Go brin fod
angen unrhyw un, nac unrhyw gyfrwng i’n hatgoffa ein bod yn byw mewn lle
cymhleth iawn, a gyda “lle” rwyf yn sȏn am Gymru wrthgwrs. Wedi ei rannu yn
ddaearyddol – de / gogledd a’r darn yna yn y canol does neb yn sȏn amdano.
(Steddfod yna flwyddyn nesa gyda llaw – yn ȏl i Meifod yng ngwyrddni Mwynder
Maldwyn).
Does dim modd osgoi y rhaniad
ieithyddol, byd Kate Roberts a byd Dylan Thomas, iaith y wlad a’r gorllewin
gwyllt ac iaith y cymmoedd a’r dinasoedd mawr - (esgob mawr dyna or-gyffredinoli).
Ond dwi’n siwr eich bod yn dallt be dwi’n
drio ddweud neu yn weddol ymwybodol o hyn oll.
Y rhaniad diweddaraf i’n heffeithio
yng Nghymru, fel pob man arall, yw’r un sydd wedi ei greu gan dechnoleg – y rhai
sydd yn gallu derbyn ebyst ac yn defnyddio ffȏn symudol – a’r rheini sydd yn
ymwrthod, neu’n methu ymdopi a thechnoleg newydd. Rwyf yn adnabod ambell ‘Luddite’
Cymraeg eu hiaith sydd yn byw yn hapus heb na ffȏn symudol nac ebost a braf neu
gwyn eu byd ddyweda’i. Ond ar y cyfan dyddiau yma, mae pawb i’w weld yn weddol
hapus hefo ebyst a defnydd o’r we.
Lle mae’r ffîn yn fwy amlwg, yw
rhwng y rhai sydd yn fodlon ymuno yn y byd cyfryngau cymdeithasol ac y rhai
sydd, am bob math o resymau, yn ymwrthod. Rwyf yn dilyn a defnyddio trydar, yn
bennaf fel ffynhonnell wybodaeth a newyddion ac ar gyfer hysbysebu digwyddiadau
a rhannu gwybodaeth. Yn ddyddiol, mae nifer o storiau archaeolegol yn ymddangos
ar trydar, fyddai fel arall byth wedi dod i’m sylw, ac wrthgwrs mae trydar yn y
Gymraeg yn fyw ac iach ac yn fwrlwm o wybodaeth a thrafodaeth.
Y fantais fawr hefo trydar yw ein
bod yn dewis pwy i’w ddilyn. Os ydynt yn ddiflas neu yn amherthnasol, hawdd
iawn rhoi clic ar ‘Unfollow’. Ac os ydynt yn troi yn gâs neu yn annymunol –
unwaith eto – digon hawdd eu dad-ddilyn. Fel arall, eto gan or-gyffredinoli,
mae byd trydar yn gallu bod yn le difyr, yn ffynnhonnel bwysig o newyddion ac
yn fodd o gadw mewn cysylltiad a’r byd gor-gyflym yma rydym yn byw ynddo.
Ychydig
yn ȏl dyma safle newydd yn ymddangos ar trydar – un o’r enw ‘Art Freedom Wales’
(@ArtFreedomWales). Felly gyda diddordeb mawr dyma ddechrau eu dilyn. Hyd yma
mae dwy sgwrs wedi eu ffilmio a’u gosod i fyny ar YouTube, un yn Saesneg ac un
yn Gymraeg. Ffurf y sgwrs yw panel o bedwar yn trafod ‘mynegi barn yng Nghymru’
a’r rhyddid (neu ddim) a’r rhwystrau
ynghlwm a hynny. Rydym yn son am fynegi barn am y byd celfyddydol Cymreig yn y
cyd-destyn yma.
Y
panelwyr ar gyfer y sgwrs gyntaf (Saesneg) yw Lisa Jen o’r grwp 9Bach, y
dramodydd Tim Price, y ffotograffydd Leah Crossley a’r bardd a’r awdur Kathryn
Gray. Tindroi o amgylch yr Iaith Gymraeg mae eu sgwrs. Rydym wedi clywed a
thrafod hyn o’r blaen hyd at syrffed. Efallai mae’r ateb syml, ar un sydd byth
yn cael ei ddweud yn blaen rhag pechu, yw fod angen i’r di-Gymraeg wneud llai o
esgusion, magu mwy o hyder am eu Cymreigtod – a dysgu’r bali Iaith ! Does dim
modd osgoi hyn, dim ond drwy ddysgu Cymraeg mae modd cyfoethogi’r profiad o fyw
yng Nghymru.
Mae
peidio dysgu Cymraeg a byw yng Nghymru chydig bach fel mynd am dro yn y car
drwy Eryri a gwrthod edrych drwy’r ffenestr a gwerthfawrogi’r golygfeydd. Fel
mynd i Cegin Bryn a a peidio bwyta - rwyf yn mawr obeithio bydd Art Freedom
Wales yn ymestyn y drafodaeth.
No comments:
Post a Comment