‘Detour’
yw
ffordd arall o gyrraedd rhywle petae’r ffordd ar gau neu er mwyn gweld rhywbeth
penodol yn ystod taith ond fod angen dargyfeirio. Tybiaf mai gair Ffrengig yw detour a mae’r gair Cymraeg
‘dargyfeirio’ yn un hollol addas yng nghydestun mynd i weld rhywbeth yn ystod
taith ond angen dragyfeirio ychydig.
Rhyw chwarae hefo geiriau felly y byddaf wrth son am
wneud ‘detours’ i weld hyn a llall
wrth deithio’r wlad achos yn aml iawn, os nad yn amlach na pheidio, rwyf yn teithio i weld pethau yn hollol
fwriadol. Felly, i fod yn fanwl gywir, does dim ‘detour’, does dim dargyfeirio – rywf yn gyrru yn syth yno.
Efallai fod mymryn o ryddid i chwarae hefo geiriau os am
geisio creu naws mwy ‘seico-ddaearyddol’ i’r teithiau, wedi’r cwbl mae detour yn swnio yn fwy egsotig, fwy
lliwgar a chyffrous rhywsut. Y bwriad bob amser yw ysbrydoli pobl i grwydro ac i
fynd i weld. Efallai fod elfen o ddargyfeirio wrth ddarganfod, achos mae ymweld
ac un lle yn arwain at ddarganfod pethau eraill or newydd, neu rhywle cyfagos
ar y Map OS sydd werth ei weld tra yn yr ardal.
Eleni roedd dau uchafbwynt amlwg i mi yn Eisteddfod Genedlaethol ym
Meifod, dau beth sydd wedi aros yn y côf, dau beth sydd yn dal i wneud i mi
wenu a rheini oedd gwaith celf Christine Mills, sef y carped gwyrdd yn y
corridor gwyn, a charafan ‘lliwgar’
Andrew Logan .Lliw. Gwrthwenwyn i’r cerdded o gwmpas ddi-dor, y pensiliau a’r
paneidiau rhad ac am ddim gan y stondinwyr corfforaethol a’r gerddoriaeth byw
oedd rhy aml yn gefndirol yn hytrach na hanfodol.
(Fedra’i ddim cytuno a grwpiau pop yn perfformio fel
cerddoriaeth cefndir tra mae pobl yn bwytau eu cinio – mae hynny yn is-raddio’r
diwylliant - yn ei wneud yn ddim mwy na phapur wal).
Cefais sgwrs hefo Andrew Logan yn ei garafan ar y Maes, a
hynny am y tro cyntaf o ran ei gyfarfod yn y cnawd, er fy mod yn fwy na
chyfarwydd a gwaith y cerflunydd amlwg yma. Fel byddai rhywun yn disgwyl,
roeddwn yn gwybod iddo drefnu cyngerdd i’r Sex Pistols yn ei stiwdio yn Butlers
Wharf, Llundain, ym mis Chwefror 1976 – hwn oedd eu degfed gig. Roeddwn yn
gyfarwydd a’r pasiant mae Andrew yn ei drefnu yn rheolaidd achlysurol, sef Alternative
Miss World a dyma gytuno i gyfarfod am sgwrs pellach yn ei Amgueddfa yn
Aberriw.
Felly roedd trefniant y byddwn yn ymweld a’r Amgueddfa
hynod yna ar lan yr Afon Rhiw ym mhentref tlws Aberriw ym Maldwyn, un o’r
pentrefi hynny yn Nyffryn Hafren sydd yn gorlifo a bythynnod bach du a gwyn.
Felly does dim modd dadlau fy mod wedi gwneud unrhyw fath o detour na dargyfeirio i ymweld ac Andrew yn benodol.
Roedd trefniant rhyngthom a gyrrais yno yn unswydd i’w weld.
Ond, fe lwyddais i gael ambell ddargyfeiriad yn ystod y
diwrnod. Gan fy mod wedi cyrraedd Aberriw yn bell rhy fuan ar gyfer yr amser
penodedig hefo Andrew, roedd ymweliad ag Eglwys Sant Beuno yn un dargyfeiriad. Agos.
Ddim yn bell o gwbl. Hawdd.
Er fod safle’r eglwys yn un hynafol, does fawr ar ôl hyd
yn oed o eglwys 1802 gan i’r pensaer Edward Haycock o’r Amwythig ail-godi’r
eglwys ym 1875. Un o’r rhyfeddodau tu mewn i’r eglwys yw’r corffdelw ar
gyfer Arthur Price, Vaynor a fu farw ym
1597 a’i ddwy wraig Bridget a Jane. Oes, mae tri corffddelw yn rhan o’r un cofadail
ond rhag creu dryswch, dylid pwysleisio nad oedd Arthur yn briod a’r ddwy ar yr
un pryd. Delwau ei wraig gyntaf a’i ail wraig yw rhain.
Cawn reredos, sef
sgrin bren gerfiedig, tu cefn i’r allor gan F.R Kempson sydd hefyd werth ei
weld os yw rhywun yn ymweld a’r eglwys.
Dargyfeiriad arall, oedd ymweld a Maen Beuno, gweddillion
maen hir Oes Efydd sydd wedi ei gysylltu wedyn a Beuno Sant. Dau gyfnod
gwahanol yn amlwg ond o bosib fod y garreg wedi bod yn un aml-bwrpas /
aml-gyfnod a wedi gweld ail ddefnydd yn oes y Seintiau?
Rhaid teithio ffordd fach gul iawn am rhyw chwarter
milltir os am gael hyd i Faen Beuno a hynny drwy groesi’r A483 a dilyn y lôn
fach yn syth yn eich blaen. (Mae hyn ger y gyffordd am Aberriw ochr y Trallwm
i’r pentref)
Y trydydd dargyfeiriad oedd Capel Mynydd Seion, Cil,
Aberriw, capel Methodistaidd a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1837 gyda mwy o
adeiladu ym 1846. Adeilad 1846 yn yr arddull lleol / traddodiadol sydd i’w weld
heddiw a mae’n adeilad Rhestredig Gradd II.
Byddai disgrifio Amgueddfa Cerfluniau Andrew Logan fel
gwledd o liw yn gwneud anghyfiawnder a natur hollol ysblenydd yr arddangosfa.
Mae’n disgleirio, mae’n fyw, mae’n agor drysau nad oedd hyd yn oed yn bodoli
o’r blaen yn is-ymwybod rhywun. Y peth mwyaf rhyfeddol, doniol bron a bod, yw’r
gwrthgyferbyniad rhwng Aberriw, y pentref a’r amgueddfa hon, ac eto ……… Eleni,
2016, bydd yr Amgueddfa yn dathlu ei phenblwydd yn 25oed.
Synnw’n i ddim os cerddodd y mwyafrif heibio carafan
Andrew Logan ar y Maes, heb ‘ddallt’, heb fentro i mewn, heb ofyn y cwestiwn be
di hyn? Pwy di hwn? Haws y cyfarwydd na’r anghyfarwydd. Ond yr holl bwynt yw
cymeryd y lonydd bach arall di-arffordd –
dargyfeirio o’r cyfarwydd, mentro a darganfod.
Fyddwn i rioed wedi disgwyl hyn - trefnydd Alternative Miss World gyda carafan ar
Faes yr Eisteddfod ond mae’n rhaid fod hyn yn dda o beth.
No comments:
Post a Comment