Wednesday, 5 March 2014

Cae'r Gors Herald Gymraeg 5 Mawrth 2014


 

Rhai blynyddoedd yn ol fe “adolygais” ‘Traed Mewn Cyffion’ ar gyfer y golofn hon. Rhyw fath o arbrawf oedd hyn gan nad oeddwn wedi darllen Kate Roberts yn ystod fy ieuenctyd. Yr hyn oedd yn amlwg i mi o ddarllen y nofel fel oedolyn, oedd pam mor debyg oedd rhai o gymeriadau Rhosgadfan yn y llyfr, i aelodau fy nheulu fy hyn, sydd yn hanu o ochrau Mynydd Cilgwyn.

            Y mwyaf roeddwn yn darllen ‘Traed Mewn Cyffion’ y mwyaf yr oeddwn yn dod i ddeall ac adnabod fy nheulu. Rhywsut, fel dyn canol oed, roedd Kate Roberts yn gwneud synnwyr perffaith. Go brin byddai colli brawd yn y Rhyfel Mawr, tlodi a gwaith caled chwarelwrs Moel Tryfan a Chors y Bryniau wedi apelio atof fel hogyn yn ei arddegau, ond  mae lle i ddadlau yng nghyd destyn Kate, fod rhywun yn dod i werthfawrogi hi fwy gyda threiglad amser.

Dros yr wythnosa dwethaf rwyf i, a chwpwl o gydweithwyr o gymdeithas tywys NWTGA, wedi bod yn treulio llawer o amser yng Nghae’r Gors yn rhedeg cwrs hyfforddi i bobl ifanc ar ran Cadw. Y nod yw rhoi sgiliau cyflwyno, cyfathrebu a hyder i bobl ifanc sydd yn bennaf allan o waith a ddim yn y gyfundrefn addysg.

Rydym wedi bod yn dysgu trawsdoriad diddorol o bobl ifanc am ‘Frenhines Ein Llen’ a’r hyn sydd yn ddiddorol yw sylwi pam mor hawdd yw cadw eu sylw ac ennyn eu diddordeb. Yn sicr, o fewn cyd-destyn  Cae’r Gors, gyda’r bwthyn, y dodrefn, y dylluan wedi ei stwffio yn y lloft, y teipiadur, mantell Kate, celfi’r chwarelwrs – mae digon yma i danio’r dychymyg. Yn wir, does dim rhaid bod wedi clywed am Kate o’r blaen i ddechrau ymddiddori yn stori Cae’r Gors a doedd pob un o’n ‘myfyrwyr’ yn sicr ddim yn gyfarwydd a Kate cyn dechrau ar y cwrs.

Rhywbeth arall diddorol iawn yw fod un o’r myfyrwyr mewn cadair olwyn a fe soniodd wythnos dwetha pam mor hawdd oedd ymdopi a Chae’r Gors – mae modd cal mynediad i bob rhan o’r ganolfan yn ddi-drafferth. Dydi hyn ddim yn wir am bob adeilad hynafol, dydi hyn ddim yn bosibl ym mhob adeilad hynafol, ond dyma ni yng Nghae’r Gors yn llwyddo’n hollol ddi-drafferth i fod yn hwylus ar gyfer cadeiriau olwyn. Marciau llawn. Mae hyn yn bwysig.

Un peth yw dysgu am hanes Cymru, llenyddiaeth a chyd-destyn y chwareli ond yr wythnos dwetha, yr uchafbwynt i mi oedd ymweliad y gogyddes Carys Cadwaladr. Roedd Carys yno i baratoi, ac i ddangos i ni oll, sut mae paratoi ‘cacan gri’ neu ‘deisen gri’, (“Welsh Cakes” i’r an-llythrennog !).

Gan grasu’r caceni ar haearn poeth uwch y tan, mae’n debyg fod pum munud i bob ochr yn ddigonol, felly cymharol hawdd oedd eu paratoi unwaith roedd y cynhwysion wedi eu cymysgu. Bwyd ar gyfer penwythnos oedd y gacan gri, rhywbeth hawdd i’w baratoi os bu ymweliad annisgwyl – neu os oedd y pregethwr yn galw heibio am de yn y parlwr.

Soniodd Carys fel byddai’r fam yn treulio diwrnod cyfan yn paratoi cacan gri, ond wrth reswm byddai’r fam yn cyflanwu dwsinau o dasgau arall tra’n gogonio. Ni ddynion sydd yn ‘methu’ gwneud mwy nac un peth ar y tro. Yma mae yna ddadl arall yndoes, fod hanes y fam yn y cyd-destyn chwarelyddol wedi cael ei anwybyddu – mae streics a gweithio ar wyneb y graig llawer mwy “cyffrous”.

Ond beb y fam, “y Fam Gymraeg / Gymreig”, pwy fydda wedi cadw ty, pwy fydda wedi paratoi bwyd, magu’r plant a cael y dillad yn barod ar gyfer bore Dydd Llun ? Heb os mae yna hanes yma sydd heb gael ei drin a drafod yn llawn – dewch o’na Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, Cadw a phawb arall – hanes y fam Gymraeg / Gymreig – dyma brosiect i bawb !

Llenwodd ystaffel fyw (cegin) Cae’r Gors hefo arogl cacan gi yn crasu, does fawr all guro’r ogla yna nagoes a wedyn rhaid oedd i ni gyd brofi ymdrechion Carys. Anodd yw dweud na i gacan gri gynnes, felly dyma pawb yn cael (mwy nac un) tamad. Felly dyma ni, yn astudio hanes drwy lygaid y fam, a rhaid dweud fod hyn yn teimlo mor addas a hollol berthnasol yng Nghae’r Gors !

Yr amlwg arall yng nghyd destyn Cae’r Gors yw mai anodd os nad amhosibl yw cynnal canolfan treftadaeth fel hyn yn fasnachol. I’r rhan fwyaf o bobl mae Rhosgadfan yn “anghysbell”, y cwestiwn arferol wrth son am Kate yw “Pwy ?” ac eto o dreulio amser yma mae ymateb pawb mor ffafriol – mae’r stori mor ddiddorol. O dreulio amser yma mae rhywun yn dod i werthfawrogi pam mor bwysig yw safle Cae’r Gors – yn fwy felly fel canolfan ar gyfer addysg a chreu diddordeb.

Diolchwn felly fod Cadw yma, fod swyddog llawn amser wedi ei benodi sydd yn rhannu ei amser rhwng Segontium a Chae’r Gors gyda cyfrifoldeb am hyrwyddo a datblygu’r ddau safle. Dau safle gwahanol iawn, y Rhufeiniaid a ‘Brenhines Ein Lle’ ond dwy elfen bwysig o hanes Sir Gaernarfon a safleoedd y dylid manteisio arnynt.
 

 

No comments:

Post a Comment