JMW Turner ‘The Morning After The Storm’ (c1840-1845),
Claude Monet ‘San Giorgio Maggiore’ (1908)
ac wrth gwrs Renoir ‘La Parisienne’ neu’r
Ladi Las, fel mae ambell un yn disgrifio’r neu gyfeirio at y llun. Wrth ymweld
ac orielau celf yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, un peth sydd yn creu
argraff yw faint o’r lluniau ‘eiconaidd’ yma sydd wedi eu gadael i’r Amgueddfa
fel rhodd gan y chwaeorydd Davies.
Bu rhaglen wych ar S4C yn ddiweddar
gyda Ffion Hauge yn olrhain hanes Gwendoline (1882-1951) a Margaret (1884-1963)
wyresau David Davies, Llandinam y gwr wnaeth ei ffortiwn drwy adeiladu
porthladd y Barry a rheilffyrdd er mwyn allforio glo, fe wnaeth ffortiwn o’r
pyllau glo yn ogystal.
Bydd unrhywun sydd yn teithio ar hyd
yr A470 yn gyfarwydd a chofeb David Davies yn Llandinam ac atgof doniol mewn
ffordd sydd gennyf bob amser o’r hen David Davies gan fod rhywun wedi gosod
‘cone traffic’ am ei ben a hwnnw wedi ei adael yno am flynyddoedd yn ystod ein
ieuenctyd yn Sir Drefaldwyn.
Dychwelais i Gregynog i recordio
rhaglen ‘Hawl i Holi’ gyda Dewi Llwyd. Roeddwn yn edrych ymlaen gan fod
gweithio gyda Dewi bob amser yn hwyl ac yn bleser ond yn fwy byth na recordio
‘Hawl i Holi’ roeddwn wedi edrych ymlaen i dreulio ychydig o amser o amgylch
Gregynog. Mae blynyddoedd ers mi fod yno a roeddwn am drio dilyn dipyn ar ol
traed Gwendoline a Margaret, eistedd yn y gerddi, edrych ar adeiladwaith y ty
ac anadlu awyr iach Maldwyn.
Ond fel sydd o hyd yn digwydd yn y
Byd prysur hwn, dyma alwad ffon gan Hefin Elis, cyn aelod o’r grwp Edward H
wrthgwrs, a mae Hefin am i mi gyfrannu i raglen radio mae’n recordio ar hanes y
grwp Edward H (i’w ddarlledu ar Radio Cymru Awst 1af).Digwydd bod yr un diwrnod
roeddwn yn cloddio hefo Prifysgol Bangor i fyny ym Meillionydd ym Mhen Llyn ar
safle ‘cylchfur dwbl’ Oes Efydd / Oes
Haearn, felly roedd rhiad cyfarfod Hefin ar fy ffordd lawr am Sir Drefaldwyn,
ym Mhenrhyndeudraeth i recordio, a dyma ddiwedd ar unrhyw obaith o gyrraedd
Gregynog awr neu ddwy cyn dechrau recordio rhaglen Dewi Llwyd.
Mae unrhyw gyfle i drafod Hanes Canu
Pop Cymraeg yn bwysig ac yn un na fyddwn
yn ei fethu a doniol oedd cyfarfod a’r gyflwynwarig annwyl a hynod
broffesiynnol Mari Lovgreen sydd yn dyfynu rhywbeth ddywedais yn y Faner ym
1985 mae “cancr y Cymry oedd y Steddfod a Edward H”. Efallai na fyddwn yn ei
ddweud cweit mor haerllyg heddiw ond yn y bon, mae’r pwynt yn iawn, os ydym yn
fodlon hefo cyn llied o amrywiaeth ac ystad o ddiwylliant mae hi yn ddu arnom.
