Mae ’di bod
yn wythnos o chwilio am ffon fesur, ffon fesur ddiwylliannol, i drio gwneud
rhyw fath o synnwyr o bethau. Yn Saesneg mae hyn ddigon hawdd, mi fydda rhywun
yn son am ‘cultural reference point’, felly dyma rwy’n olygu hefo fy ffon
fesur, ac yn y cyd-destyn ehangach mi
fydda rhywun yn gwybod yn union beth yw, a lle mae’r cerrig milltir, beth sy’n
dda a beth sy’n wael.
Does dim dwy waith i mi gael wythnos
hynod ddiwylliannol, gan gychwyn yn gwarndo ar David Dawson (Herald Gymraeg 9
Ebrill) yn son am Lucien Freud. Beth bynnag eich barn am waith Freud, fel un o
artistiaid mwyaf dylanwadol yr Ugeinfed Ganrif, mae’r ffon fesur yn amlwg.
Ychydig ddyddiau wedyn rwyf yn y gynulleidfa yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, ddigon
agos i lle ganwyd Dawson, yn gwylio perfformiad Theatr Bara Caws ‘Dros y Top’.
Does dim dwy waith fod sioeau Bara
Caws o hyd yn dda, yn hawdd i’w gwylio. Pawb yn hapus. Ond beth yw’r ffon
fesur, petae rhaid i mi adolygu’r noson, beth fyddwn yn ei ddweud ? Rhaid cael mwy na, “mae nhw’n sioeau da”.
Rhian Blythe oedd yn serenu ar y llwyfan, yn symud yn urddasol a’i gwyneb /
ystumiau yn cyfleu yr angenrheidiol. Doedd hi ddim yn gorfod gor-actio yn y
dull traddodiadol Cymraeg . Ond beth yw’r ffon fesur meddyliais ar gyfer y
ddawnus Blythe ?
Fe’m atgoffwyd o’r model, Sara
Stockbridge, ‘muse’ Vivienne Westwood yn ol yn yr 80au. Un o’r merched deliaf
(naturiol) erioed, roedd Stockbridge hefyd yn hynod ddeallus a mae hi bellach
yn awdures ar nofelau Fictoraidd fel ‘Cross My Palm’. Byddai Blythe yn fodel
gwych i Westwood meddyliais, dyna’r ffon fesur cyntaf ddaeth i’m meddwl yn
Neuadd Dwyfor. Dwi rioed di clywed am Gymraes yn gweithio hefo Westwood.
Yr
ail ffon fesur, oedd - byddai Ani Saunders, hi sydd yn gyfrifol am luniau
cardifftothesee.com, yn un da i dynnu lluniau Blythe – dal y cymeriad mewn
ffyrdd anghyffredin. Dwi’n dychwelyd yn rheolaidd at ffotograffau rhyfeddol
Saunders. Gyda llaw / gyferbyn a Neuadd Dwyfor mae man geni Cynan – ewch i weld y
gofeb.
Os yw cardifftothesee.com a Sara
Stockbridge yn rhoi rhyw syniad o beth yw beth, methiant llwyr fu trio
prosesu’r boi sydd yn gweiddi ar Radio Cymru yn y prynhawn. Fel petae’r
troellwr wedi cael amphetamins drwg, synnau teirw, dyma ‘Crymych FM’ yn y gwely
hefo Alan Partridge. Does dim ffon fesur ar gyfer hyn, (wel heblaw Alan
Partridge ar Crymych FM).
Os
oes angen engraifft o sut i gyfleu’r Byd amaethyddol mewn ffordd ddiddorol a
pherthsnasol pwy well na’r ffarmwr sy’n trydar, Gareth Wyn Jones. Hyd yn oed
fel llysieuydd roeddwn yn cytuno a Gareth ar ‘The Hill Farm’ BBC 1 Wales, pan
awgrymodd fod angen i’r archfarchnadoedd werthu cynnrych lleol – mi brynaf
gynnyrch gardd ei wraig Rhian a chroeso, ond anghofiwch y cig i mi !
