Saturday 1 June 2019

Seicoddaearyddiaeth Caernarfon, Llafar Gwlad 142





Efallai mai ‘dilyn eich trwyn wrth grwydro’ fyddai’r disgrifiad gorau o’r ddamcanaieth seicoddaearyddiaeth. Damcaniaeth sydd a’i wreiddiau damcaniaethol ym mwrlwm y Situationists International (SI) a chwyldro Paris ym Mai 1968. Damcaniaeth lle mae’r celfyddydol a’r gwleidyddol wedi eu plethu mewn clymau plethog. Damcaniaeth sydd yn ôl y damcaniaethwyr ond yn gweithio ac ond yn berthnasol yn y dirwedd ddinesig a threfol.

Rwtsh llwyr medda ni yn y Gymru wledig! Profodd Mike Parker yn ei gyfrol Real Powys, 2001, (Seren) fod modd trawsblanu’r ddamcaniaeth neu darnau perthnasol o’r ddamcanaieth i lefydd mor amrywiol a’r Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd neu Capel Goffa Ann Griffiths yn Nolanog. Capel Goffa Ann yn Nolanog gyda llaw yw cartref yr unig ddelwedd (cerflun) o Ann a does dim sicrwydd fod hwn yn ddarlun cywir o wyneb ein prif emynyddes. Eiconaidd yndi. Cywir – cwestiwn da?

Byddwn yn argymell darllen Real Powys a mynd am dro. Cyfrol yng nghyfres Real Cardiff, Real Swansea ac yn y blaen yw hon dan olygyddiaeth y bardd (a’r seicoddaearyddwr) Peter Finch o Gaerdydd.

Crwydro ac arsylwi yw fy nehongliad i o seicoddaearyddiaeth, sef fod rhywun yn mwynhau y broses o fynd am dro a chael ‘awyr iach’ ond fod rhywun hefyd yn edrych ar y byd o’i gwmpas ac yn sylwi ar wahanol nodweddion a’r pethau bach diddorol hynny sydd mor hawdd i’w methu os di rhywun ar ormod o frys.

Cyfuniad o ffactorau sydd wedi arwain i mi grwydro strydoedd Caernarfon gyda llygaid ar agor am y ‘gwahanol’. Ers blynyddoedd bellach rwyf wedi bod yn arwain teithiau tywys o amgylch y Gaernarfon Rufeinig gan ymweld a’r gaer yn Segontium, yr ail gaer yn Hen Walia a’r ‘gwersyll’ Rhufeinig ger Ysgol Hendre.

Yn dilyn sawl gwahoddiad o’r fath gan Gŵyl Arall dyma arallgyfeirio rhyw fymryn er mwyn rhoi amrywiaeth i’r rheini oedd yn mynychu’r teithiau cerdded a dyma ddatblygu taith gerdded o’r olion archaeoleg diwydiannol yn ardal y Cei Llechi a thaith Canu Pop o amgylch rhai o ganolfanau’r dre. Rwyf hefyd wedi arwain teithiau yn edrych ar bensaerniaeth y dre ac eleni dyma benderfynu herio nhw go iawn a datblygu taith seicoddaearyddol / canu pop.



Safle’r hen bafiliwn yng Nghaernarfon oedd ‘ffocws’ y daith gerdded ar gyfer Gŵyl Arall 2018. Dymchwelwyd y pafiliwn yn 1962 yn dilyn cyngerdd mawreddog olaf a recordiwyd gan y BBC yn 1961. Yn ddiweddar cefais hyd i record feinyl o’r cyngerdd olaf yma. Archaeoleg mewn siopau elusen (diolch i Nêst y wraig). Pwy a ŵyr os oes copi o’r recordiad yn archifau’r BBC?




Gan fod y pafiliwn wedi ei ddymchwel rhaid edrych yn ofalus am ddarnau o’r pen llinyn. I’r dwyrain o’r safle rhed y ffordd osgoi rhyfeddol honno, a’i waliau cynnal anferth sydd yn cychwyn ger tafarn yr Alexandra ac a ddaw i ben ger tafarn yr Eagles. Hon di’r unig ffordd osgoi rwyf yn gyfarwydd a hi sydd yn dechrau a diweddu o fewn ffiniau tref. Camarweiniol yw’r gair ‘osgoi’ yn y cyd-destun yma.

