A’i ‘My
People’ (1915) gan Caradoc Evans yw’r cyfateb Eingl-Gymreig (yn Saesneg ond o
Gymru) i weithiau Kate Roberts (yn Gymraeg o ogledd Cymru)? Mae Evans yn
cyhoeddi rhai blynyddoedd ynghynt, cyhoeddir ‘Traed Mewn Cyffion’ ym 1936 a ‘Te
yn y Grug’ ym 1959 ond heblaw am y pegwn daearyddol, a’r cefndir chwarelyddol
yn hytrach nac amaethyddol gan Kate, mae yna debygrwydd rhyngddynt.
Wedi’r cyfan,
onid rhagrith a chrefydd sydd wrth wraidd cymaint o’r gwaith, sgwennu am y
pethau bach dibwys (bron) dydd i ddydd ymhlith pobl sydd mor grefyddol gul
mae’n anodd credu bod gwaed go iawn yn cylchredeg drwy eu cyrff. Yng ngwaith
Caradoc Evans mae’n fwy amlwg mae rhagrith crefyddol anghydffurfiol sydd dan y
lach ganddo.
Cytunaf felly,
fod Caradog ddipyn mwy amrwd na Kate, yn llai diniwed mewn un ystyr ac yn fwy
parod i herio ond mae’r ddau awdur yn ymdrin a’r gymdeithas o’u hamgylch, eu
cymdeithas nhw, y gymdeithas mae’nt yn eu hadnabod a wedi gwreiddio ynddi. Dim
ond adlewyrchu mae’r ddau awdur mewn gwirionedd.
Y teimlad o
ddarllen yw clawstroffobia, a dwi ddigon hen i gofio pobl fel a ddisgrifir gan
Kate Roberts, mae nhw’n marw allan yn raddol, fel y deinosoriaid, ond dwi yn
cofio’r ‘Sych Dduwiol’ a doeddwn ddim wedi fy ngeni pan gyhoeddwyd campweithiau
Evans na Roberts.
Rhoddais y
gorau yn ddiweddar i ddarllen ‘Te yn y Grug’, yn bennaf achos doedd gennyf ddim
amynedd darllen am y cecru dibwys, y ffraeo am ddim byd, y cenfigen rhwng Begw
a Mair. Bywydau bach diflas yn ffraeo am ddim byd. Diflas yw hyn, nid campwaith
lenyddol ond drych ar bobl bach druenus – diolch byth fod hyn drosodd – dim mwy
o beidio siarad ar y Sul oherwydd enwadaeth neu achos fod rhywun wedi cyrraedd
siop y pentref cyn y llall.
‘The most
hated man in Wales’, dyna un disgrifiad
o Caradoc Evans, ac yn syth dyma feddwl, “rhaid bod Caradog wedi gwneud
rhywbeth yn iawn felly”. Ond mae’n waith caled gweithio fy ffordd drwy’r iaith
Beiblaidd Gymreig / Hen Destament-aidd a ddefnyddiwyd gan Caradoc. Nid hawdd
uniaethu a’r cymeriadau, haws eu drwglicio a dydi hynny ddim yn help i
ddarllen.
Fel arfer mae
rhywun yn darllen nofel er mwyn mwynhad, er mwyn ymgolli, er mwyn anghofio am
bwysau gwaith, er mwyn ymlacio cyn cysgu – ac er mwyn pleser ond mae darllen
gwaith Roberts ac Evans yn fy ngholli yn hyn o beth. Dyma waith hanesyddol
ddiddorol ond does fawr o bleser o ddarllen. Dyma’r Gymru Oedd, mor wahanol i
Cymry Fydd gan Islwyn Ffowc.
Dyna dwi di
weld mor ddiddorol am ‘My People’, y fath ymysodiad ar rydfrydiaeth
anghydffurfiol, ac yn sicr fe gafodd y llyfr effaith yn ol ar ddechrau’r 20fed
ganrif, ond does dim gobaith yma. Yn wahanol i Kate Roberts does fawr o
ddiwylliant rhywsut chwaith – oleiaf hefo Kate rydym yn gallu uniaethiu a’r
diwylliant hyd yn oed os yw’r culni a’r dibwys yn chwalu awydd rhywun i orffen
llyfr.
Dydi Evans
ddim ofn ymdrin a rhyw, agweddau ddigon afiach, rhagrith sydd yn croesi
llinellau pendant iawn – does dim o hynny yn llyfrau Kate ac eto rydym yn
gwybod fod yna blant allan o bridoas yn y gymdeithas chwarelyddol hefyd – ond
does neb am gyfaddef.
Heddiw byddai
adolygiadau y Western Mail o 1915 yn cael eu defnyddio fel broliant, “the
literature of the sewer”, a dyna yn union a welir ar gefn y clawr ‘My People’ a
ail-gyhoeddwyd gan Llyfrau Seren 1987. Pa well sylw na sylw drwg. Dyma sut mae
creu “ni a nhw” – pa ochr mae rhywun am sefyll – does dim tir yn y canol, dim
gofod i’r di-farn.
“we take
leave to say that there is not a Welshman living of any literary note who will
commend the narrative” meddai’r Western Mail eto. Felly beth am ddadlau mae
gwerth ‘My People’ a llyfrau Kate Roberts yw’r drych yna ar y gymdeithas
Gymreig a Chymraeg yn achos Kate. Rhyw fratiaith Saesneg hefo geiriau Cymraeg
mae Caradoc wedi ei blethu i’w Iaith Feiblaidd. Dyma ni gofnod o gyfnod drwy
lenyddiaeth – gwerthfawr o ran hanes cymdeithasol, pwysig yn sicr.
Oes,mae
gwerth astudio’r awduron yma yn yr ysgolion a’r colegau, oes mae angen eu
gwerthfawrogi a’u dadansoddi – hyd yn oed os yw’n anodd darllen, anodd
gwerthfawrogi yn yr ystyr fod y gymdeithas dan sylw yn un rydym yn well hebddi
– fod y Gymru Fydd yn ddipyn gwell lle.
Rwyf hefyd yn
gweld rhywbeth diddorol iawn am berthnasedd Kate Roberts i ni yma yng Ngogledd
Cymru, does dim modd ei hosgoi – ond dydi Caradoc Evans ddim yn gwneud argraff,
Dydi Ceredigion ddim mor bell a hynny, ac eto dydi ‘My People’ yn golygu dim i
ni. Rydym yn byw mewn gwlad ofnadwy o blwyfol a rhanbarthol, ac heb os mae’r
Iaith Gymraeg yn ffactor yn hyn o beth.
Y cwestiwn
mawr yw sut mae cael golwg felly ar y Gymru gyfan yn ei holl amrywiaerth a
gwneud rhyw fath o synnwyr o hynny? Rwan, mae’n rhaid i mi drio gorffen darllen
‘My People’ ………
No comments:
Post a Comment