Castell Dolforwyn
Bellach rydym yn cysylltu Mis Medi a chynllun ‘Drysau
Agored’, y cynllun gwych hynny sydd yn rhoi cyfle i ni gael ymweld ac adeiladau
hynafol, cestyll, hen dai ac eglwysi a chapeli – rhai sydd ddim ar argor fel
arfer. Eleni, cafwyd y pwyslais arefrol a’r safleoedd archaeolegol gan Cadw,
ond braf iawn oedd cael ychwanegu cestyll Dolforwyn, Carndochan, Dolbadarn a
Chastell y Bere i’r rhestr.
Rhain oll yn gestyll tywysogion Gwynedd wrthgrws. Fe
soniais am gastell Llywelyn Fawr yng Ngharndochan, ger Llanuwchllyn yn fy ngholofn
yn ddiweddar (Herald Gymraeg 23 Medi). Trefnwyd yr ymweliad ‘Drysau Agored’ a
Charndochan i gyd fynd a chloddiadau archaeolegol Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri ar y safle.
Dyma’r tro cyntaf i ni gynnwys Dolforwyn, Dolbadarn a
Chastell y Bere ar rhestr ‘Drysau Agored’, felly heb os, roedd elfen o ‘arbrawf’
yn y peth. A yw’n bosib denu ymwelwyr i gastell llai amlwg, anghysbell ????.
fel Dolforwyn ger Abermiwl (rhwng Y Trallwng a’r Drenewydd) – dyna oedd yr her.
Un o gestyll Llywelyn ap Gruffydd yw Dolforwyn, wedi ei
adeiladu o fewn tafliad carreg i gastell Hari III yn Nhrefaldwyn ac heb os
roedd Llywelyn Ein Llyw olaf yn herio yma yndoedd. Efallai wir, mai adeiladu
Dolforwyn a’r dref Gymreig cysylltiedig, ym 1273 oedd un o’r ffactorau dros
ymosodiad Edward I ar Gymru wedyn ym 1277.
Bu criw ohonnom (tywyswyr WOTGA) yn ymweld a Dolforwyn
rhyw bythefnos yn ol er mwyn gwenud yr asesiad risg ac er mwyn paratoi y ‘daith
dywys’ ac yn ein plith roedd dau oedd ’rioed di ymweld a Dolforwyn o’r blaen.
Chawson nhw ddim eu siomi. Dyma chi gastell a safle bendigedig.
Soniais ddipyn am Gastell Dolforwyn yn ystod fy sgyrsiau
ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Meifod, eleni a chefias
adborth gan sawl un eu bod wedi bod draw yno am dro. Roedd cynnwys Dolforwyn ar
rhestr Drysau Agored 2015 yn bwysig – y gobaith nawr yw gallwn ddenu mwy yno a
chodi ymwybyddiaeth o’r safle erbyn 2016.
Dydi Dolbadarn ddim mor ‘anghysbell’ a Dolforwyn a
chafwyd diwrnod llwyddianus yno yn esbonio adeiladwaith Llywelyn ab Iorwerth.
Oleiaf gyda Castell Dolbadarn mae pawb yn weddol gytun fod hwn y gastell yn
perthyn i gyfnod Llywelyn Fawr yn adeiladu ei gestyll yn ystod y 1220au. Er ein
bod yn awgrymu mai Llywelyn ap Gruffydd adeiladodd Dolforwyn mae ambell
hanesydd wedi awgrymu fod rhywbeth ar y safle yn barod boed hynny yn adeiladau
gan dywysogion Powys neu hyd yn oed ab Iorwerth?
Ceir sawl cyfnod o adeiladu yng Nghastell y Bere a’r
tebygrwydd yw fod y ddau Llywelyn ac yn wir Edward I wedi adeiladu darnau o’r
castell. Heb os, dyma un o’r safleoedd mwyaf prydferth ar gyfer cestyll
tywysogion Gwynedd gyda golygfeydd hyfryd ar hyd Ddyffryn Dysynni a thua Craig
Yr Aderyn. Petae yr ymwelwyr a nemor dim diddordeb yn yr hanes, byddai dal modd
iddynt fwynhau eu hymweliad a’r Bere.
Heblaw am gestyll tywysogion Gwynedd, roedd Din Lligwy, y
pentref ‘Celtiadd’ o’r cyfnod Rhufeinig, siambr galddu Llugwy a Chapel Llugwy
(o gyfnod Gruffydd ap Cynan) hefyd ar ein rhestr. Gyda’r safle yma, y
penderfyniad eleni oedd dnagos y tri safle fel rhan o un daith dywys gan roi
pwyslais ar ddehongli’r dirwedd archaeolegol yn ardal Moelfre yn hytrach na
chanolbwyntio ar un safle neu un gyfnod.
Ac i gloi cafwyd penwythnos o Haul poeth ym meddrod
Barclodiad y Gawres, Ynys Mon, gyda bron i ddau gant yn ymweld a’r safle dros y
benwythnos – rhai o agos ac eraill o bell. Fy argraff o’r holl weithgareddau
‘Drysau Agored’ yw fod y diddordeb yn ein henebion ar gynydd ac edrychaf ymlaen
at wneud yr un peth eto yn 2016.
Gwych Rhys, mae wir angen mwy o Gymru Cymraeg i wneud y math yma o beth. Hawdd iawn yw trefnu i agor adeilad yn eich cymuned, gwneud ychydig o ymchwil, i'w ddangos i bobl lleol ac ymwelwyr. Maen fwyhad, rydych yn cyfarfod a phobl diddorol o bob man, a dwi'n siarad fel rhywun sydd wedi gwenud hyn ers dro ddeg mlynedd. Ewch ati.
ReplyDelete