Nid beirniadaeth uniongyrchol o’r
Steddfod nac Edward H (er mi oedd o ar y pryd) ond trio gwneud y pwynt fod
angen Popeth yn Gymraeg, rhaid ymestyn ffiniau yn hytrach na’i cyfyngu nhw –
rhaid cael mwy o amrywiaeth nid llai – ac efallai mae beirniadaeth o agweddau’r
Cymry Cymraeg (culni diwylliannol) oedd hyn yn ei hanfod, neu rhywstredigaeth
yn sicr, ein bod yn fodlon hefo “un grwp” neu “un prif ddigwyddiad”.
Rhyfeddach byth oedd mae Hefin oedd
yn recordio, a rhyfeddach byth mae’r person nesa yn y rhes i gael ei recordio
oedd Dafydd Iwan. Rhaid chwerthin, achos wrth i mi gyrraedd Gregynog pwy oedd
yn rhannu gofod a mi ar y panel ond neb llai nau Huw Jones “Dwr” sef Cadeirydd
S4C. Chwerthais na fyddwn wedi dod a ‘ffelt-tip’ du hefo mi a chael y tri i
arwyddo hen recordiau feinyl !
Unwaith eto mae yna gwestiynau gan y
gynulleidfa ynglyn a nifer gwrandawyr BBC Radio Cymru a sut i ddenu gwilwyr newydd
at S4C ? Awgrymais fod angen i’r “sianeli” bellach fod yn darparu cynnwys yn
hytrach na gweithredu fel sianeli neu gorsafeydd traddodiadol. Syniad hen
ffasiwn yw “Sianel Deledu” ond mae’r angen am gynnwys Cymraeg yn bwysicach nac
erioed. Dyma ni yn ol i’r dyfyniad yn y Faner ym 1985.
Yr hyn sydd angen yw AMRYWIAETH a
llawer mwy o honno, ar lwyfannau amrywiol a dim am y tro cyntaf dyma ofyn
cwestiwn, oes unrhywun o gwbl yn gwrando ? Mae’r cwestiynau yma yn tin-droi,
mewn pwll di-waloed o falu awyr. Yn fy rhywstredigaeth dyma ofyn pryd bu i Brif
Weithredwr S4C, Ian Jones drydar ddwetha ? Dyma’r modd mae pobl mewn sefydliadau
ayyb yn gallu “cysylltu” a’r gwrandawyr neu’r gynulleidfa yn uniongyrchol.
Dyma ffordd mor hawdd ac effeithiol
o “wrando” a chyfathrebu a’r werin bobl yn yr Oes Ddigidol, y tro olaf i Ian
Jones drydar oedd 19 Tachwedd 2012. Ar y llaw arall gweler Marilyn Lewis,
pennaeth CADW yn trydar ychydig oriau yn ol wrth i mi sgwennu’r golofn yma.
Wyddoch chi beth, byddwn wedi gwenud
unrhywbeth i osgoi’r drafodaeth yma, roedd Huw yn gampus iawn (fel chwaraewr
criced) yn batio’r bel yn ol a finnau yn 51 oed yn gyrru adre ar ol y rhaglen yn
teimlo fel y dyn ifanc yn ei ugeiniau oedd yn herio drwy golofnau’r Faner.
Ychydig rhywsut sydd yn newid, a fel gyda agweddau o fewn y Byd Pop Cymraeg,
sydd yn ymddangos fel petae wedi colli unrhyw weledigaeth na phwrpas gwelidyddol
mae’n ofod y dymunaf gadw’n glir ohonno.
Bellach mae’n rhaid ‘creu er mwyn
chwalu’ , mae’n rhaid gwthio ffiniau’r Gymraeg wrth reswm ond byddai treulio
oriau yn trafod Gwendoline a Margaret a chael gwerthfawrogi’ ‘The Morning After
The Storm’ wedi bod yn llawer mwy pleserus na trafod yr un hen bethau (sydd yn
amlwg yn poeni’r gynulleidfa) ond os yw’r cwestiwn yn cael ei ail adrodd mae’n
awgrymu fod dim yn newid / neb yn gwrando ?
Sneb yn gwrando, neu hyd yn oed "becso dam"!
ReplyDelete