Rwyf newydd
ddod ar draws dau lyfr hynod ddefnyddiol, ‘How
To Read Buildings’ gan Carol Davidson Cragoe a ‘Rice’s Architectural Primer’. Y rheswm dros eu prynu oedd awydd i
ddysgu “darllen” adeiladau yn well. Rwyf wedi treulio’r blynyddoedd dwetha ’ma
yn darllen y tirwedd ond rwyf angen deall dipyn mwy am hen dai Cymreig sydd,
wedi’r cyfan, yn eistedd yn, ac ar, y tirwedd Cymreig.
Cyn gwenud hynny, mae angen deall y
gwahaniaeth rhwng ‘Doric’, ‘Ionic’ a ‘Corinthian’ a sut i adnabod bwa
Normaniadd neu ffenestr Perpendiciwlar, nid fod y drefn Glasurol yn ymddangos
mor aml a hynny yng nghefn gwlad Cymru. Ond cofiwch, mae colofnau Ionic yn
ymddangos ar adeiladau annisgwyl weithiau, fel swyddfa Plaid Cymru yng
Nghaernarfon a does dim modd osgoi’r bwa Normaniadd dros ddrws Eglwys
Aberdaron. Felly mae’r wybodaeth uchod yn ddefnyddiol.
Rhywbeth arall rwyf yn ymwybodol
iawn ohonno, yw fy anwybodaeth llwyr am lestri Cymreig ac yn ddiweddar wrth
edrych ar gasgliad Porslen Abertawe a Nantgarw ym Mhlas Glyn y Weddw,
Llanbedrog dyma ddweud wrth fy hyn fod
angen dod yn ol yma ar ddiwrnod clir i gael astudio’r porslen a cheisio dallt
mwy am y pethe yma.
Ond i droi yn ol at hen adeiladau,
rwyf wedi bod yn mynd a criw ‘Heneiddio’n Dda’ Nefyn allan am dro bob pnawn
Llun ac wedi bod yn canolbwyntio ar rhai o eglwysi amlwg Llyn fel Pistyll,
Penllech a Llangwnnadl ond Llun dwetha dyma fentro draw i Penarth Fawr y ty
hynafol rhwng Pwllheli a’r Ffor. Un fantais o fynd am Penarth Fawr hefo criw ‘Heneiddio’n
Dda’ yw ein bod yn gallu galw heibio caffi canolfan arddio Tyddyn Sachau ar y
ffordd adre am baned ! Rhaid canmol y caffi a’r gwasanaeth a’u dewis o felysion
heb glwten !!
Mae tywys-lyfr Penarth Fawr (CADW)
gennyf, llyfryn sy’n cynnwys Castell Cricieth a Ffynnon Gybi a mae’r darn ar
Penarth Fawr wedi ei ysgrifennu gan wr o’r enw Richard Suggett o’r Comisiwn
Brenhinol yn Aberystwyth. Cefais y fraint o gyflwyno darlith gan Richard yn
ddiweddar yn y Ganolfan Nefyn fel rhan o lansiad Cymdeithas Archaeoleg a Hanes
Llyn. Dyma’r ail dro i mi glywed Richard yn darlithio a’r hyn sydd yn hollol
amlwg wrth wrando arno yw ei angerdd llwyr i’r maes hen dai Cymreig.
Cyfeiriodd Richard at Penarth Fawr
yn ystod ei ddarlith,a finnau a chriw Heneiddio’n Dda wedi bod yno deuddydd yng
nghynt. Yr argarff gyntaf wrth i ni gyrraedd y neuadd oedd pam mor ddistaw a
heddychlon oedd y lleoliad. Roedd yr adar bach yn canu a’r ffordd gefn yn
cysylltu y Ffor a lon Pwllheli-Cricieth yn ddigon i’n cludo i ffwrdd o swn y
Byd (traffig).
Adeilad o garreg yw Penarth Fawr ac
un o’r nodweddion amlycaf yw’r gwaith pren cerfiedig ‘godidog’ fel mae Suggett
yn ei ddisgrifio sydd i’w weld tu mewn i’r neuadd. Y nenffyrch fyddwn i yn
ddweud ond y disgrifiad cywir yw “cwpl palis bwaog uchel” am y pren sydd yn
fframio’r fynedfa o’r cyntedd croes.