Gyda
cefndir trawiadol tirwedd hanesyddol y Carneddau byddai’n anodd i hon fod yn
raglen wael ond mae Gareth wirioneddol yn deall y Byd teledu. Mae’n gyfathrebwr
naturiol, yn olygus, yn ddoniol ond yn bwysicach na dim – mae’n mynegi barn –
mae ei angerdd yn amlwg. Dawn Gareth bob amser yw gosod ei waith o fewn
cyd-destyn ehangach – mae hyn yn wleidyddol a mae hyn y bwysig ! Sgwn’i os yw
S4C yn sylweddoli y cyfle mae nhw di golli i gael hyn yn Gymraeg ?
Artsitiad
ifanc, ail flwyddyn, Coleg Menai sydd yn cael eu harddangos yn Oriel Galeri,
Caernarfon ar hyn o bryd. Ewch draw, mae dehongliad Sadie Williams o gysylltiad
Caernarfon a Phatagonia – sef y cyfarfod cychwynnol hwnnw yng Nghapel Engedi,
Stryd Newydd ym 1856 – ymhlith y darnau mwyaf diddorol.
Fe
gysylltodd yr arlunwraig Sian Owen ar Facebook o flaen llaw i wneud yn siwr fy
mod am ddod draw i’r agoriad, felly dyma roi sylw iddi am ei hymdrech i
hyrwyddo ei chelf. Cafodd Sian gyngor o fath gan Dewi Prysor mae’n debyg cyn
creu ‘byrddau’ crwn, cyfryngau cymysg sy’n ymdrin a’r Mabinogi. Celf cysyniadol
sydd yma ar y cyfan, yn ymwneud a Mon a Chaernarfon. A’r ffon fesur ? Mae angen gwthio dipyn mwy ar y ffiniau, neu
oleiaf ail wrando ar ddarlithoedd Reith y BBC, gan Grayson Perry. Rhaid gwneud
fwy o swn !
Y
diweddglo i’r daith-antur ddiwylliannol oedd mynychu sioe / sgwrs ‘The
Adventures of Andy Kershaw’ yn y Magic Lantern yn Nhywyn, Sir Feirionnydd. Fe
ddywedodd y darlledwr Kershaw sawl peth hollol, hollol berthnasol (doedd o ddim
yn son am y cyd-destyn Cymreig wrthreswm, ond …..). Un, oedd fod cyfrifoldeb ar
y BBC i fod yn ‘broadcaster’ nid ‘narrowcaster’. Yn ail, wrth hel atgofion am y
diweddar John Walters, cynhyrchydd John Peel a Kershaw, dyfynnodd Walters yn
dadlau hefo’r siwts a’r biwrocratiaid mae cyfrifoldeb y BBC oedd “nid cyflwyno
i’r gynulleidfa yr hyn oeddynt eisiau ond i gyflwyno deunydd nad oeddynt yn
gwybod fod ei eisiau arnynt”.
Mae
yna wers yma yn rhywle yndoes ? Piti na
roddwyd ‘comps’ gan y trefnwyr i Ian Jones, S4C a Betsan Powys, Radio Cymru a’r
siwts sydd yn penderfynnu “fod y bobl eisiau beth mae’r bobl yn ei gael” chwedl
Paul Weller. Petae Kershaw yn Gymro Cymraeg byddai rhaid ymestyn hyd y ffon
fesur. Siaradodd am dros ddwy awr a
hanner heb i neb wingo yn eu seddau na edrych ar eu wats – nid cymaint
rhyfeddol ond hanfodol.
Wrth
drafod diwylliant, y ffyn mesur sydd gennyf yw Janet Street Porter yn yr
Independent neu Paul Morley ar BBC 2, Grayson Perry ar y Reith neu, ac er
gwaethau ei holl ffaeleddau, Julie Burchill yn dweud ei dweud. Felly bydded mwy
o Gareth Wyn Jones, mwy o Rhian Blythe,
mwy o Ani Saunders – y rhai sydd yn rhoi lliw ar y canfas, yn dod a’r haul i
mewn drwy’r ffenestr, yn rhoi gwen ar wyneb - diolch byth amdanynt ac os cewch
gyfle i weld sioe Kershaw ewch !
No comments:
Post a Comment