Clips You Tube :
Bryn yr Hen Bobl
http://www.youtube.com/watch?v=JWByij3fsrc&feature=share&list=UUE-3hW4KPTe0Ce6-ePRX0Sw
Bryn Celli Ddu
https://www.youtube.com/watch?v=TQ2D-3eL7y4&feature=c4-overview&list=UUE-3hW4KPTe0Ce6-ePRX0Sw
Caer Leb
https://www.youtube.com/watch?v=WOOzjpyVajY&list=UUE-3hW4KPTe0Ce6-ePRX0Sw
Hirddydd Haf,
yn ol y son, un o’r dyddiau pwysicaf yn y ‘Calendr Celtaidd’, sef diwrnod hiraf
y flwyddyn a diwrnod a fathwyd yn ‘Alban Hefin’ gan yr ymryddawn Iolo Morganwg
ar ddiwedd y ddeunawddfed ganrif. Cyn Iolo roedd y diwrnod yn cael ei adnabod
fel Calan Ieuan Fedyddiwr ac yn cael ei chynnal ar 24 Mehefin gan y Cristnogion.
Roedd yn arferiad gan y Cristnogion i “berchnogi” rhai o’r hen bethau Celtaidd
yma ond wedyn i newid dyddiad er engraifft er mwyn eu hawlio fel gwyl neu ddigwyddiad
Cristnogol.
Dadl arall wrthgwrs yw pwy oedd y
Celtiaid, a beth ydi ‘Celtaidd’ ? Un diffiniad heddiw, yw rhywun sydd yn byw
lle siaredir Iaith Geltaidd ond yn hanesyddol rydym yn son go iawn am
ddiwylliant celfyddydol, neu math o gelf, sydd yn dod o ardal La Tene, a Llyn
Neuchatel yn benodol. yn y Swisdir. Yma yn y llyn cafwyd gwrthrychau tebyg iawn
i’r hyn a ganfyddwyd yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Mon sef arfau rhyfel y
“Celtiaid” sef y bobl Oes Haearn oddeutu 300 cyn Crist ymlaen.
Os am ddarllen mwy am y
damcaniaethau yma ynglyn a pwy, os o gwbl, oedd y Celtiaid darllenwch erthygl
gan yr athro Raimund Karl “How Celtic Are
The Welsh ?” yn ‘A New History of
Wales, Myths and Realities in Welsh History”
(Gomer 2011). Dydi popeth ddim mor amlwg hefo’r Celtiaid.
Felly hefo Neuchatel a Llyn Cerrig
Bach rydym yn son am wrthrychau pwysig a gwerthfawr, arfau rhan amla, sydd yn
cael eu taflu i mewn i’r llyn sanctaidd, o bosib yn achos Llyn Cerrig Bach, os
ydym am goelio Tacitus a Caesar, gan y Derwyddon, yr offeiriaid a’r athrawon
Celtaidd. Efallai wir, neu pwy a wyr ond un peth sydd yn sicr mae’r gwrthrychau
sydd yn cael eu hoffrymu yn Llyn Cerrig Bach yn dyddio i’r canrifoedd olaf cyn
Crist, rhwng tua 200cyn Crist a 50 oed Crist.
Sydd yn dod a ni yn daclus at Bryn
Celli Ddu, y feddrod hynod ac unigriw honno ger Llanddaniel Fab ar Ynys Mon.
Perthyn i’r cyfnod ‘Neolithig’ mae Bryn Celli Ddu, sef yr Oes Cerrig diweddar a
chyfnod y ffermwyr neu’r amaethwyr cyntaf ar Ynysoedd Prydain. Rydym yn son fel
arfer fod amaethyddiaeth yn cael ei gyflwyno i Ynysoedd Prydain o’r cyfandir
oddeutu 400 cyn Crist ac yn lledaenu yn raddol, o bosib ar hyd yr afordir
gorllewinol a hyd yn oed o Iwerddon gyntaf mewn rhai achosion (marc cwestiwn
ond posibilrwydd).
