Wednesday 27 November 2013

Cerfluniau Neuadd y Ddinas Caerdydd Herald Gymraeg 27 Tachwedd 2013


 

“Wylit, wylit, Lywelyn,

Wylit waed pe gwelit hyn.

Ein calon gan estron ŵr,

Ein coron gan goncwerwr”,

 

Geiriau Gerallt Lloyd Owen ac ‘Awdl Cilmeri’ a tybiaf fod y rhan fwyaf ohonnom ar un tro, yn sicr pawb fu erioed yn fyfyriwr, wedi cael y postar yma ar wal eu lloft. Ynghyd a’r geiriau bythgofiadwy mae’r postar yn cynnwys llun o Llywelyn ap Gruffydd (Ein Llyw Olaf) sef y cerflun mamor sydd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd. Bore LLun dwetha treulias awr yma yn astudio’r cerfluniau.

            Disgrifir Neuadd y Ddinas fel adeiladwaith Edwardaidd ‘Baroque’ sydd yn gwahaniaethu ychydig o adeiladwaith ‘Beaux Arts’ Smith a Brewer yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Twr y cloc yw’r nodwedd mwyaf amlwg ar dirlun y ddinas a rhaid cyfaddef fod y Ganolfan Ddinesig, ar dir a werthwyd i’r ddinas gan 3dd Arglwydd Bute, John Patrick Crichton-Stuart, yn cyfleu y naws angenrheidiol o ddinas, sydd ers 20 Rhagfyr 1955 yn brif-ddinas. Mae crwydro’r strydoedd unionsyth yma yn brofiad yn ei hyn.

             Wrth droedio i fewn i foethusrwydd y Neuadd (heibio portreadau o Siarl a Diana sydd yn eironig wrth feddwl am neges Awdl Cilmeri) dyma ddringo’r grisiau am y cyntedd llawr cyntaf lle mae’r unarddeg cerflun mamor pentelicaidd. Agorwyd y cyntedd mamor yn swyddogol gan ein hen gyfaill, Lloyd George, ar y 27 Hydref 1916 yn ystod ei gyfnod fel Ysgrifennydd Rhyfel. Mae llun benigedig o LL.G ar y wal gan Margaret Lindsay Williams.
 

 

 

 
 

          A dyma chi gasgliad diddorol o’r da, y drwg a’r diddorol o gymeriadau hanesyddol Cymreig. Yng nghanol yr ystafell mae cerflun Dewi Sant yn bendithio’r bobl gan William Goscombe John. Mae gwaith Goscombe John yn ymddangos yma ac acw hyd a lled Cymru yntydi, does ond rhaid meddwl am gerflun LL.G ar Faes Caernarfon neu cofeb ‘Y Ferch Fach’ yn Llansannan (sydd yn cofio am nifer o enwogion lleol fel William Salesbury).
 

            Yn ddiweddarach yr un dydd yng Nghaerdydd, bu i mi ymwelad ac Eglwys Ioan Fedyddiwr yn yr Hayes a dyma mwy o waith Goscombe John sef y cerfluniau o bobl yn y reredos to cefn i’r allor. Ymlygodd Goscombe John ei hyn fel un o arweinwyr y dadeni Cymreig ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ddechrau’r Ugeinfed Ganrif. Bu’n gefnogwr brwd o’r Amgueddfa Genedlaethol gan eistedd ar gyngor yr Amgueddfa am flynyddoedd maith.

            Cerflunwyr gwahanol sydd i bob cerflun, felly yn ei gyfnod roedd hwn yn brosiect pwysig iawn o ran amlygu cerfluniaeth Cymreig. Roedd Goscombe John dan ddylanwad rhai fel Rodin, yn arddel y dull fwy naturiol gyda fwy o fynegiant a hyder o gerflunio. Ymhlith y cerfluniau amlwg, yr arwyr Cenedlaethol, does dim modd osgoi Owain Glyndwr gan Alfred Turner a Llywelyn ap Gruffydd gan Henry Albert Pegram.

