Wel, mi
gafwyd opium, curo gwragedd, barnwr meddw, dienyddio, cosbi llym, mor ladron, sawl
sgandal a hynny oll o fewn llai na dwy awr. Drama. Digon i wneud operau sebon
teledu ymddangos yn ddof iawn mewn cymhariaeth. Ond hefyd cafwyd gem beldroed
afreolus, y tywydd, cyfeiriad y gwynt a phryd cyrrhaeddodd y wennol a phryd
cannodd y gog gyntaf yn flynyddol.
Ie wir, drama
yng ngwir ystyr y gair, ond drama yn seiliedig ar ddydiaduron William Bulkeley
o’r Bryndddu, Llanfechell oedd y ddrama Mr
Bulkeley o’r Brynddu, wedi ei llwyfanu gan Gwmni Pendraw. Ysgrifennwyd y
dyddiaduron mewn dau gyfnod penodol, yn gyntaf rhwng 30ain Mawrth 1734 a’r 8fed
o Fehefin 1743 a wedyn rhwng y1af o Awst 1747 a 28ain Medi 1760. Heddiw mae’r
dyddiaduron yng nghasgliad Prifysgol Bangor. Chafwyd erioed hyd i’r trydydd
dyddiadur.
Heb os roedd
hon yn ddrama fywiog, cyffrous, doniol ar adegau, ddigon trist adegau arall ond
beth gafwyd oedd cipolwg ar fywyd sgwier mewn ardal wledig fel Sir Fȏn yn y
ddeunawddfed ganrif. Yn amlwg roedd Bulkeley yn feirniadol iawn o’r offeiriad
lleol yn yr Eglwys yn Llanfechell a mae ei sylwadau ar faterion eglwysig y
cyfnod yn gofnod hanesyddol o bwys.
Dwry gyfrwng
ei ddyddiaduron, llwyddodd Bulkeley i gadw ar gof a chadw, gofnod o fywyd ac
agweddau cymdeithasol ardal wledig yn ystod y ddeunawddfed ganrif. Mewn ffordd
mae’r bywyd cefn gwlad, dydd i ddydd, yn debyg iawn i’r cofnodion geir yn y
llyfr huangofianol A Wandering Scholar,
Life and Opinions of Robert Roberts. Hynny yw, mae’r hanes yn teimlo yn fyw
iawn, gallwch ogleuo’r chwys a’r carthion – nid rhyw Sense and Sensibility
clinigaidd yw hyn o bell ffordd. Mae’r dyddiaduron a’r sioe yma yn fwy Cymreig
na arallfyd blodeuog Miss Austen.
Ond ydi’r
peth yn gweithio ar lwyfan? Oes modd trosglwyddo dyddiaduron William Bulkeley
i’r llwyfan a gwneud hynny yn ddifyr i gynulleidfa am dros awr a hanner? Heb os
fe lwyddodd Wyn Bowen Harries a chast Cwmni Pendraw i wneud hyn. Rydym yn
mynychu’r theatr er mwyn cael ein diddanu, rydym yna i fwynhau, ac i anghofio
am bwysau gwaith ond yn yr achos yma dwi ddim yn ama i ni gael ein haddysgu
hefyd.
Gwych medda
fi, yn gwisgo fy het archaeolegydd, roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfuniad o
ddiddanwch a’r wers hanes. Darllennodd Harries yn helaeth o’r dyddiaduron. Rwyf
yn cymeryd yn ganiataol fod hyn air am air, heb eu newid, ond ychwanegu at y
pleser wnaeth y “ffeithiau” a’r disgrifiadau hanesyddol, ein cludo yn ol mewn
amser, er ein bod yn eistedd yn y Theatr Fach yn Llangefni ym mis Ionawr 2015.
Os oedd
hygrydedd Harries fel William Bulkeley yn ddifai, roedd dawn Rhodri Sion a
Manon Wilkinson yn rhyfeddol, gan fod rhaid i Rhodri a Manon ymddangos fel sawl
cymeriad gwahanol a hynny ar adegau o fewn eiliadau i’r cymeriad dwetha adael y
llwyfan. Rwyf yn amlwg yn ‘ffan’ mawr o Rhodri Sion ers ei ddyddiau fel
prifleisydd y grwp Big Leaves ond does dim amheuaeth fod Rhodri yn disgleirio
ar lwyfan – fedra’i ond rhyfeddu ar y ddawn yma o feddiannu cymeriadau.
Felly hefyd,
Manon Wilkinson, rhywsut yn gallu trawsnewid o’r ferch ddiniwed yn y pentref, i
ferch y sgwier i butain o Gockney a fel Rhodri, canu yn yr amrywiol acenion.
Disglair iawn. Braf hefyd clwyed offerynnau byw gan Huw Roberts a Gwenno
Roberts yn ffidlan eu ffordd drwy’r perfformiad, yn cadw’r peth yn organig, heb
rhyw gerddoriaeth cefndir ffug.
Efallai mae’r
peth pwysigaf am y ddrama hon yw fod yma arwyddbost, cyfeirlyfr bychan, awgrym
o beth sydd o dan ein traed – sef y cyfoeth a yw Hanes Cymru.
No comments:
Post a Comment