Mae modd dringo i’r “lloft” er mwyn
cael golwg agosach ar y darnau pren. Digon moel yw’r neuadd fewnol, wedi ei
wyngalchu heb fawr ddim dodrefn, a mae son fod rhai o’r hen neuaddau yn weddol
foel yn wreiddiol gyda mainc neu bwrdd ar gyfer yr uchelwr / tir feddianwr ond
fawr mwy. Fel dywedodd Suggett yn ei ddarlith “roedd personoliaeth y perchennog
yn llenwi’r neuadd”.
Pwynt arall amlwg wrthgwrs am yr hen
neuadau yw fod hyn yn arwydd o statws a chyfoeth a fel sydd wedi cael ei fynegi
lawer gwaith yn ddiweddar gan amryw hanesydd a darlithydd yw fod y Saeson yn
enwedig yn y Ddeunawddfed Ganrif ac ymlaen wedn i gyfnod Fictoria, wedi tueddu
i awgrymu fod Cymru yn rhyw fath o le diarffordd anwaraidd. Anwiredd ac
anghywir a meddylfryd Imperialaidd – fel petae rhywun yn disgwyl unrhywbeth
gwahanol wrthgwrs !
Diddorol iawn oedd gwrando ar
Suggett yn trafod sut mae modd dydddio hen dai drwy ddyddio’r coed ac wrth iddo
drafod hyn mae’n cydnabod gwaith hynod werthfawr Margaret Dunn a’r Prosiect
Dendrocronoleg Gogledd Orllewin Cymru / Dyddio Hen Dai Cymreig. 1476 yw’r
dyddiad a roddir ar gyfer codi’r neuadd ym Mhenarth Fawr gan Hywel ap Madog,
disgynydd i Collwyn ap Tango (arglwydd Eifionydd yn y 12fed ganrif).
Mae’n debyg fod tir Penarth Fawr ym
meddiant teulu Hywel ap Madog yn barod felly’r cwestiwn amlwg yw a oedd neuadd
flaenorol o rhyw fath yno ? Codwyd dau estyniad i’r neuadd ym 1600 ac yn
ddiweddarach daeth Penarth Fawr yn garterf i deulu Love Parry. Rhywbeth arall o
ddiddordeb mawr i ddilynwyr yr arlunudd J.M.W Turner, yw iddio ymwled a
Chricieth ym 1798 a mae llun dyfrliw o’r dref yn dyddio o 1835 ganddo.
Erbyn hynny fferm ar osod yw Penarth
Fawr, mae teulu Love Parry wedi hen fynd a does dim son for Turner wedi bod yno
na wedi arlunio’r hen neuadd gwaetha’r modd. Dyn cestyll a thirwedd oedd
Turner, nid dyn hen dai Cymreig.
Y drefn gyda’r tai canol oesol yma
oedd cael lle tan yng nghanol y neuadd ond yn ddiweddarach wedyn gwelir codi
simdde yn erbyn un ochr i’r neuadd. Mae hyn hefyd yn digwydd mewn adeiladau fel
Abernodwydd (yn Sain Ffagan) a mae rhywun yn gweld piti rhywsut nad oes modd
cerdded i mewn i’r adeliadau yma heddiw a chael tanllwyth o dan yng nghanol
ystafell a’r mwg yn codi wedyn drwy’r to ! Dyna sut fydda creu ‘awyrgylch’ !
Ychwanegwyd y lle tan gan Hugh Gwyn tua 1615 i gymeryd lle yr hen
aelwyd yn y canol. Gwelir arfbais y teulu ‘Wynn’ uwchben y lle tan a nodwedd
arall ddiddorol yw’r pren gyda cerflun yn cofnodi priodas John a Jane Wynne ym
1656 sydd i’w weld yn erbyn y wal ogleddol yn y neuadd er nad oes neb yn sicr
lle roedd y pren yma yn wreiddio – er ei fod yn amlwg yn drawbyst neu yn rhan o
ffram adeilad.
Mae Penarth Fawr ar agor bron pob
diwrnod a mae mynediad i’r ty yn rhad ac am ddim. Am fanylion pellach edrychwch
ar safle we CADW.
No comments:
Post a Comment