Rwyf i fod i ganolbwyntio ar daith gerdded a ‘chinio
Dolig’ colofnwyr yr Herald Gymraeg yn y golofn yr wythnos hon. Rwyf yn dweud
‘cinio Dolig’ achos mae trio cael y pump ohonnom mewn un lle ar yr un diwrnod
yn golygu fod ein cyfarfod blynyddol (Nadoligaidd) yn tueddu i ddigwydd ym mis
Mawrth ar ôl tua hanner cant o ebyst cyn cael hyd i ddiwrnod addas.
Ond cyn
cyrraedd y llwybr troed o Ryd Ddu i Feddgelert a’r cinio benedigedig yng
nghaffi Hebog rwyf angen eich tywys ar drywydd arall. Nid am y tro cyntaf mae Nia Rhosier
,ysgrifennydd Hen Gapel John Hughes, Pontrobert ym Maldwyn wedi dod i
gysylltiad. Sgwennais ychydig yn ôl am yr Hen Gapel yn yr Herald Gymraeg a dyma
ategiad os nad atodiad i’r erthygl hwnnw.
Wedi 20 mlynedd o warchod yr adeilad hanesyddol pwysig hwn a bod yn
gyfrifol am y gwaith adfer ym 1995, daeth yn bryd i’r ymddiriedolwyr a’r
pwyllgor ystyried dyfodol y Capel gan fod aelodau presennol yr Ymddiriedolaeth
a’r Pwyllgor yn heneiddio. Mae hon wrthgwrs yn stori gyfarwydd led led Cymru.
Yn y bôn mae’r pwyllgor angen codi £43,000 er mwyn gosod to newydd i’r capel ac
angen rhywun (ifanc a brwdfrydig) i gymeryd y cyfrifoldeb am godi’r arian.
Yng ngeiriau Nia “Un ffordd o
wneud hynny fyddai dod o hyd i berson brwdfrydig gyda sgiliau cyfrifiadurol i
sefydlu corff cwbl annibynol fel ‘Cyfeillion Hen Gapel John Hughes Friends’,
gweithredu fel Cadeirydd a chael eraill i ymuno, gan ddechrau trwy annog pobl i
‘brynu’ llechen am £10 yr un. Gwaith y Cyfeillion fyddai codi arian a cheisio
grantiau ar-lein”.
Felly
dyna’r apel, wedi ei gynnwys o fewn erthygl yn hytrach na llythyr at yr Herald,
er dwi ddim yn amau mai llythyr ganddynt fydd y cam nesa wrth geisio cael hyd
i’r person brwdfrydig addas yma. Ond o feddwl am y peth ychydig mwy, dyma
deimlo fod angen rhywun sydd a gweledigaeth hir-dymor ar gyfer Capel John
Hughes. Un peth yw codi arian ar gyfer prosiect penodol ond mater arall yw
cynaladwyedd hir dymor – a dyna sydd wir ei angen.
Wythnos
yn ôl cefais wahoddiad gan Lywodraeth Cymru i fod yn rhan o drafodaeth hefo
cannoedd o entrepreneriaid ifanc o ogledd Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ac
roedd bod yn eu plith yn brofiad gwefreiddiol os nad ysbrydoledig. Dyma chi y
dyfodol mentrus mewn un ystafell. Digon o waith fod un copa walltog yno yn
ymwybodol o Gapel John Hughes ond sgwni o osod yr her iddynt, oes yna bobl
gyda’r sgiliau cyfrifiadurol a’r mentergarwch fyddai yn edrych ar gwestiynau
fel Capel John Hughes drwy sbectol newydd?
Cwestiwn
yn unig yw hyn, ond yn sicr mae’r ‘bobl ifanc’ yn byw mewn byd gwahanol iawn
i’n byd ni ac ar ôl treulio diwrnod yn eu cwmni cefais deimlad pendant fod
angen mwy o sgwrs a fod angen dod a phobl ifanc mentrus i mewn i’r ‘Byd
diwylliannol Cymraeg’. Cawn drafod hyn ymhlellach mewn erthygl arall yn y
dyfodol agos.
Felly
cerdded o Ryd Ddu i Feddgelert wnaeth colofnwyr yr Herald gan droedio hen sarn
Chwarel Llyn y Gadair er mwyn cyrraedd ochr bella’r llyn. Agorwyd y chwarel
oddeutu 1885 fel menter gyd-weithredol a bu i hyn barhau hyd at y 1920au er yn
gymharol aflwyddianus yn ôl y son.
Adeiladwyd
y sarn ar draws y tir corsiog er mwyn cludo’r llechi o’r chwarel draw i bentref
Rhyd Ddu a wedyn wrthgwrs eu cludo ar y rheilffordd i lawr am Gaernarfron drwy
Gwm Gwyrfai. Doedd dim cledrau ar y sarn sydd yn awgrymu fod y llechi yn cael
eu cludo gan geffyl a throl efallai? ond rhaid fod yna fwriad i osod cledrau
yno ond fod y gwaith yma heb ei gwblhau.
Mae’r
llwybr am Feddgelert yn mynd heibio adfeilion un o’r melinau ac eto awgrymir
fod hwn yn adeilad arall na chwblhawyd. A dweud y gwir os am ymweld a chwarel
fel hon a cheisio dehongli’r archaeoleg fy argymhelliad fyddai mynd a llyfr
Alun John Richards ‘A Gazateer of the
Welsh Slate Industry’ (Gwasg Carreg Gwalch 1991) hefo chi.
Mae
rhan helaeth o’r llwybr am Feddgelert yn mynd drwy Goedwig Beddgelert a mae’r
cerdded ‘lawr allt’ mwy neu lai yr holl ffordd. Does dim cerdded anodd yma. O
ddiddordeb, petae rhywun hefo digon o amser am detour sydun, byddwn hefyd yn argymell mynd i weld Llyn Llywelyn,
sydd ychydig oddiar y llwybr.
Un o’r
pethau gorau am ddiwrnod fel hyn gyda’n cyd-golofnwyr (heblaw am y dirwedd a’r
cerdded) yw’r cyfle i gael sgwrs a braf oedd sgwrsio gyda pawb yn eu tro a buan
iawn y cyrrhaeddom bentref Beddgelert ar gyfer yr ail ran o’r gwaith – sef
sgwennu ‘Taste Test’ am gaffi Hebog ar gyfer y Daily Post.
Rwan
mae sawl peth gennyf i’w ddweud am gaffi Hebog a maddeuwch i mi os byddaf yn
‘gor-ganmol’ ond mae’r caffi yma yn wirioneddol wych. Yn gyntaf wrth gerdded i
mewn rydym yn clywed cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae – OK yr arferol
Bryn Fon/Gai Toms ond dwi ddim am gwyno.
Yn ail
dyma un o’r paneidiau gorau o de dwi di gael ers talwm – OK rydym wedi cerdded
rhyw bedair milltir ac yn sychedig, ond yn sicr i chi dyma banad o de go iawn.
10 allan o 10.
Mae’r
bwyd wedyn o safon uchel iawn, llawer uwch na mae’r pris yn ei awgrymu a mae
rhywun yn rhyfeddu ar y gofal sydd wedi ei gymeryd o ran gosod y bwyd heb son
am ei flas. Diweddglo perffaith i’r daith gerdded.
No comments:
Post a Comment