Dau gwestiwn
sydd gennyf yr wythnos hon, oes yna ddigon o sylw wedi cael ei roi i hanes
diwylliant poblogaidd cyfoes Cymraeg a lle da ni’n mynd nesa ? Dwi’n gwybod fod
hwn yn gwestiwn cyfarwydd (gennyf) i ddarllenwyr rheolaidd y golofn hon. O
bosib byddaf yn gallu cynnig ateb ar y diwedd, ac efallai wedyn na fydd rhaid
gofyn y cwestiwn yma eto !
Ychydig
cyn y Nadolig bu i mi gael fy nghyfweld gan Clancy Pegg, cyn aelod o’r grwpiau
Catatonia a Crac, ar gyfer llyfr mae hi yn sgwennu i’w gyhoeddi gan Llyfrau
Seren yn hwyrach eleni. Llyfr y mae hi ei hyn yn ddisgrifio fel ‘hanes
cymdeithasol’ yn dilyn hynt a helyntion y Byd Pop Cymraeg / Cymreig o’r cyfnod
‘tanddaearol’ (80au cynnar) hyd at ‘Cwl Cymru’ (90au hwyr) fydd hwn.
Saesnes
yw Clancy, o Lundain, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Fe laniodd
yma fel roedd Catatonia yn dechrau (1992/93), ac am ychydig bu’n chwarae
allweddellau i’r egin grwp. Wedyn fe aeth ymlaen i ffurfio grwp ei hyn, ‘Crac’.
Ond, yr hyn fydd yn ddiddorol am lyfr Clancy yw fod yma ymdrech gan Saesnes i
ddadansoddi’r holl fwrlwm Cymraeg y bu iddi lanio yn ei ganol ddechrau’r 90au.
Roedd
Clancy ar un adeg mewn perthynas a John o’r grwp Llwybr Llaethog felly fe
gafodd gyflwyniad o fath i’r Sin Gymraeg tra yn Peckham cyn iddynt ddychwelyd i
Gymru ar ddechrau’r 90au ond mewn ffordd, doedd dim wedi ei pharatoi am
gyrraedd Cymru ac ymdrochi yn llwyr ym mwrlwm grwpiau pop Cymraeg. Doedd ganddi
ddim syniad am y Sin Danddaearol – felly rhaid oedd gwneud ymchwil a chyfweliadau
i gael cefndir y cyfnod cychwynnol hwn.
Braf
oedd cael sgwrsio gyda Clancy gan ei bod yn edrych ar yr holl beth o safbwynt
hollol wahanol – ac edrychaf ymlaen i ddarllen y llyfr. Bydd yn gofnod arall
(yn Saesneg y tro hwn) o beth ddigwyddodd yn ddiwylliannol yng Nghymru yn y
cyfnod hwnnw o ddechrau’r 80au hyd at ddiwedd y 90au. Fersiwn / dehongliad Clancy
o’r stori fydd hwn wrth reswm.
Er
i mi fwynhau sgwrsio a hi, sgwennais blog yn Saesneg yn fuan wedyn a gyhoeddwyd
gan Seren, yn son am y rhwystredigaeth o
sylweddoli fod cyn llied o bobl wedi edrych ar yr hanes yma, cyn llied wedi
dangos diddordeb dros y blynyddoedd ……..
Ond
oleiaf bydd triniaeth Clancy yn bodoli. Wedyn, wythnos yn ol dyma fwy neu lai
orfod ail adrodd yr un stori, y tro yma ar gyfer rhaglen mae S4C yn gynhyrchu
gyda Gareth Potter o’r enw ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’. Fe sgwennodd Potter
sioe lwyfan un dyn o’r un enw (Gadael yr G21ain), fe deithiodd y sioe led led
Cymru ychydig yn ol ac unwaith eto –
oleiaf mae / bydd yna gofnod yn bodoli. Ferswin / dehongliad Potter wrth reswm
oedd y sioe lwyfan a thrwy ei lygaid ef mae’r stori ar gyfer y teledu – ef sydd
yn cyfweld a ni i gyd oedd yn rhan o’r peth. Roedd Potter hefyd yn rhan o’r peth
fel aelod o grwpiau Clustiau Cwn, Pry Bach Tew, Traddodiad Ofnus a Ty Gwydr.
Eto,
roedd cael treulio amser gyda Potter ddigon pleserus, rwyf o hyd wedi bod yn
hoff ohonno, ac o hyd wedi edmygu ei greadigrwydd a’i ddyfalbarahad. Yn wahanol
i mi, mae Potter yn dal yn rhan o’r Byd Pop Cymraeg. Ymdrechais yn galed i beidio llithro yn ol i
fod yn “Rhys Mwyn Punk Rock”, ac yn wir cefais ffilmio ychydig hefo’r criw yng
nghaer Rufeinig Segontium a dyma deimlo yn llawer mwy brwdfrydig wrth
ddisgrifio’r baddondai Rhufeinig na
deimlas wrth son (unwaith eto) am orfod herio’r Byd Cymraeg er mwyn cael
mynegiant, llwyfan a’r rhyddid i greu ar ddechrau’r 80au …….
Ond,
roedd rhaid i mi ddweud wrth Potter a’r criw ffilmio fy mod o’r farn fod hyn
oll yn rhy chydig rhy hwyr. Nid berniadaeth o ymdrechion Potter na’r rhanglen
ar gyfer S4C ond y ffaith syml amdani yw nad oes fawr o neb yn cofio’r cyfnod,
a fawr o neb hefo unrhyw ddiddordeb bellach. Duw a wyr beth fydd pobl yn feddwl
– mi fydd yn Iaith arall i’r rhan fwyaf o wilwyr S4C yn sicr.
Canlyniad
peidio cymeryd ein hanes o ddifri yw fod yr hanes wedi ei ddi-brisio a’i
neilltuo i rhyw gornel dywyll. Er ein bod yn byw yn oes youtube a’r We, (lle
mae rhan helaeth o’r hanes ar gael gyda llaw), mae’n anodd bellach i gael y
drafodaeth angenrheidiol. Fe ddylia hyn fod wedi digwydd yn rheolaidd ac ers
blynyddoedd – 10 mlynedd ar ol ‘Cwl
Cymru’, 15 mlynedd ar ol record ‘Cam o’r Tywyllwch’ a sawl gwaith wedyn. Sylwer
faint o raglenni am ‘Punk’ sydd wedi bod
ar BBC 4 – dwsinau a mwy – oherwydd fod y comisiynwyr oll o’r genhedlaeth Punk
yn ol y son (neu’r dyna’r feirniadaeth a anelir at BBC 4).
Yng
ghyd destyn y Byd Cymraeg – bydd llyfr Clancy a rhaglen Potter yn gyfystyr a
“sylw mawr” i’r Byd Pop Cymraeg yn yr
80au / 90au. Ond petae y Cymry yn gallu bod yn chydig mwy gonest – mae’n
gywilyddus fod y fath ddifaterwch wedi ei ddangos tuag at elfen bwysig o’n
hanes, wedi’r cwbl heb record Cam o’r Tywyllwch mae lle i ddadlau na fydda’i Cwl Cymru rioed di
digwydd …………….
A’r
cwestiwn arall – lle nesa ? Cwestiwn da !
Yo - parch! Dwi'n dal i weithio ar y llyfr-ffotos...
ReplyDeleteDiolch John !
ReplyDelete