Castell Ewloe.
Petae rhaid rhoi ‘gair o gyngor’ i Lucy Worsley, Dan
Snow, Bettany Hughes , Mary Beard,
Julian Richards, Tony Robinson, Alice Roberts, Kate Williams, Roy Strong, Neil
Oliver a’r gweddill mae’n debyg mae’r cyngor fyddai “peidiwch a dysgu Cymraeg,
achos fydd na ddim gwaith i chi”.
Er fod pob un o’r uchod hefo gyrfa tu allan i’r Cyfryngau
mae’r cyfan bellach yn wynebau cyfarwydd a rheolaidd ar y teledu. Rwyf yn
pwysleisio rheolaidd. Petae unrhywun o’r uchod yn siaradwyr Cymraeg prin
fyddai’r cyfloeoedd o ystyried y diffyg amlwg o ran rhaglenni hanesyddol ac
archaeolegol ar y Cyfryngau Cymraeg. Fel dywedodd rhywun llawer mwy craff na fi
(a hynny cyn iddynt feddwl am ddysgu Cymraeg) ‘don’t give up the day jobs’.
Rhai blynyddoedd yn ôl, roedd llygedyn o obaith gyda
rhaglen fel ‘Darn Bach o Hanes’ o ddatblygu cyflwynwyr (talent) newydd a chael
gwynebau llai cyfarwydd ar S4C ond buan iawn gwelodd goridorau Parc Ty Glas yn
well. Fe gollwyd cyfle i feithrin talentau fel Gwennan Schiavone a Rhodri Llwyd
Morgan.
Felly dyma ni heddiw, a rhaid canmol comisiwn i rhaglen Y
Castell ar S4C, a’r ffaith fod yma gyflwynydd deallus, brwdfrydig, gymharol
‘newydd’ yn Jon Gower.Sgwennu mae Gower fel arfer ond o wylio Y Castell mae’n
amlwg fod potensial yma i ni ddechrau adfer ychydig ar ddiffaethwch y
blynyddoedd diweddar. Braf cael wyneb newydd ar y sgrin a rhywun sydd yn
ddeallus. Ond o ran S4C mae angen mwy ohonnynt, mae angen creu bwrlwm o ran
Hanes Cymru – dychmygwch dim ond Lucy Worsley yn Lloegr.
Rwan mae trafod cestyll yn faes anferth a fy nheimlad
oedd fod y cynhyrchwyr yn trio gwasgu gormod i mewn i un rhaglen. Edrychwch ar
raglenni David Attenborough ar sut mae modd cyflwyno stori yn bwyllog, gyda
dechrau a diwedd – a fod y gwyliwr wedyn yn gallu deall beth yw’r stori. Roedd
rhaglen ddiweddar Attenborough ar y deinasor yn yr Arianin yn rhagori yn hyn o
beth ac Attenborough yn cymeryd pwyll i’n hatgoffa fel gwylwyr beth oedd y
canlyniadau a gyda diweddglo amlwg I’r rhaglen.
Os am fod yn feirniadol am eiliad, teimlais fod cyflwyniad gor-hir i rhaglen Y
Castell – roedd gwir angen dechrau’r rhaglen a roedd y synnau cefndir o
ddrymiau rythmig yn ystrabebol tu hwnt a felly hefyd ar adegau y sgriptio.
Pan roedd Gower yn
cael bod yn fo ei hyn, yn cyflwyno yn naturiol gyda llai o ‘sgriptio’ roedd
rhwyun yn gweld cymeriad gall rhwyun ddechrau uniaethau a fo. Gadewch i Gower
gael ei lais ei hyn!
O ran y cynnwys byddwn wedi mwynhau gweld rhaglen gyfan
yn canolbwyntio ar y Cestyll Cymreig, yn enwedig rhai Gwynedd a
Deheubarth.Collwyd cyfle i fanylu ar y tyrrau Siap-D (cromfaol) sydd mor
nodweddiadol o gestyll tywysogion Gwynedd. Gyda haneswyr fel Hugh Brodie a David
Stephenson newydd gyhoeddi bapurau am gestyll tywysogion Gwynedd mae digon i’w
drafod yma – a byddai hyn i gyd yn newydd i’r gwylwyr.
Mae damcaniaethau newydd gan Spencer Smith ar Gastell
Dolbadarn fyddai wedi ychwanegu yn fawr at ein dealltwriaeth o’r cyd-destyn
Cymreig ac roedd wir angen gwahaniaethu rhwng adeiladwaith yr Arglwydd Rhys a’i
fab Rhys Grug wrth drafod cestyll Deheubarth
Hawdd fyddai llenwi rhaglen arall ar gestyll Edward I heb
son wedyn am gestyll y Mers, ac eto byddai cyfle yma drwy ganolbwyntio i fanylu
ar gyd-destyn y Concwest o gyfnod y Normaniaid hyd at y flwyddyn dyngedfennol
honno ym 1282.
Felly rhaglen i’w chanmol heb os, ond fod trio gwneud
gormod o fewn yr awr yn gwneud hi’n anodd dilyn y stori. Does dim o’i le hefo
cadw pethau yn syml ac yn ddealladwy – dydi hynny ddim yn cyfaddawdu ar y
sylwedd.
No comments:
Post a Comment