Wyddoch chi
beth, mae yna rhywbeth braf iawn cael mynd i wrando ar rhywun arall yn
darlithio weithiau. A wedyn y ffaith fod y ddarlith am ‘gelf’, doedd dim modd
gwrthod y gwahoddiad i fynd draw i Seiont Manor. Yn ychwanegol i’r ddau beth
uchod, fod y sgwrs gan fy hen gyfaill o Sir Drefaldwyn, neu Ddyffryn Banw i fod
yn ddaearyddol fanwl, David Dawson – wel, dyna hawlio sedd yn y rhes flaen felly
ynde !
I’r
rhai sydd ddim yn dilyn pethe y byd celf, bu David yn gweithio, a hynny yn
gweithio mewn sawl ystyr a mewn sawl ffordd, gyda ac i’r arlunydd Lucien Freud.
Hwnnw wnaeth y llun braidd yn anghyffredin o’r Frenhines os gofiwch. Mae’n
debyg fod modd defnyddio’r gair ‘muse’ i ddisgrifio rhan, ond rhan yn unig, o
berthynas, Dawson a Freud. Mae’n amlwg fod cyfeillgarwch, dealltwriaeth a
rhywbeth dwfn iawn rhwng y ddau.
Trafod
datblygiad gwaith Lucien Freud oedd Dawson, o’r lluniau cynnar yng Nghapel
Curig, yr hunnan bortreadau o’r llanc tena ifanc, i’r cariad yn y gwely mewn
gwesty ym Mharis a’r datblygiad wedyn i bortreadau llawer mwy pendant, yn
rhannu rhan o ddisgyblaeth a’r un math o ddylanwadau a’i gyfaill, Francis Bacon.
Mae’r ystafell yn Seiont Manor yn orlawn, a hynny ar fore Llun. Byddai dweud
fod y sgwrs yn ddiddorol yn wir wrthgwrs, ond, mae gair mor gyffredin a
diddorol yn gwneud anghymwynas fawr a gwir drydan y sgwrs.
Yr
unig beth gwell na trafod celf yw trafod archaeoleg, mae hynny yn swnio fel un
o ddyfyniadau John Ruskin (1819-1900), y sylwebydd celf adnabyddus, ond rhaid
cyfaddef fod trafod celf yn rhywbeth sydd yn cyffroi. Fe allwn ddadlau, yn wir
fe ddyliwn, fod damcanaiethau celf, fel damcaniaethau pop, yn holl bwysig –
dyma ddiwylliant – a dyma rhywbeth sydd angen mwy ohonno yn y Gymraeg.(Popeth
yn Gymraeg).
’Chydig
iawn o Gymraeg oedd yn y Seiont Manor wrthgwrs, ond dwi’n amau mae y ni sydd yn
gwneud y penderfyniad yna, i ymwrthod, i gadw at y Byd Cymraeg bach saff, yr
hyn a elwir yn ‘bybl’, hefo’i ffiniau cyfarwydd. Dwi’n cael fy hyn yn aml y
dyddiau yma yng nghwmni pobl a ‘thatan yn eu ceg’ – dwi ddim yn eu drwg-hoffi,
i’r gwrthwyneb, ond rydwyf bob amser yn gofyn lle mae’r Cymry Cymraeg ? Ydi
Lucien Freud tu allan i’n llythrenedd celfyddydol fel Cymry Cymraeg ? Anodd
credu …….
Mae
un o drefnwyr ‘Art Fund’ yn dod atof i achwyn am ddiffyg sylw i’r digwyddiad
gan y Cyfryngau. Does dim modd cuddio yn hyn o beth. Y cyfryngau Cymraeg,
Cymreig a’r rhai lleol mae hi’n gwyno amdanynt. Chwerthais yn ddistaw, mewn
cyd-ymdeimlad rhywsut, gan drio cuddio’r ffaith fy mod yn or-gyfarwydd ar gwyn
hon, ac awgrymais yn garedig “they don’t really have much interest in culture”.
Dwi ’di treulio rhan helaeth o fy ngyrfa fel sylwebydd ar y pethe yn trafod
diffygion y cyfryngau yng Nghymru. Chydig sydd wedi newid. Ond dyma ni, mae’r
ystafell yn llawn – pa ots, pwy sydd eu hangen i hysbysebu digwyddiad mor llwyddiannus
?
Fe
ddylia pawb fod yn gallu cyhoeddi digwyddiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol
bellach ta beth. Ond wedyn, y dyddiau yma, rwyf yn treulio rhan helaeth o fy
amser, a hynny drwy wahoddiad, yn ceisio darbwyllo cymdeithasau, grwpiau,
mudiadau, fod werth iddynt gael cyfrif trydar. Dydi pobl a thatan yn eu ceg,
cymdeithasau ac aelodau bell dros eu 60oed ar y cyfan ddim yn trydar – mae
nhw’n dal i gredu fod gwerth mewn postar na fydd yn cael ei ddarllen na’i weld
mewn cornel ffenestr siop ………
Petae
y rhai sydd a diddordeb, yn dilyn Art Fund neu beth bynnag ar trydar. mae modd wedyn
mynd yn syth at y cwsmer. Syml. Dim angen dibynnu o gwbl wedyn ar Gyfryngau
oriog. Beth sydd mor anodd am hyn ?
Nid
yw ‘raconteur’ yn addas fel disgrifiad o ddawn siarad Dawson, mae’n
bersonoliaeth llawer rhy glen, addfwyn a distaw i hynny ac eto mae ei sgwrs yn
hollol, hollol glir a mae modd clywed pob gair. Awgrymais iddo wedyn fod hon yn
ddawn naturiol ganddo, er ei fod yn gyndyn iawn i siarad yn gyhoeddus. Cytunais
i raddau, y mwyaf bydd ei berthynas a Freud yn cael ei drafod, y peryg yw bydd
elfen o’r berthynas yn cael ei ddibrisio. Mae Dawson yn gwybod beth
ddigwyddodd, fe ddaw’r peth allan mewn llyfrau Hanes Celf yr Ugeinfed Ganrif mewn amser – pam
dibrisio drwy or-drafod, or-siarad, or-ddamcaniaethu ?
Nod
Lucien Freud oedd gadael i’r llun ddweud y cyfan. Yn aml, gwrthodai enwi’r
gwrthrych yn y llun, yr ‘eisteddwr’, y model – roedd y llun yn dweud popeth
oedd angen i’r darllenydd ei weld. Dim angen am enw bedydd na chyfenw. Rwyf yn
amau fod Dawson yn ymwybodol o hyn. Pobl fel fi sydd wrth eu bodd yn
damcaniaethu a sylwebu, a rydym yn cael ein talu i wneud hynny drwy golofnau
fel hyn, ond mae yna ddadl, os mae chi yw’r person sydd yn creu fod lle i fod
yn llawer mwy cynil hefo geiriau, i gadw’r dirgelwch ac i adael i’r celf
siarad.
Roedd
David Dawson yn wych, yn ddiddorol ac yn ysbrydoli – a hynny ar fore Llun mewn
neuadd orlawn – dyna chi fraint felly oedd cael ei glywed yn sgwrsio – fydd hyn
ddim yn digwydd yn aml !
Gwyliwch hwn https://www.youtube.com/watch?v=ab6eQEK8j_o
No comments:
Post a Comment