            Gyda’i fraich dde yn codi i’r awyr, onid yw Llywelyn yn awgrymu fod angen i’r Cymry ei ddilyn i faes y gad ? Os oedd awdl Gerallt yn eiconaidd, felly hefyd y cerflun yma. Ac onid yw Glyndwr, a’i law ar ei gleddyf, yn awgrymu gladweinydd, gwladweinydd o statws Ewropeaidd ? Nid portreadau difflach mor cerfluniau yma ond adlewyrchiad o ddeheuadau pobl Cymru yn ystod y dadeni Cenedlaethol yma dros ganrif yn ol – mae rhinwedd eiconaidd i bron bob un o’r cerfluniau.

 
 

            Ty hwnt i’r amlwg Llywelyn a Glyndwr cawn gymeriadau fel Dafydd ap Gwilym, gan W. W Wagstaff, gwr pwysig iawn o ran ei farddoniaeth a’i ddisgrifiadau o arferion cymdeithasol y Canol Oesoedd ac yn bwysicach byth yn ol Myrddin ap Dafydd am ei ddisgrifiadau o’r llys a neuaddau yr Uchelwyr yn y cyfnod yma. Gwelir dafydd a’i Delyn yn ei law (yn diddannu’r Uchelwyr mae’n siwr ?).
Dafydd ap Gwilym

Gerallt Gymro
 

            Cawn hefyd gymeriadau fel Gerallt Gymro (Henry Poole) a Buddug gan J. Havard Thomas a Buddug efallai sydd yn cyfleu yr ymdeimlad Celtaidd a’r un cyn-hanesyddol, yn wir hi yw’r unig ferch yma. Efallai wir fod y dadeni Cymreig ar ddechrau’r Ugeinfed Ganrif felly yn un oedd yn rhoi gorbwyslais ar y gwrol-wyr ? Rhaid cofio mae ond 13 mlynedd oedd yna ers i Emily Pankurst ffurfio’r WSPU felly cwestiwn da os oedd Cymru ar eil hol i chydig bach yn y cyd-destyn yma ?
 

            Pam ddim Ann Griffiths neu Mari Jones Llanfihangel y Pennant ? Ac os am ofyn y cwestiwn yma, rhaid cofyn ar pa sail mae Thomas Picton (T. Mewburn Crook) yma o gwbl ? Os fu dyn annymunol a chreulon erioed Picton oedd hwnnw, dyn a ddisgrifiwyd unwaith fel “the blood soaked Governor” am ei greulondeb ar ynysoedd y Caribi. Er hynny amlygodd ei hyn fel arweinydd milwrol a bu farw ar faes y gad Waterloo ym 1815 gan fwled drwy ei dalcen. (Er hyn roedd stori ei fod wedi ei saethu yn ei gefn gan un o’i filwyr ei hyn cymaint oedd eu casineb tuag ato).
Thomas Picton.
 

            Felly mae dipyn o wrthgyferbyniad rhwng Picton a dau wr y Beibl, sef William Morgan (T.J Calpperton) a William Williams Pantycelyn (L.S Merrifield). Dyma’r her i ni gyd mewn un ystyr wrth droedio’r gofod yma, nid yw pob aelod o’r cerfluniau yn “arwr” amlwg a cwestiwn arall yw lle mae Harri VII (Ernest Gillick)  yn gorwedd yn hyn i gyd ? Oes mae cysylltiad a Penmynydd, Mon, ond bregus iawn oedd Cymreigtod Harri Tudur.
William Morgan
 
William Williams Pantycelyn
 
Harri VII
 
Hywel Dda
 

            O ran profiad, mae astudio’r cerfluniau a meddwl ymhellach am y Dadeni Cymreig  ganrif yn ol yn gwneud awr hynod ddifir yn Neuadd y Ddinas Caerdydd !

 

No comments:

Post a Comment