Yn ei bapur diweddar ‘Bryn Celli Ddu Passage Tomb, Anglesey :
Alignment, Construction Date and Ritual’ (Proceedings of the Prehistoric Society, 2010) mae Steve Burrow yn awgrymu fod dyddiad
adeiladu Bryn Celli Ddu yn y cyfnod 3074 – 2956 cyn Crist. Yr hyn sydd yn
chwyldroadol am bapur Burrow yw ei fod yn cydnabod, ers y tro cyntaf ers
ddechrau’r Ugeinfed Ganrif fod y cyntedd yn gorwedd ar linell codiad yr Haul ar
hirddydd Haf.
Crebwyllwyd hyn gyntaf gan Norman
Lockyer (1906) a chafodd ei ddamcanaieth gefnogaeth gan yr hynafiaethydd Neil
Baynes, ond erbyn i W.J Hemp gloddio yn Bryn Celli yn y dauddegau doedd dim som
am ddamcaniaethau Lockyer i’w gweld yn unrhyw le. Roedd archaeolegwyr y dydd am
ymbellhau o unryw son am linellau “ley-lines” rhag iddynt gael eu cyhuddo o fyw
mewn byd ffantasi.
Felly dyma ni dro ar fyd, Burrow yn
cadarnahu fod yr Haul yn dod i mewn i’r siambr ar hyd y cyntedd am rai dyddiau
o gwmpas 21ain Mehefin a mae hyd yn oed ffilm yn bodoli o’r digwyddiad yma,
sydd nawr i’w weld yn yr Amgueddfa
Genedlaethol yng Nghaerdydd. Tro arall ar fyd, ac un sydd i’w groesawu, yw fod
CADW eleni, wedi trefnu penwythnos o weithgareddau yn gysylltiedig a’r hirddydd
Haf.
Roeddwn yn gysylltiedig a rhai o’r
gweithgareddau. Ar y Dydd Gwener roeddwn yn arwain taith gerdded 10 milltir o
amgylch Henebion Neolithig Mon ar y cyd a’r storiwraig Fiona Collins mewn
digwyddiad wedi ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru. Gan fod cymaint o waith
cerdded ac angen bod am ein pethau penderfynais peidio codi gyda’r wawr ar fore’r
21ain. Byddwn wedi mwynhau gweld beth oedd gan y “Derwyddon”, sydd yn arfer
rhyw ddefod yno yn flynyddol, i’w ddweud ond rhaid oedd meddwl am weddill y
diwrnod.
Er mawr siom, ni welais dderwydd
drwy weddill y dydd a roeddwn yn edrych ymlaen i weld (cael dadl) sut mae
beddrod a adeiladwyd oddeutu 3000 cyn Crist hefo unrhyw gysylltiad o gwbl a’r Celtiaid
a oedd yn troedio Mon tua 300 cyn Crist. Mae mwy o amser rhwng adeiladu Bryn
Celli Ddu a Llyn Cerrig Bach na sydd rhynthym ni heddiw a’r Derwyddon – felly
oes yna gysylltiad o gwbl, dyna yw’r cwestiwn ?
Felly ches i ddim cyfarfod a derwydd
na dadlau hefo un chwaith, efallai gan eu bod wedi codi gyda’r wawr roedd taith
ddeng milltir yn ormod iddynt. Da ni gyd yn heneiddio ! Ar y pnawn Sadwrn roedd
‘Diwrnod Agored’ yn Bryn Celli gyda dros 300 wedi ymweld a’r safle. Roedd hi
fatha ffair, Steddfod fychan, Gwyl, roedd swn plant yn chwarae ac yn rowlio
lawr y domen, roedd stondinau a crefftwyr yn ail greu arfau callestr a
cerfluniau ar garreg fel sydd yn Barclodiad y Gawres. Bwrlwm.
O gofio mae CADW “yw’r mudiad Seisnig sydd ond yn gofalu am, a
hyrwyddo Cestyll Edward 1af” (sic)
roeddwn wrth fy modd yn gweld pobl leol, Cymry Cymraeg ac ymwelwyr o
dros y ffin ac ambell un o dramor yn mwynhau y diwrnod, yn ail feddianu’r
safle, yn cael os nad hawlio perchnogaeth. Cofiwch roedd Bryn Celli Ddu yn cael
ei adeiladu cyn unrhyw son am Gymru, Lloegr na Llanrwst ond mae’n allweddol i’n
hanes ni fel cenedl – dyma feddrod yr amaethwyr cyntaf a mae’n perthyn i ni hyd
heddiw.
No comments:
Post a Comment