Saif y llyfrgell bresenol yn agos iawn os nad ar safle gwreiddiol y pafiliwn a cheir cofeb lechan fechan yn cofnodi’r ffaith. Cofeb ddigon anelwig ar ochr wal ymylol – ond mae hi yno ond i chi edrych yn ofalus – dyma ni y seicoddaearyddiaeth angenrheidiol. Cawn wybod fod Lloyd George wedi ‘gwefreiddio’ y lle yma – ffaith ddigon doniol mewn gwirionedd ar gofeb, ond yn sicr yn ffeithiol gywir o ystyried dawn anerch y dewin o Lanystumdwy.

Does dim son o gwbl am Paul Robeson ar y gofeb. Perfformiodd Robeson yma ar Nos Sadwrn, 22ain Medi,1934. Rhoddodd £100 o’i ffi tuag at drychyineb Gresffordd. Collwyd 264 o lowyr yn y drychineb. Gŵr rhyfeddol oedd Robeson, cawr o ddyn. Canwr o fri – anodd ei guro – anodd curo caneuon fel ‘Ol’ Man River’ neu ‘Solitude’. Ac wrth reswm does dim lle ar y gofeb i bawb berfformiodd ym Mhafiliwn Caernarfon – dallt hynny yn iawn.
Cefais lungopi o’r rhaglen gan gyfaill o hanesydd o Gaernarfon.



Eironi arall am y llyfrgell yng Nghaernarfon, heblaw fod yr adeilad ar safle’r Pafiliwn, yw fod estyniad y llyfrgell (1982) wedi cuddio hanner murlun Ed Povey (Steddfod Caernarfon 1979). Dim ond tair mlynedd o olau dydd gafodd yr hanner deheuol o’r murlun. Collwyd y ddelwedd o’r bws bach ar Faes Caernarfon ond cadwyd triawd Penyberth, Lloyd George a’r milwyr Rhufeinig.

Dyfynaf Aneurin Bevan: “libraries gave us power”, llinell a fabwysiadwyd mewn cân gan y Manic Street Preachers a dyma’r eironi ynde, fod adeilad mor bwysig a hanfodol a llyfrgell yn cuddio darn o gelf Povey. Diwylliant yn dinistrio diwylliant. Proses. Rhywbeth byw. Ond mae yma dristwch hefyd ……….



Ger llaw mae Institiwt Caernarfon ar ‘Allt Pafiliwn’ (Pavilion Hill) er nad oes arwydd enw ffordd / stryd i’w weld yn nunlle a gyferbyn a’r Institiwt mae tai brics coch Pavilion Court – eto heb arwydd – dim ond ar y map gwelais yr enwau.

Strori arall seicoddaearyddol sydd gennyf am y llyfrgell. Rhai blynyddoedd yn ôl yn sgil fy niddordeb ym meirdd Dyffryn Conwy, Gwilym Cowlyd, Trebor Mai ac Owen Gethin Jones ac Arwest Glan Geirionydd daeth y cerddor Llew Llwyfo (1831-1901) i’m sylw. Y Cymro cyntaf o gerddor i deithio yn canu o un arfordir i’r llall yn yr Unol Daliaethau. Seren Pop Cymru yr 19eg ganrif.



Deallais fod carreg fedd Llew Llwyfo rhywle yn anialwch y ‘cwlwm cythraul’ yn hen ddarn mynwent Llanbeblig. Cwlwm cythraul glywais i am Polygonum cuspidatum ond defnyddir ‘canclwm Japan’ a ‘llysiau’r dial’ am y chwyn diawledig yma. Gan deimlo fel Indiana Jones yn paffio fy ffordd drwy goesu cyhyrog y canclwm Siapaneaidd cefais hyd i golofn y Llew o’r diwedd – yn bennaf gan fod arwydd triban y beirdd ar y golofn yn rhoi syniad go dda mai hon oedd carreg fedd y Llew.

Drwy sgwrs arall clywais fod portread o Llew Llwyfo yn yr Institiwt ac wrth ymweld ac ymholi doedd dim son am unrhyw bortread nes i Vernon Pierce, clerc y Dref ar y pryd, gofio “fod na rhywbeth i fyny yn yr atig”.



Ail-ddarganfuwyd y portread felly a diolch i drigolion Caernarfon codwyd arian i lanhau’r llun olew a’i osod gyda’r dyledus barch yn ystafell gyfarfod Menai. I gloi ein taith seicoddearyddol dyma glywed wedyn fod coron Llew Llwyfo o Eisteddfod Llanelli (1895) yng nghoffr yr Institiwt – yn saff yn y sêff!



Pwynt hyn yw ôll yw fod cymaint i’w ddarganfod drwy grwydro a sgwrsio. Cadw llygaid a chlustiau ar agor – diolch byth am seicoddaearyddiaeth.


No comments:

Post a Comment