Mae hon yn
stori wir, neu, fe wyddoch beth mae nhw’n ddweud, “mae rhan o hyn yn wir”.
Cerddais i mewn i’r ystafell, y fi oedd yr olaf i mewn, roedd llwyth o bobl o
amgylch bwrdd, cefais fy nghyfarch gan lais mawr a gwen gyfeillgar.
“Arallgyfeirio ?” ebe’r llais mawr.
Edrychais ar y wyneb crwn,bochau coch a’r gwallt cyrls. “Diawl, fod di’r boi
oedd yn Pengelli” meddyliais. Cymro arall oleiaf. Gwennais gan ateb “rhywbeth
felly”. Yn fuan wedyn roeddwn yn ymwelydd cyson a chartref yr “actor” Gwyn
Parry yng Nghaernarfon, yn yfed paneidiau, yn rhoi y Byd yn ei le. Mewn byr
amser roeddem yn ffrindiau, yn gyd-weithwyr ac yn dallt ein gilydd i’r dim.
Fel roedd y Byd Pop Cymraeg wedi
troi o fod yn ddu a gwyn i rhywbeth llawer mwy llwyd, roeddwn wedi penderfynu
nid cymaint ‘arallgyfeirio’ chwedl Gwyn, ond yn sicr fod yr amser yn iawn i
ddechrau datblygu teithiau archaeoleg. Roedd y syniad yma yng nghefn fy meddwl
ers dipyn ond daeth cyfle bellach i hyfforddi ac i ddilyn cwrs tywys drwy Goleg
Llandrillo, a fydda ar ddiwedd y cwrs yn rhoi bathodyn tywysydd swyddogol i ni.
Rhaid fod Gwyn hefyd yn barod i
‘arallgyfeirio’, ella fod llai o waith actio o gwmpas, ond roedd y ddau ohonnom
yn gweld yr ochr ddoniol o fod yn ‘stiwdants’ unwaith eto – pwy fydda wedi
meddwl ? Dwi ddim yn credu fod yr un ohonnom yn or-hoff o’r syniad o orfod
sgwennu traethodau ac eistedd arholiadau ond ar y llaw arall roedd ymwneud a
phobl a’u tywys o amgylch Gogledd Cymru yn rhywbeth oedd yn dod yn ddigon
naturiol i’r ddau ohonnom.
Felly dyma rannu gwybodaeth a
nodidadau, dyma dreulio oriau os nad dyddiau / wythnosau yn teithio o amgylch
Gogledd Cymru yn helpu’n gilydd gofio’r ffeithiau am Gastell Penrhyn, Pont
Britannia a Gerddi Bodnant. Yn y diwedd, dyma’r ddau ohonnom yn dod yn
gyd-weithwyr, yn dywysyddion proffesiynnol hefo cymdeithas WOTGA.
Un o bleserau bywyd y blynyddoedd
diweddar oedd cael tywys Americanwyr o amgylch Castell Caernarfon, Gwyn yn
gyfrifol am un bws o hanner cant, a finnau hefo criw arall ac efallai 4 bws
llawn arall yn cyrraedd y castell yr un pryd. Yr hwyl (a’r joc ymhlith ein
cyd-weithwyr) fydda ceisio cael hyd i safle o fewn y castell er mwyn dechrau’r
daith dywys gan gadw pellter o Gwyn. Rhy agos i Gwyn a byddai ei lais
melfedaidd, Shakesperaidd yn ein boddi. Roedd angen bod yr ochr arall i’r
Castell i Gwyn os oedd fy nghriw am fy nghlywed.
O fewn wythnosau i’r cyfarfod cyntaf
yna, roedd Gwyn yn galw heibio ein ty ni, roedd wedi dod ac anhreg Nadolig i’r
hogia acw, crys-T yr un, doedd dim rhaid iddo – ond dyna chi Gwyn, a roedd yr
hogia wedi cymeryd ato yn syth. Efallai fel ‘actor’ oedd wedi gwneud ei siar o
raglenni plant roedd y ddawn ganddo i gyfathrebu, neu i uniaethu, a hogia oedd
pryd hynny yn 6 a 7 oed.
