Tuesday 18 June 2019

Paul Robeson. Hanfodol Nid Diddorol. Herald Gymraeg 12 Mehefin 2019




Dwi di bod yn meddwl am hyn ers tro rwan. Dwi’n crwydro’r wlad yn rhoi sgyrsiau a darlithoedd i wahanol grwpiau a chymdeithasau ac wrth fy modd yn gwneud hynny. Fel arfer, yr ymateb rwyf yn ei gael yw fod y sgyrsiau am archaeoleg a Hanes Cymru yn rhai ‘diddorol’. Ar noson dda rwyf yn cael canmoliaeth fy mod wedi llwyddo i ‘ddod a’r holl beth yn fyw’. Fel dwi’n dweud, dwi wrth fy modd yn gwneud hyn ac yn gwerthfawrogi’r croeso yn fawr iawn.

Dau beth sydd wedi mynd a fy sylw mewn gwirionedd dros yr holl flynyddoedd, y byd archaeoleg yng Nghymru ac y Byd Pop Cymraeg. Y ddau yr un mor bwysig i mi. Fedrai ddim gwneud heb yr un o’r ddau er i mi fygwth ‘ymddeol’ o’r Byd Pop sawl gwaith dros y blynyddoedd. Does dim modd blaenoriaethu na gwahaniaethu achos mae’r ddau faes yn rhan o’r clytwaith ddiwylliannol yma yng Nghymru.

Ond y syniad rwyf wedi bod yn chwarae hefo fo yn ddiweddar yw’r syniad yma o ‘hanfodol nid diddorol’. Sut mae newid y pethau yma sydd yn ddiddorol yn sicr, yn rhoi pleser yn sicr, yn gwneud rhywun feddwl yn sicr – i bethau sydd yn fwy na hynny. Rwyf am weld y diddorol yn troi yn hanfodol.

Wrth dyfu fyny yn Sir Drefaldwyn, teg dweud i ni gael magwraeth gefn gwlad ac roedd y ‘dref’ yn rhywbeth byddwn yn ymweld ac e yn achlysurol – yn bennaf yr Amwythig a Chroesoswallt er mwyn siopa – efallai unwaith y mis. Doedd dim ymwybyddiaeth trefol yn Llanfair Caereinion go iawn yn ystod ein harddegau (1970au) – er dwi’n credu i’r pentref gael ei gydnabod fel tref rhywbryd yn ystod ein ieuenctyd.

Wrth dreulio tair mlynedd ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd yn astudio archaeoleg dyma brofi y ddinas fawr am y tro cyntaf. Mawr, oedd. Cyffrous, oedd. Ond rhywsut byw mewn byd bach iawn wnaetho ni fel myfyrwyr diniwed. Darlithoedd ac ambell dafarn lle roedd y Cymry Cymraeg yn heidio. Fe ganodd y grwp Jîp yn do am y ‘Halfway’. Nes i wirioneddol archwilio’r dirwedd ddinesig yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol – dwi ddim yn credu.

A bod yn hollol onest, roedd hi yn yr 1980au hwyr a’r 90au cynnar pan bu i mi ddechrau ymddiddori yn y ddamcaniaeth o ‘seicoddaearyddiaeth’ – y syniad yma o grwydro ac arsylwi ar y dirwedd ddinesig a arddelwyd gan y Situationists International ym Mharis yn y 60au. Am gyfnod hir byddwn yn disgrifio fy hyn fel ‘ffan’ o’r Situationists, wrth fy modd hefo’r syniad yma o herio’r drefn ddiwylliannol drwy weithredoedd o hwyl neu weithredoedd celfyddydol.




Fe gymerodd amser i mi newid o fod yn ‘ffan’ i rhywun oedd hefo’r hunnan hyder yn fy Nghymreictod cefn gwlad i ddechrau herio a chwalu’r ‘rheolau’ a’r ‘ffiniau’ a osodwyd gan y Situationists. Dyma ddechrau damcaniaethu o safbwynt Cymreig – os oedd modd trawsblannu’r syniad o seicoddaearyddiaeth i’r ardd Gymreig ac yn fwy penodol yr ardd Gymraeg?

Darllenais lyfr Mike Parker The Real Powys (2011) a sylweddolais fod Mike wedi llwyddo i gyfuno elfennau o seicoddaearyddiaeth wrth grwydro Powys boed hynny yn fwriadol neu ddim. Efallai fod hyn yn fwriadol gan mai golygydd cyfres y llyfrau Real Cardiff ayyb yw’r seicoddaearyddwr a’r bardd Peter Finch. Gyda treiglad amser, profiad bywyd a’r hyder sydd yn cydfynd a hynny dyma ddechrau go iawn ar weld sut mae modd cyfuno seicoddaearyddiaeth a’r Byd Cymraeg a thirwedd Cymru.








Un record benodol dwi’n gofio yn y cartref yn ystod ein mawgwraeth ym Maldwyn yw record The Incomparable Voice of Paul Robeson. Hyn ochr yn ochr a recordiau sengl Dafydd Iwan, Edward a Huw Jones. Roedd Robeson tu hwnt i’n profiadau ni ond hyd yn oed yn 10 oed roedd rhywun yn gwerthfawrogi cyfoeth ei lais, yr angerdd yn ei lais – a rhywsut er rhy ifanc i ddeall – fod Robeson yn fwy rhywsut – roedd Robeson yn hanfodol.

A dyma droi yn ôl at Paul Robeson. O bosib y canwr fwyaf hanfodol erioed – hynny ochr yn ochr a Nina Simone ac Aretha Franklin. Yn sydun iawn mae darnau’r jigsaw yn dod at ei gilydd. Yn gyntaf y diddordeb yma mewn seicoddaearyddiaeth a’r posibiliadau o wneud hyn yn y dirwedd Gymreig – gwledig neu drefol. Yn ail yr angerdd am archaeoleg yng Nghymru. Ac yn drydydd y Byd Pop neu ddiwylliant cyfoes Cymreig.

Bellach fel dinesydd o Gaernarfon, ‘Gweriniaeth Cofiland’ fel byddaf yn hoff o alw’r lle dyma ddechrau ar grwydro seicoddaearyddol gyda’r bwriad o ddilyn y strydoedd a’r dirwedd lle safai’r Pafiliwn ar un adeg. Roedd y Pafiliwn wedi ei ddymchwel ymhell cyn i mi fod yn ddinesydd ond petae’r adeilad yn dal i sefyll byddwn yn edrych i lawr arno o fy nghartref yn Twthill.



Berllach dim ond enwau strydoedd fel ‘Pavilion Hill’ a thai brics newydd ‘Pavilion Court’ sydd yn rhoi unrhyw awgrym fod yr adeilad wedi sefyll yma o gwbl. Yr enwau a’r ffaith fod cofeb llechan fechan ar ochr adeilad y Llyfrgell yn cydnabod fod y llyfrgell bresennol mwy neu lai ar yr un safle a’r Pafiliwn.

Rwan, dyma lle mae’r ‘diddorol’ yn troi yn ‘hanfodol’, ac un engraifft bychan yw hyn. Ar y 22ain o Fedi 1934 bu Paul Robeson yn canu yn y Pafiliwn. Does dim cofeb yn cydnabod hyn er fod copi o’r rhaglen ar gael yn Archifdy Gwynedd. Roedd trychineb pwll glo Gresffordd newydd ddigwydd. Bu i Robeson roi £100 o’i ffi tuag at helpu glowyr Gresffordd. ‘Diddorol’ ond hefyd ‘hanfodol’!



No comments:

Post a Comment