Wednesday 6 November 2013

Georgia Ruth v Terry Christian



Yn ol y son, Manceinion bellach yw’r ail ddinas mwyaf poblogaidd o ran ymwelwyr yn Ynysoedd Prydain, ail i Lundain wrth reswm, ond y syndod rhywsut, os yw hyn yn wir, fod Manceinion wedi goddiweddyd Caeredin. Pwy a wyr, dw’i ddim wedi gwneud y gwaith ymchwil o ran ystadegau a nid dyna pwrpas yr erthygl hwn.

            Yr hyn sydd yn ddiddorol i mi yw fod trigolion Manceinion bellach yn credu hyn ac yn mynegi hyn yn gyhoeddus. Mewn ffordd nid oes ots os yw’r ystadegau yn gywir, bydd pobl Manceinion yn datgan hyn fel ffaith, ac mewn amser fe dderbynir hyn fel ffaith. Da chi’n gweld, mae yna draddodiad hir ym Manceinion, y ddinas yng Ngogledd Lloegr a arferai fod yn llwyd ac yn llwm ac yn ol-ddiwydiannol, lle roedd yn glawio yn amlach na pheidio i roi tro bositif ar bethau.

            Un o’r cymeriadau hoffus / anhoffus o Fanceinion yw’r darlledwr Terry Christian, wyneb The Word yn ol yn y dydd ar Channel 4, dyn mae’n debyg oedd a chymaint yn ei gasau ac oedd yn ei fwynhau. Does fawr wedi newid, mae Christian dal yn ‘geg fawr’, yn dal i hollti’r gynulleidfa er nad yw mor amlwg ar y cyfryngau torfol bellach ond mae ganddo Blog hynod ddiddorol, doniol a hanfodol o’r enw “Northerners with Attitude”.

            Mae ganddo sioe radio o’r un enw sydd i’w chlywed ar Imagine FM, radio ar y we, yno i’w chanfod ond i chi chwilio neu ddilyn Christian ar trydar. Ta waeth am hynny gyd, y pwynt ddaru ddwyn fy sylw oedd yr un yma am yr ymwelwyr sydd yn dod i Fanceinion a Christian yn honni (yn eitha cywir) fod hyn i gyd oherwydd cyfraniad holl bwysig Tony Wilson (Anthony H Wilson).

            Yn ei Blog galwodd Christian am godi cofgolofn i Tony Wilson, yn Salford dybiwn i, ond gyda tafod yn ei foch achos hyd yma does neb arall wedi son am gofgolofn i Wilson. Efallai for Christian yn bachu ar y cyfle i herio, herio’r cynghorwyr a’r sefydliadau yn union fel y gwnaeth Wilson yn ei ddydd.

            Petawn yn son am grwpiau pop fel Joy Division, New Order, Buzzcocks, A Certain Ratio, The Smiths, Stone Roses, Happy Mondays, oll yn grwpiau o Fanceinion, byddai enw Tony Wilson yn gysylltiedig ac oleiaf hanner ohonnynt. Byddai’r gweddil unai yn ei gasau neu mi fydda Wilson wedi gwrthod gweithio a nhw (Smiths). Dyna’r peth da am gerddoriaeth y ‘Mancs’, does dim hanner ffordd, mae yna gefnogaeth neu gasineb.

            Rhywbeth ddysgais i gan Wilson yn ystod fy arddegau hwyr ac ugeiniau cynnar yw fod modd sefydlu Label Recordiau yng Ngogledd Cymru a rhyddhau recordiau hollol danddaearol heb orfod cyfaddawdu – cyfaddawdu hefo Llundain neu Gaerdydd. Wilson oedd y mentor nes i rioed gyfarfod, er i mi ei weld o gwmpas dros y blynyddoedd nes i rioed dorri gair ac ef.

            Rhywbeth arall gofiaf bob amser am Wilson oedd ei ddamcaniaeth fod gwir dalent o hyd yn cael hyd i ffordd ymlaen a fod y pethau cymhedrol yn tueddu i suddo yn y diwedd. Geiriau Wilson sydd yn dod i’m meddwl wrth gadw golwg o bell ar yrfa’r gantores werin Georgia Ruth. Rwyf wedi clywed pobl yn son amdani ers blwyddyn neu fwy ond doeddwn ddim wirioneddol yn cymeryd sylw.

            Nawr ac yn y man byddwn yn gwrando ar Sioe Georgia Ruth  ar C2/BBC Radio Cymru a does dim dwywaith fod ei dewis recordiau a’i ffordd hamddenol o gyflwyno yn gwneud rhaglen fach hawdd gwrando arno er efallai nid un hanfodol. Yn nhraddodiad gora Cerys Matthews mae Georgia yn barod yn ehnagu’r portffolio – dyna’r unig ffordd o wneud bywoliaeth yn y tymor hir.

            Yn ddiweddar cysylltais a label Sain i gael copi o’r CD ‘Week of Pines’ achos roeddwn yn awyddus i ddallt beth oedd yr holl ‘heip’ am Georgia a cynnigais adolygu’r CD i blog link2wales. A dyna chi beth yw can, mae’r prif gan ‘Week of Pines’ yn gafael o’r dechrau, yn yr hen ddyddiau byddwn wedi dweud ‘hit’ ond does dim Top of the Pops mwyach felly efallai nid ‘hit’ yw’r gair ond ……..

            Ond yn ogystal a’r gan wych yma roeddwn hefyd yn cael fy nenu gan y ddelwedd o Georgia gyda’r rhosod yn ei gwallt, achos mae delwedd yr un mor bwysig a’r gerddoriaeth, does dim modd cael un heb y llall os am wirioneddol fod yn effeithiol. Dwi ddim yn son am steil wedi ei greu yn artiffisial yma, mae delweddau Georgia oll ddigon naturiol, ddigon Cymreig ond mae yna steil, a mae’n effeithiol.

            Siawns bydd nifer ohonnoch wedi gweld Georgia Ruth ar y teledu yn ddiweddar, hi yn fwy na phawb ddisgleiriodd go iawn yn ystod Gwyl Womex, hi oedd a’r steil gora, yr ymddygiad llwyfan gora, y cyfweliadau gora – yn syml hi oedd yr artist mwyaf dioddorol ac o bosib mewn ffordd anfwriadol – y lleiaf cydymffurfiol. Efallai mae Cerys oedd y curadur a roedd y da, drwg a’r hyll o’r Byd Gwerin i gyd ar y llwyfan ond Georgia oedd yr unig un oedd yn gwneud i mi deimlo fel grwando a darganfod mwy.

            Doedd Linda Plethyn ddim ar y llwyfan (rhag eu cywilydd), roedd Sian James yno (diolch byth) a rhaid cyfaddef i mi fel nifer eraill orfod meddwl ddwy waith am naws y Cyngerdd Agoriadol. Cafwyd trafodaeth ddiddorol ar weplyfr am y gwisgoedd traddodiadol (Augusta Hall, Llanover) ond sylweddolodd neb fod Plygain i fod yn wasanaeth crefyddol a nid adloniant mewn neuadd – a nid ar gyfer artistiaid gwerin cyfoes naddo ?

            Wrth wrando ar sioe radio Terry Christian cefais fy atgoffa o ddamcanaieth Tony Wilson, bydd gwir dalent yn cael hyd i’r llwybr ac yn dod i’r amlwg yn rhywle, rhywbryd ond y peth gwaetha gall artist ei wneud yw cydymffurfio – mae’r rheolau yna i’w herio a’i hanwybyddu.
 

No comments:

Post a Comment