Felly, efallai fod yna elfen o
‘arall-gyfeirio’ yn hyn oll, efallai fod Gwyn yn iawn yn hynny o beth ac eto
efallai mae estyniad o’r hyn roeddem yn ei wneud eisoes oedd hyn, sef
cyfatherbu. Efallai mae dyna’r swydd-ddisgrifiad gorau, cyfathrebwyr – dyma
oedd Gwyn yn sicr a rhywun oedd ac angerdd yn ei fol am Gymru. Dyna efallai pam
fod hi wedi bod mor hawdd dod yn ffrindiau mewn amser mor fyr.
Arwydd o gyfeillgarwch yw fod modd
eistedd hefo Gwyn heb orfod ‘gwneud sgwrs’. Ar ein pewnythnosau preswyl yn cael
ein hyfforddi i fod yn dywysyddion, braf oedd cael eisedd hefo Gwyn ar ddiwedd
nos. Un, am ei fod yn Gymro Cymraeg, ond yn ail am fod modd eistedd hefo fo heb
orfod ‘gwneud sgwrs’. Braf oedd hynny ar ol diwrnod hir o astudio neu gorfod
gwneud sgwrs hefo cyd-weithwyr llai cyfarwydd a di-Gymraeg.
Weithiau mae cael dweud dim byd yn y
Gymraeg llawer haws na trio cynnal sgwrs yn yr Iaith fain. Bydd yn golled heb
Gwyn, anodd credu na fydd o hefo ni Haf yma pan fydd yr ymwelwyr yn cyrraedd –
fydd Castell Caernarfon byth ru’n fath eto heb Gwyn a’i ymbarel Draig Goch yn
sicr.
Un o’r pethau arall ofnadwy o
ddoniol am y cyrsiau tywys yw ei bod yn anorfod ein bod yn trafod digwyddiadau
hanesyddol fel Arwisgo Charles ym 1969 a byddwn o hyd yn clywed Gwyn yn tuchan
dan ei wynt petae unrhyw son am hyn gan y tiwtoriaid. Fedrai ddim bod yn siwr,
ond synnwn i ddim fod Gwyn wedi llwyddo i gyflwyno teithaiu tywys hynod
ddiddorol, ond ei fod, rhywsut neu’i gilydd, wedi llwyddo i ‘arall-gyfeirio’ eu
llygaid wrth fynd heibio llechan 1969 yng Nghastell Caernarfon !
Fuodd na rioed drafodaethau am
‘arall-gyfeirio’ ar ol y diwrnod cyntaf yna. Roedd digon i’w wneud a phur anaml
fydda’r sgwrs yn troi at y Byd actio neu’r Byd Pop Cymraeg onibai fod rhwyun
oedd y ddau ohonnon yn ei adnabod yn hawlio sylw mewn sgwrs neu fel mae rhywun
weithiau yn hel atgofion. Roedd Gwyn yn perthyn i genhedlaeth wahanol i mi,
felly doedd sgwrs am Datblygu neu Tynal Tywyll ddim yn debygol, ond efallai
weithiau bydda fy arwres fawr, Gaynor Morgan-Rees neu Sharon Morgan
(archaeolegydd arall) yn dod i mewn i’r sgwrs.
Tynnwyd y llun uchod gan gyfaill i
ni llynedd, gwr o’r enw Peter Wynne Davies o Sir Benfro, gwr arall sydd yn
gyfathrebwr a dyn arall sydd yn gweld y Byd mewn ffordd ddigon tebyg i’r ffordd
roedd Gwyn a finnau yn gweld pethau. Rhy hen i fod yn ddi-farn, i dderbyn
unrhyw nonsens, ac eto heb flewyn o sinigiaeth, cefais cwmni rhai fel Gwyn a
Peter yn bleser ac yn sicr fe ddysgais gymaint o wrando a swgrsio.
Dyma Gwyn ar draeth Cefn Sidan neu “Gefn
Shidan” fel mae nhw’n dweud yn “Shir Gar”. Roeddem yma yn ymarfer ar gyfer
arholiad tywys ar fws a dwi’n credu fod y llun yn cyfleu’r cyfan. Roeddem hefyd
ar wyliau parhaol yn darganfod darnau arall o Gymru. Yn sicr mae gor-ddefnydd
o’r disgrifiad ‘cymeriad’ wrth son am bobl ond dyna oedd Gwyn Parry – cymeriad
lliwgar ac uchel ond hynod annwyl yr un pry’d. Pethau prin yw gwir gymeriadau –
a bydd colled heb Gwyn Parry.
No comments:
Post a Comment