Sadwrn, 18
Hydref, Royal Oak, Trallwm, rwyf yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Archaeoleg
Prydain, Cymru / Wales (CBA Wales/Cymru). Tybiaf, gyda sicrwydd gweddol bendant,
mai y fi yw’r unig siaradwr Cymraeg yn yr ystafell. Rwyf wedi derbyn enwebiad
gan ddwy aelod o’r pwyllgor i ymuno a nhw ar y pwyllgor, yn bennaf er mwyn cael
siaradwr Cymraeg ar fwrdd y llong.
Cefais fy
nerbyn heb unrhyw wrthwynebiad, bu rhiad i mi gyflwyno fy achos ger bron y
cyfarfod, ac yn hollol syml yr hyn awgrymais yw fy mod yn gallu cynorthwyo’r
mudiad gyda’r Gymraeg. Siawn fod gennyf sgiliau eraill, ond nid am y tro cyntaf
dyma ymuno a phwyllgor er mwyn cael Cymro Cymraeg yno, ac wrthgwrs neith o ddim
drwg cael rhywun o’r gogledd yno chwaith.
Ydi Cymru yn
wlad y pwyllgorau yn ogystal a gwlad y gân, ddigon posib, ac eto dwi ddim yn
siwr os yw hyn unrhyw wahanol mewn llefydd eraill chwaith. Rwyf i mor euog a
ffol a phawb arall yn hyn o beth, yn cytuno i fod yn aelod o sawl bwrdd, pwyllgor,
pwyllgor gwaith, ond yn amlach na pheidio mae’r ffactorau o’r Gymraeg a rhywun
o’r gogledd rhywle ar yr agenda.
Rwyf newydd
ymddiswyddo o bwyllgor WOTGA, pwyllgor tywysion swyddogol Cymru, gan fy mod yn
chael hi bron yn amhosib mynychu cyfarfodydd yn y de oherwydd y gwlawadau
darlithio sydd gennyf. Mewn cyfnod o ddwy flynedd, dim ond dwy waith llwyddais
i fynychu cyfarfod WOTGA.
Siomedig, ond
mae eraill all wneud y gwaith yma. Eto y Gymraeg a’r gogledd oedd y prif reswm
dros gytuno i fod ar y pwyllgor, ond dyna fo fedra ni ddim dal i ym mhob man.
Dim ond gobeithio fod y newydd ddyfodiad yn gallu’r Gymraeg. Peth od iawn yn fy
mewddwl i yw fod cymaint o bobl sydd yn tywys yng Nghymru yn ddi-Gymraeg, neu efallai,
od iawn nad oes mwy o Gymry Cymraeg yn ymwneud a’r maes.
Chefais i
fawr o ddewis wrth gael fy ethol oddi ar fwrdd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig
yn ddiweddar, er i mi fod yno bron o’r dechrau – a hynny yn cael ei gynnig a’i
eilio gan ddau Gymro Cymraeg. Eto cael rhywun o’r gogledd oedd yn siarad
Cymraeg oedd y rheswm pennaf i mi fod ar y bwrdd ond fel rwyf wedi son sawl
gwaith mae yna nadroedd gwenwynig iawn ym mhorfeydd gwelltog y Byd Pop Cymraeg.
Er mor siomedig oedd agwedd fy nghyd Gymry, mae’n rhyddhau amser i mi
ganolbwyntio ar yr archaeoleg.
Rhwng mis
Mawrth a’r Haf daeth y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig i ben beth bynnag,
gofynnwch i’r Cynulliad. Chlywais i fawr o son, dim gwrthwynebiad i’r ffaith
fod corff mor bwysig yn diflannu. Yn ȏl a ni at ddiwylliant yn lle diwydiant.
Canlyniad hyn fydd mwy o gerddorion yn troi eu gorwelion at Loegr a llai o
strwythurau Cymreig. Bydd y byd amateraidd yn llewyrchu, fel bydd talent
newydd, ond rhaid wrth economi, rhaid gwneud pres heb nawdd os am barhad hir
dymor i fusnesau.
Felly os yw
WOTGA a’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wedi mynd oddiar yr agenda, mae amser
gennyf i ganolbwyntio ar CBA Wales/Cymru. Sefydlwyd y CBA ym 1944 er mwyn
diogelu yr amgylchedd hanesyddol yn y cyfnod helbylus yna o adeiladu yn dilyn
yr Ail Ryfel Byd. Mae’r mudiad felly yn dathlu ei benblwydd yn 70 oed eleni.
Er fod CBA
Wales/Cymru yn amlwg yn cytuno a’r amcanion cenedlaethol o ran diogelu’r
amgylchedd hanesyddol, mae’r ffaith fod y sector yma dan ofal Llywodraeth Cymru
a chyrff fel Cadw yn gwneud hi’n berffaith amlwg fod rhaid cael corff Cymreig –
edrychaf ymlaen yn fawr iawn at ddod ar Gymraeg yn ganolig i’r frwydr hon.
No comments:
Post a Comment