Un o’r cwestiynau mawr o ran Hanes Cymru yw beth yn union
ddigwyddodd i Owain Glyndŵr yn ystod ei ddyddiau olaf, sef y blynyddoedd hynny
yn arwain at fis Medi 1415 (pryd tybir iddo farw). Ac o hyn, mae dau gwestiwn
mwy penodol yn codi, yn gyntaf lle treuliodd ei flynyddoedd olaf ac yn ail yn
lle ei claddwyd?
Fel gyda’r brenin Arthur, mae’r ‘dirgelwch’ wedi
atgyfnerthu’r ‘chwedl’ fod Owain Glyndŵr rhywsut, rhyw ddydd, am atgyfodi o
rhyw ogof neu’i gilydd a dod (ar ei geffyl gwyn) i’n hachub unwaith eto.
Ffantasi llwyr Cenedlaetholwyr oedd wedi colli’r frwydr ond ddim am anobeithio
– a hynny (hyd at heddiw??) dros y canrifoedd ers 1415!
Efallai fod cenedl angen ei fytholeg a’i arwyr, a does
dim dadl fod cenedl angen ei hanes (sydd wedi ei sgwennu o safbwynt y genedl yn
hytrach na’r gorchfygwr) ond credaf hefyd fod cenedl angen hanes sydd yn
seiliedig ar rhywbeth heblaw ffantasi. Dyma groesawu felly llyfr rhagorol
Gruffydd Aled Williams ‘Dyddiau Olaf
Glyndŵr’ sydd yn dod a’r holl dystiolaeth ynglyn a dyddiau olaf Glyndŵr at
eu gilydd o fewn un clawr.
Ond yn bwysicach byth, mae Gruffydd Aled Williams wedi
pwyso a mesur gwerth y ffynonellau a dadansoddi yn ofalus unrhyw ganlyniadau y
gallwn eu hawgrymu a pha rai y gallwn eu di-ystyru yn llwyr. Un damcaniaeth
sydd yn cael ei chwalu’n rhacs gan Williams yw’r ffantasi llwyr (fy ngeiriau i)
fod y llun enwog hwnnw yng Nghwrt Llan-gain, Swydd Henffordd, yn ddarlun o John
of Kent / Siôn Cent / Owain Glyndŵr.
Ru’n un o’r tri felly, y tebygrwydd yw mai Sain Sierôm
yw’r cymeriad yn y llun, gyda ei wisg cardinal, a fod y llun gan arlunydd o’r
Iseldiroedd wedi ei beintio rhwybryd yn ystod ddiwedd y 15fed ganrif. Nonsens
pur yw’r myth a’r dryswch (cyfleus) rhwng Kent / Caint a Glyndŵr. Cofiwch mae’n
denu pobl at Gwrt Llan-gain ond does dim sail o gwbl i’r peth.
Rhy garedig yn fy marn i, yw beirniadaeth Williams o’r
rhaglen hynod anffodus honno ddarlledwyd ar S4C rhyw Fawrth 1af, yn honni eu
bod wedi darganfod / ail-greu wyneb Glyndŵr. Eto nonsens pur a chamarweiniol –
mae pobl yn dal i gredu fod rhyw gysylltiad rhwng y llun a Glyndŵr, sydd ond yn
cadarnhau pa mor bwerus yw rhywbeth ar y sgrin fach (neu mewn print).
Bu Williams yn rhoi sgwrs ym Mhrifysgol Bangor wythnos yn
ôl a roedd yr ystafell yn orlawn o fyfyrwyr, academyddion canol oesoedd,
beirdd, archaeolegwyr ac ambell un o’r cyfryngau. Profwyd fod Glyndŵr yn dal i
ddenu hyd yn oed os oedd yn anodd / amhosib profi lle yn union gafodd OG ei
gladdu.
Yn iaith yr academyddion, ‘cyflwyno papur’ oedd Williams
yn hytrach na “rhoi sgwrs” ac ofnais y byddai gwrando ar rhywun yn darllen am
awr yn drech o ran dilyn pethau.I’r gwrthwyneb, fe siaradodd Williams yn hollol
glir a phwyllog ac hawdd oedd ei ddilyn ac hawdd oedd dilyn trywydd y ddadl.
Cyflwynwyd y dystiolaeth ddogfennol a’r lleoliadau dan sylw fel Monnington
Straddle, Monnington-on-Wye, Croft Castle a Lawton’s Hope ac os deallais yn
iawn roedd lleoliadau fel Kimbolton yn cael ychydig mwy o bwyntiau positif na’r amlwg Gwrt Llan-gain a’i dwr a’i
ystafell Glyndŵr (ffug).
Yn ei gyflwyniad i’r ‘papur’gan Williams, fe awgrymodd Huw Pryce o Brifysgol Bangor fod
y llyfr Dyddiau Olaf Glyndwr yn
astudiaeth academaidd gwerthfawr, a does dim modd anghytuno a Pryce yn hyn o
beth, ond lle mae Williams wedi llwyddo (a lle mae cymaint o’r byd academaidd
wedi methu) mae o wedi sgwennu llyfr sydd yn ddealladwy i’r dyn cyffredin.
Darllenwch y llyfr achos mae Williams wedi cyflwyno’r
dadleuon yn wrthrychol a mor ffeithiol gywir a sydd yn bosib ar hyn o bryd
gyda’r gwaith ymchwil mae o wedi ei gynnal.
No comments:
Post a Comment