Sunday 19 January 2020

Crwydro Llanllyfni, Herald Gymraeg 15 Ionawr 2020





Mae’r syniad o ‘fynd am dro’ yn rhywbeth sydd wedi ei wreiddio yn ein cefndir fel Cymry Cymraeg. Hyd yn oed fel plant bach roedd pnawniau Sul yn aml yn gyfle i fynd i grwydro coedwigoedd a chael neidio mewn i byllau dŵr yn ein wellingtons bach newydd sbon. Nid teulu capel oeddem.

Wrth dyfu fyny, newidiodd ‘mynd am dro’ i fod yn ‘mynd am antur’. Yn ein harddegau cynnar, os nad cynt, yr antur oedd cerdded ymyl yr afon, cerdded drwy dwneli dŵr o dan strydoedd Llanfair Caereinion a dringo’r unig ‘fynydd’ yn y cyffiniau, Moel Bentyrch. Pwy a wyr pa antur fydda ni wedi ei gael petae ni wedi byw yn Eryri a’r ardaloedd llechi – digon o waith bydda ni dal yn fyw.

Ers ymgartrefu yng Ngwynedd o’r 1980au ymlaen rwyf wedi cyrraedd mwy neu lai copa pob mynydd. O bosib mae ambell gopa bach dwi heb gerdded, ond fel arall o’r Wyddfa i Rhinog Fawr dwi wedi cael y pleser o bicnic bach ar y copa ar rhyw adeg. Ellfallai mai nid ‘mynd am dro’ yw’r disgrifiad gora o ddringo mynydd – mae’r dasg yn wahanol iawn – yn fwy o her – ac angen amseru’r daith.

‘Mynd am dro’ dyddiau yma fydd mynd i rhywle fel Coedwig Beddgelert. Mae’r dro draw at Llyn Llywelyn yn gorfod bod yn un o blesearu bywyd. Rwyf wedi son am hyn yn y golofn o’r blaen, flynyddoedd yn ôl bellach. Yn y gobaith na’i ddim gweld neb, llonydd mae rhywun isho nid sgwrs. Weithiau mae hi yn ‘bore da!’ neu ‘pnawn da!’ – hyd yn oed os dwi’n cael ‘Good Morning’.

Pam medda chi pan mae rhywun yn crwydro llwybrau Cymru fod rhywun yn mynd yn fwy milwraethus ynglyn ac ateb pawb yn ôl yn y Gymraeg? Does dim angen ateb yn ôl yn Saesneg iddynt ddallt fod rhywun yn cydnabod yn ôl. Mae’n gas gennyf bobl sydd ddim yn cydnabod eu gilydd, ac eto, pan dwi’n cerdded dwi’n crefu llonyddwch. Dim enaid byw. Dim ceir arall yn y maes parcio. Ru’n copa walltog. Perffaith. Rhyfedd ynde. Dealladwy.

Peth od yw cerdded mewn coedwig achos tydi’r olygfa ddim o hyd yno. Weithiau mae’r llwybrau drwy goed trwchus a hawdd yw colli cyfeiriad. Dwi di rhedeg lot yn y goedwig yma a dros y blynyddoedd. Dwi wedi bod ar goll tan dwi’n dod allan yn rhywle dwi’n nabod, rhywle cyfarwydd. Yn raddol mae map meddyliol yn ffurfio. Dwi o hyd wedi canfod y car yn y diwedd.



Ar adegau arall, pnawniau Sul ran amla, mae tir gwastad yn apelio. Wyddo’chi y teimlad yna o dro hamddenol. Dwi ddim am ‘ddringo’ heddiw. Sul dwetha nes i benderfynu dilyn fy nhrwyn o amgylch Llanllyfni. Rwyf yn gyfarwydd ac egwlys hynafol Sant Rhedyw – mae darnau ohonni yn dyddio yn ol i’r 14eg ganrif. Claddwyd aelod o’r teulu yno – Richard Thomas (Tŷ Newydd, Cilgwyn) a fu farw yn 1878. Rhaid mi chwilota yn iawn ar y goeden deulu pwy oedd o. Hen hen daid neu rhywbethj felly.

Hawdd yw canfod carreg fedd Richart Thomas. Mae ei garreg lechan wedi torri ac yn gorwedd ger y ffenestr ddwyreiniol. Hawdd hefyd yw canfod cofgolofn yr enwog John Jones Talysarn. Mae’r fynwent yn gymharol daclus yma.

Cerddais o Benygroes dros Pont Factory (oleiaf 19eg ganrif os nad canoloesoedd) gan anelu am Eglwys Sant Rhedyw. Wedyn cerddais yn ôl rhyw fymryn tuag at y llwybr troed sydd yn arwain dros Afon Llyfni. Ger y llwybr a’r bont fechan mae adfeilion pandy o’r enw Hen-bandy (SH470522). Os edrychwch yn ofalus mae olion y ffosydd fyddai wedi troi olwyn ddŵr yn dal yno.

O’r hen bandy cerddais i gyfeiriad y Stad Ddiwydiannol ar ddarn o dir wedi ei godi (causeway) gan fod y tir mor wlyb yma. Wrth gyrraedd y llwybr ger ymyl y stad ddiwydiannol mae giat mochyn rhyfeddol. Dyma ardal Tan y Bryn. Hawdd yw cerdded drwy’r giat mochyn heb sylwi – ond ar y llechi mae cerfiadau rhyfeddol.



Gweler y gair ‘Hynafiaid’ wedi eiu gerfio ar ben un llechan a wedyn cyfres o wynebau a ffigyrau. Pobl bach neu gymeriadau cartwn doniol, rhyfeddol, diddorol. Dyddio o’r 19eg a 20fed ganrif mae’r cerfiadau. Ond heb os mae rhain yn gelf-gwerin-gwlad rhyfeddol. Werth eu gweld.

Ffrind i mi o Benygroes soniodd am y giat mocyn wrthof. Roedd Wil Murphy acw yn atgyweirio hen dŷ bach yn ein cartref yn Twthill a fel mae rhywun, amser paned, sgwrs. A’r sgwrs yn troi at archaeoleg / hanes / pethau gwerth eu gweld. Celf y werin yn llythrennol ar lawr gwlad – neu llawr y dyffryn i fod yn fanwl gywir.

Cefais siocled o flaen llaw yn Co-op, Penygroes. Roeddwn wedi cynllunio pethau yn ofalus. Wrth gyrraedd y bontdroed dros Afon Llyfni – ger Hen-bandy dyma fwynhau mymryn o sothach melys a jest syllu ar y Llyfni yn byrlymu yn gyflym dan fy nhraed. Disgyn roedd yr haul i’r gorllewin gan greu golau ysbrydol iawn dros gorsdir y Llyfni.

Welais i neb. Cafodd yr enaid lonydd.




No comments:

Post a Comment