Digon o waith fod mwyafrif o ddarllenwyr yr Herald
Gymraeg yn trydar neu yn dilyn Trydar - neu ‘Twitter’ fel y mae ar y we. Yn
ystod yr holl flynyddoedd o sgwennu colofnau dwi ddim yn credu i mi ’rioed gael
‘ymateb’ ar trydar, ond pur anaml gallaf roi sgwrs mewn neuadd bentref neu
fynychu gaffi heb i rhywun ddod atof i drafod rhywbeth dwi di sgwennu. Felly,
rhaid fod hyn rhywbeth i’w wneud a demograffeg y darllenwyr?
Cofiwch, mae yna fanteision o ddilyn pethau, os nad
‘Y Pethe’, ar Trydar. Dyma sut daeth y drafodaeth am is-deitlau S4C i’m sylw.
Dydi Mr Mwyn ddim yn debygol o wylio Pobl y Cwm, Ffermio a Rygbi felly rhaid
cyfaddef, doeddwn ddim wedi gwylio S4C i sylwi ar unrhyw is-deitlau ond ar ôl yr
holl ‘gyffro’ ar Trydar dyma benderfynu cael cip olwg sydyn i weld beth oedd
wedi achosi’r fath stŵr?
Y peth cyntaf amlwg oedd fod yr is-deitlau dros y
lluniau yn hytrach na mewn stripedyn ar
waelod y sgrin. Rhaglen ‘Ffermio’ oedd yn digwydd bod ymlaen ac roedd
trio canolbwyntio ar y mochyn druan yn ofnadwy o anodd gyda is-deitlau ar ei
gefn. Lleoliad yr is-deitlau oedd yn fy ngwylltio yn bennaf nid yr Iaith.
Cafwyd cyfle gwych i’r trydarati Cymraeg (sef y
gwybodusion ar Trydar) alw am boicot pum niwrnod (cyfnod Gwyl Ddewi) ac i atgoffa
pawb mai ‘Sianel Gymraeg’ yw S4C. Beth bynnag eich barn am yr is-deitlo
/subtitles, beth am ddweud popeth ddwywaith / let’s say everything twice, un
peth oedd yn boenus o amlwg, roedd yr is-deitlo wedi cynhyrfu’r twiterati fwy
na safon y rhaglenni dros y blynyddoedd.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos mentrais i wylio
‘Gwobrau Y Selar’ ar S4C. ‘Ymchwil’ dwi’n galw gweithgaredd fel hyn. Yn amlwg
mae trefnwyr y Y Selar yn rhoi pwyslais mawr ar pa mor iach yw’r “sîn Gymraeg”,
felly mae ‘goreuon y sîn’ yn derbyn wobr a mae pawb yn hapus. Mae pawb hyd yn
oedd yn hoff o Datblygu y dyddiau yma (sydd yn gorfod bod yn beth da) felly mae
Dave yn cael tlws ac yn rhegi ar S4C.
Dydi’r gynulleidfa ddim i weld yn poeni rhyw lawr am
wobr y clawr gorau a’r unig amser mae unrhywun i weld yn ymateb go iawn yw ar
gyfer Swnami ac Yws Gwynedd. Mae’r cyflwynydd Griff Lynch yn rhyw gellwair drwy
ddefnyddio’r ymadrodd ‘Bryn Fôn Newydd’ ond yn y bôn dyna sydd yma –
cerddoriaeth boblogaidd ar gyfer cynulleidfa ofnadwy o ifanc a does dim o’i le a hynny.
Efallai fod rhai o’r grwpiau yn rhy ifanc neu yn rhy
amhrofiadol i fod ar y teledu gan fod ambell ganwr allan o diwn yn llwyr a dyma
lle mae rhywun yn cwestiynu ‘heip’ y Selar. Rhowch gyfle iddynt chwarae 200 o
gigs mewn clybiau ieuenctyd neu neuaddau pentref cyn eu gwthio ar y teledu – mi
fydda hunna yn codi safon “y sin”!
Roedd un olygfa anffodus lle roedd y golygydd wedi
methu cuddio’r faith mai ond rhyw hanner dwsin oedd yn gwylio’r artist cyntaf.
Oleiaf mae yna gysondeb yn “y sin Gymraeg” a hynny ers Corwen yn 1973. Mae’r
bar o hyd yn denu.
Uchafbwynt yr wythnos i’r trydarati oedd gwneud hwyl
am ben ‘Can i Gymru’. Erbyn hanner ffordd drwy’r rhaglen roedd yn weddol amlwg
fod mwy o hwyl i’w gael ar Trydar a fod S4C a’r gystadleuaeth yn fawr mwy na
cherddoriaeth cefndir i gael rhegi ac enllibio yn y Gymraeg. Oedd,roedd nifer o
sylwadau ffiaidd iawn, nifer o sylwadau doniol iawn ond unwaith eto neb
wirioneddol yn gofyn pam fod hi di dod i hyn?
Os di Trydar yn cael gwell ymateb na’r rhaglen mae rhywbeth mawr o’i le.
No comments:
Post a Comment