‘40 Mawr Radio Cymru’. Dim ond un cân !!!!! Dim ond un gân gan
Edward H Dafis a dim ‘Mistar Duw’ oedd honno. Dwi’n teimlo fel sgwennu i gwyno.
Dwi’m haws a chwyno os nes i ddim pleidleisio. Ond, mae’n gwneud darllen
diddorol. Dyma chi restr o 40 hoff ganeuon gwarandawyr Radio Cymru ar gyfer
2015.
http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35091762?ns_mchannel=social&ns_campaign=bbc_cymru&ns_source=twitter&ns_linkname=wales
Ar un wedd fe all y siart yma fod wedi ei greu 10 mlynedd yn
ôl a bydd y siart ddigon tebyg mewn 10 mlynedd i ddod. Yr eithriadau yw grwpiau
nawr, sef Candelas hefo ‘ Llwytha’r
Gwn’ a’r ail gân ganddynt ‘Anifail’ a
Swnami hefo ‘Gwanwyn’, sydd yn golygu
fod Candelas ar hyn o bryd fwy poblogaidd na Edward H Dafis (swyddogol!!) Mae
hyn fel datgan fod Coldplay fwy poblogaidd na’r Beatles gan ystyried fod
unrhywun sydd yn hoffi’r Stone Roses, Smiths, Bob Dylan, Johnny Cash, Aretha
Franklin, Nina Simone - ddim hyd yn oed yn malio am ffeithiau mor ddibwys.
Pymtheg mlynedd yn ôl grwpiau fel Big Leaves ac Anweledig oedd ar y brig. Yn amlwg doedd y grwpiau yma ddim yn gallu sgwennu ‘clasuron’ a does dim son amdanynt bellach. Dyna fydd tranc cenhedlaeth grwpiau fel Candelas hefyd (neu yn sicr y mwyafrif) a bydd y clasuron hwiangerddol arferol mewn blynyddoedd i ddod yn parhau i deyrnasu.
Wrth awgrymu fod y Siart yn gwneud darllen ‘diddorol’ rwyf
mwy neu lai yn cyfaddef, fel bwyd sydd ddim at fy nant, fod ‘diddorol’ yn
gyfystyr a ‘rhagweladwy’, a’r y gwaethau ‘di-flas’ neu fel fydda cenhedlaeth
trydar yn trydar #lol #wtf #OMG
Cawn ddwy gân yn y rhestr o 40 sydd yn gwneud dim synnwyr o
gwbl. Y cyntaf yw ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ gan y Cyrff. Heb os fe ddylia hon
fod mewn unrhyw restr o 10 Uchaf Cymraeg ond mae hyn fel dweud eich bod yn
hoffi Coldplay a’r Clash o ystyried y cwmni mae’r Cyrff yn ei gadw. Felly hefyd
‘Dere Mewn’ gan Colorama – yr unig gân ddiweddar sydd wedi ei chrefftio a’i
chynhyrchu go iawn (a nid fel cân Gymraeg). Nid fy mod yn anghytuno a’u
cynnwys, ond fy mod yn methu deall sut mae modd i ganeuon fel hyn orwedd yn yr
un gwely a’r clasuron hwiangerddol?
Os am restr fwy ‘llug-oer’
rhaid troi at 10 Uchaf 2015 gan Owain Schiavone yn Golwg 360. Eto mae’n
gwneud darllen ‘diddorol’. Diddorol yn yr ystyr fod cymaint o enwau diethr yn y
rhestr. Mae nifer o’r artistiaid yma yn ‘newydd’ ac yn ‘newydd go iawn’ a rhaid
canmol Schiavone yn hyn o beth am lunio rhestr o’r fath. Rhaid fod Schiavone am
genhadu’r efengyl yma. Beth am ddarganfod ‘Breichiau Hir’ neu ‘Rogue Jones’
rhai o’r artistiaid yn y rhestr.
Rhaid cyfaddef fod Rogue Jones yn enwedig werth gwrando mwy
arnynt. Mae Y Reu yn creu synnau sydd werth rhoi gwrandawiad iddynt a mae’r Ods
gyda’r fideo Ewropeaidd yn gwneud y synnau iawn. Mewn ffordd dyma’r gwrthbwynt
i’r clasuron hwiangerddol sydd yn 40 Mawr Radio Cymru. Nid fod yr artistiaid ‘newydd’
yma yn cael eu hanwybyddu gan Radio Cymru. Mae’r rhaglenni mwyaf hwiangerddol
yn eu chwarae.
http://golwg360.cymru/celfyddydau/209633-10-uchaf-caneuon-2015
Ond mae ambell absenoldeb yn taro rhywun. Dim Gwenno er
engraifft yn unrhyw restr. Heb os, Gwenno yw’r artist Cymraeg sydd wedi gwneud
yr argraff rhyngwladol mwyaf yn ystod 2015 a hynny heb gyfaddawdu (fel y rhan
fwyaf o artistiaid ‘Cymraeg’ drwy ganu yn Saesneg). Yr unig ddwy-ieithrwydd
gyda Gwenno yw’r Gernyweg.
Yn amlwg dydi’r Super Furry Animals ddim chwaith yn gallu
sgwennu clasuron ddigon gafaelgar a chofiadwy i wneud hi i’r 40 Uchaf er
cymaint eu llwyddiant rhyngwaladol. Doedd y ‘ffans’ hwiangerddol ddim am ‘Cŵl
Cymru’ – a dyna’r ffaith.
No comments:
Post a Comment