“Thatcher”, roedd yr enw o hyd yn cael ei boeri allan
gyda’r holl atgasedd a phwyslais o anghytundeb posib, dyma’r agosa ddaeth y
rhan fwyaf ohonnom i brofi polisiau’r gwrth-Grist a sawl gwaith dros y
blynyddoedd rwyf wedi son na fyddwn byth yn dymuno “Thatcheriaeth” ar unrhywun.
Ond, wyddochi beth, oherwydd y gwrthwynebiad llwyr i’w pholisiau dwi ddim yn
amau mae Thatcher wnaeth y cyfraniad pwysicaf i’r Byd Pop yn ystod yr 80au
cynnar. Doedd dim fath beth ac “eistedd ar y ffens”, roedd rhaid cymeryd ochr,
safiad, safbwynt.
Y
troellwr recordiau John Peel soniodd rhyw dro ar BBC Radio 1 fod cerddoriaeth o
hyd yn fwy diddorol pan mae’r Gyfundrefn yn troi i’r Dde; ei bwynt wrthgwrs yw
fod hyn yn creu caneuon protest a’r angerdd cysylltiedig. Fe wyddom wrthgwrs
fod pop a ‘rock’n roll’ ar ei orau pan mae dynion ifanc blin yn troi y gitars
yna yn uchel a hefo rhywbeth i’w ddweud !
“Stand Down Margaret” meddai
The Beat, cytgan afaelgar, anthem hyd yn oed, can pop heb ei ail ar rhythm
reggae hawdd ond dyna chi neges, roedd y gan yma yn cael ei chanu gan The Beat
wrth ymddangos ar raglenni poblogaidd ar y teledu ym 1982. Roedd y neges felly
yn cyrraedd yr ystafell fyw, cyn yr oes yma,(oes youtube), da’chi’n cofio’r
adeg pan roedd y teulu cyfan yn gwylio Top of the Pops hefo’u gilydd ar Nos
Iau?
Hyd yn oed yn fwy amlwg oedd
“Kick Out the Tories” gan The Newtown Neurotics, grwp o Harlow. Fel cannodd y
Neurotics am Thatcher “the enemy of the British working man” a wedyn yn y
toriad cerddorol yng nghanol y gan roedd y floedd “don’t believe everything you
read in the press”. Anthem fwy pynci oedd gan y Neurotics,ac ar John Peel oedd
y siawns gorau o glywed y Neurotics, nid ar Top of the Pops ond yr hyn sydd yn
ddiddorol o edrych yn ol yw mae’r un oedd y neges, The Beat yn y tir canol a’r
Neurotics ar yr ymylon yn ddiwyllianol.
Cyfansoddwyd caneuon llai
rhethregol ac ystradebol yn ystod cyfnod Thatcher hefyd, efallai mae
“Shipbuilding” gan Elvis Costello sydd yn sefyll allan. Wrthgwrs, fersiwn
Robert Wyatt sydd wedi aros yng nghof y rhan fwyaf ohonnom ond mae Costello dal
wrthi yn perfformio’r gan. Cefais gyfle i weld Costello ym Manceinion ychydig
yn ol gyda’r Brodsky Quarter ac hyd yn oed heddiw roedd dal wefr o glywed y gan
yma yn cael ei pherfformio yn fyw.
Y gan arall, yn wir y gan
aeth i Rhif Un yn y Siartiau, oedd “Ghost Town” gan The Specials gyda’r fideo
hyfryd hynny o’r grwp yn y car yn gyrru o amgylch y tirwedd ol-ddiwydiannol, y
tyrau gor-uchel, y Ddinas yn Llundain ar fore Sul debyg, tywyll a llwm. Ond pwy
fysa yn dychmygu heddiw fod can mor wleidyddol yn gallu cyrraedd brig y
siartiau ?
Yr enw arall amlwg o’r
cyfnod yma yw Billy Bragg, mae Bragg dal wrthi cofiwch, ond yn ystod Streic y
Glowyr ym 1984 daeth Bragg i lawr i Glwb Llafur Pill, Stryd James yng
Nghasnewydd i godi arian ar gyfer cronfa bwyd glowyr Pwll Bedwas. Y trefnydd
oedd Simon Phillips, gwr sydd yn adnabyddus fel rheolwr y siop recordiau
‘Rockaway Records’ sydd yn y Farchnad yng Nghasnewydd, “Newport Provisions Market”
fel mae nhw’n dweud yn lleol. Trefnodd Phillips a’r criw oedd yn galw eu hunnan
yn ‘Cheap Sweaty Fun Promotions’ dros 200 o cyngherddau i gefnogi glowyr De
Cymru.
Ar y noson canodd Billy
Bragg roedd dau lowr o Bedwas wedi dod draw i fod yn gyfrifol am hel yr arian.
Talwyd £250 o ffi i Billy Bragg ar gyfer ei gostau, Cadwodd Bragg £100 (sef y
costau go iawn) a rhoi £150 yn ol i’r glowyr. Mae’r stori yma a chyfweliad hefo
Phillips i’w weld ar safle we Hanes, BBC Cymru.
Y cysylltiad arall Cymreig gan
Billy Bragg wrthgwrs yw ei fod wedi canu gyda Cor Cochion Caerdydd yn yr 80au ar
y gan ‘Mandela’, can a ymddangosodd yn wrieddiol ar gaset ar Label Sain ond
sydd bellach ar gael ar gasgliad CD o Goreuon Cor Cochion Caerdydd.
Ym mis Mehefin 2009 bu Bragg
yn ol i Gymru i gofio 25 mlynedd ers y Streic a bu mi a‘r bardd Patrick Jones
ar y daith o amgylch Cymru hefo Bragg. Y peth mwyaf doniol am y daith honno
oedd fod gan Bragg fwy o ddiddordeb trafod archaeoleg hefo mi na son am
wleidyddiaeth, roedd o yn holi yn ddyddiol beth oedd i’w weld ar hyd y ffordd o
un cyngerdd i’r llall ac ar ddiwedd y bythefnos o daith mae’n wir i ddweud na
chawsom unrhyw sgwrs am wleidyddiaeth !
Bu’r grwp Test Dept yn
teithio gyda Cor Glowyr De Cymru ar Streic a hynny o amgylch Prydain yn ystod
1984 dan yr enw “Fuel To Fight” gan berfformio yn Theatr Albany, Deptford,
Llundain. Unwaith eto roedd cysylltiad Cymreig gan Test Dept wrth iddynt
gydweithio a chwmni theatre Brith Gof ar y sioe ‘Gododdin’.
Y slogan ar y pryd oedd
“Coal Not Dole”, fe gynhyrchwyd miloedd o sticeri gan Undeb y Glowyr. Diddorol
yw nodi fod darn o farddoniaeth gan wraig un o’r glowyr ar streic gyda’r teitl
yma, enw’r wraig oedd Kate Sutcliffe a fe osodwyd y geiriau yn ddiweddarach i
gerddoriaeth gan y grwp Chumbawumba
‘There'll always be a
happy hour
For those with money jobs and power
They'll never realise the hurt
They caused the men they treat like dirt.’
For those with money jobs and power
They'll never realise the hurt
They caused the men they treat like dirt.’
No comments:
Post a Comment