadau fel William
Morris a Dante Gabriel Rossetti yn gweithredu fel catalyddion yn dod a ‘r
credigol at eu gilydd.
Oddifewn i
Eglwys Sant Deiniol cawn weld cofeb Ewart Gladstone a’i wraig Catherine, er fod
y ddau wedi eu claddu yn Abaty Westminster, yn ȏl y son, yr unig wleiddydd yno
wedi ei gladdu gyda ei wraig. Ffenestri gan William Blake Richmond sydd yn y
capel coffa i Gladstone.
Y ffenestr
fawr ar wal orllewinol corff yr eglwys yw’r olaf i Burne-Jones ei gynllunio cyn
ei farwolaeth ym 1898. Ffenestr goffa i Gladstone a’i wraig Catherine yw hon
wedi ei roi i’r eglwys gan blant Gladstone.
Mae’r
ffenestri eraill (o’r cyfnod 1907-13) yn gynlluniau Burne-Jones drwy gwmni
Morris & Co sydd yn dyddio ar ȏl marwolaeth Burne-Jones. Fel nodai Crampin
yn ei lyfr, mae hyn yn dangos pam mor boblogaidd oedd cynlluniau Burne-Jones
hyd yn oed ar ol ei farwolaeth
Ond yr hyn
sydd yn hollol amlwg gyda’r chwech
ffenestr ym Mhenarlag, sef y pedair ffenestr ochr a’r ddwy fawr – dwyreiniol a
gorllewinol, yw fod y ffigyrau / cymeriadau yn rhai amlwg yn yr arddull
cyn-Raffaelaidd. Dyma’r gwahaniaeth mawr gyda ffenestr Ward & Hughes ym
Modelwyddan, does dim cymhariaeth go iawn.
Gyda
cymeriadau a chynlluniau Burne-Jones cawn ein cludo i arall-fyd, mae’r lliwiau
yn fwy arall fydol, llai real. Mae’r cartŵns yn debycach i gartŵns comic. Hawdd
fyddai treulio oriau yn gwneud dim mwy na syllu ar pob un o’r ffenestri yma yn
eu tro. Heb os mae rhain yn ddarnau o gelf, cystal a llun. Rwyf yn ffan mawr o
waith JMW Turner a Richard Wilson (sef eu tirluniau Cymreig) ond er mor wahanol
mae ffenestri Burne-Jones yr un mor bleserus i’w hastudio ac i fyfyrio o’u
blaen.
Hwn oedd y
tro cyntaf i mi ymweld ag Eglwys Sant Deiniol. Nid dyma fydd y tro olaf. Y
mwyaf o amser mae rhywun yn dreulio mewn hen adeilad, neu mewn eglwys, neu gyda
gwaith celf, y mwyaf mae rhywun yn dod i werthfawrogi yr hyn sydd o’n blaen.
Byddaf yn aml yn cymhauru hyn a dysgu Iaith newydd. Rhaid wrth “eirfa” os am
gael gwerth eich harian. Rhaid ymdrechu i ddysgu er mwyn gwella’r profiad – a’r
gwerthfawrogiad.
Rhywbeth
arall rwyf wedi ei grwybwyll yn ddiweddar yw fod ceisio dadansoddi a
gwerthfawrogi diwylliant Cymreig heb yr Iaith Gymraeg fel gwylio teledu du a
gwyn. Hyd yn oed os am astudio ffenestri Burne-Jones ym Mhenarlag, siawns bydd
yr Iaith Gymraeg o ddefnydd yn rhywle. Gyda’r Iaith Gymraeg mae gennym sgrin
deledu HD yndoes – llun clir, darlun llawr, sgrin lydan, y modd i gael gwerth
ein harian.
Rhywsut neu’i
gilydd mae angen cyflwyno’r neges yma i’n cyfellion, cymdogion, cyd-weithwyr
di-Gymraeg. Pa wrth teledu du a gwyn yn 2014? Ac er mor ddiflas yw’r ystrydeb
fod disgwyl i bobl ddysgu Ffrangeg os am fyw yn Ffrainc, neu os am werthfawrogi
bywyd Ffrengig – mae’n hollol, hollol amlwg yntydi.
Parhau i
chwilota dow dow yr wyf am hanes y cyn-Raffaeliaid yng Nghymru. Dwi heb glywed
am arlunydd Cymreig neu Gymraeg oedd yn rhan (hyd yn oed ymylol) o’r
frawdolaeth cyntaf neu’r ailo’r cyn-Raffaeliaid. Does dim modd gor ganmol
ffenestri Burne-Jones ym Mhenarlag.
No comments:
Post a Comment