Mae rhywun yn
mawr obeithio mae un sgil effaith o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol mewn
gwahanol leoliadau yn flynyddol yw fod hyn yn caniatau i bobl ddarganfod
ardaloedd sydd efallai yn newydd iddynt. Yn sicr o ystyried Cymru gyfan,
byddai’n waith oes i unrhywun ddod i adnabod pob ardal a bro yng Nghymru ond yr
hyn sydd yn sicr yw fod pob ardal yng Nghymru yn gyfoethog iawn o ran hanes a
diwylliant.
Dyma chi bentref Llangernyw, ddim yn
bell o’r Steddfod eleni, a’r dyddiau yma yn Sir Conwy er yn draddodiadol mae
rhywun yn tueddu i son am yr ardal yma
i’r dwyrain o’r Conwy fel yr hen Sir Ddinbych. Ac er mae “Llangernyw” yw’r enw
ar y pentref, mae’r egwlys leol wedi ei chyflwyno i Sant Digain neu Dygain,
sant sydd yn cael ei gysylltu ac ardal Dumnonia yng nghanolbarth Lloegr yn
ystod y 5ed ganrif.
Yn ol yr hanes mae Llangernyw yn
cael ei grybwyll ymhlith tiroedd oedd yn rhodd gan Maelgwn Gwynedd yn y 6ed
ganrif. Efallai mae’r darn hynaf o’r eglwys yw’r porth ar yr ochr ddeheuol sydd
yn dyddio o’r 15 ganrif ac fel arfer mae rhywun yn disgwyl i’r bedyddfaen fod
yn hyn na’r eglwys gan fod y bedyddfaen yn fwy tebygol o gael ei hail
ddefnyddio ac ei barchu yn ystod cyfnodau o ail adeiladu. Y stori leol yw fod
hoel miniogi cyllill ar y bedyddfaen sydd yn mynd yn ol i gyfnod y ffair pan
roedd y cigyddion lleol yn miniogi eu cyllill ar ochr y fedyddfaen.
Ond yn llawer, llawer hyn na’r
eglwys mae’r goeden ywen sydd gerllaw yn y fynwent. Yn ol y Cyngor Coed mae’r
ywen dros 4,000 o flynyddoedd oed, y peth byw hynaf yng Nghymru yn sicr. Rwan,
mae dros 4,000 oed yn dyddio’r goeden yn ol i’r Oes Efydd cynar, dyma gyfnod
Cor y Cewri ac os felly rydym dros fil a hanner o flynyddoedd cyn unrhyw son am
y Celtiaid, dyna chi rhywbeth i’w ystyried. Mae 4,000 o flynyddoedd yn ol yn
gwneud y goeden ychydig ganrifoedd yn hyn na Mantell Aur yr Wyddgrug.
Fel arfer rydym yn cysylltu’r goeden
ywen a’r hen draddodiadau Paganaidd, a fod y Cristnogion wedyn, ar ol y cyfnod
Rhufeinig, wedi perchnogi’r hen safleoedd Paganaidd yma ar gyfer eu heglwysi.
Rydym hefyd yn cysylltu hen fynwentydd crwn a’r Eglwys Geltaidd, sef yr Eglwys
cyn y Normaniaid ond yn yr achos yma, rydym yn mynd yn bell, bell yn ol. O
bosib rydym rhy bell yn ol i awgrymu fod yma barhad o ddefnydd o’r lle yma fel
man sanctatidd, wedi’r cwbl mae cryn gwahaniaeth rhwng arferion yr Oes Efydd a
chyfnod y Celtiaid ond pwy a wyr ?
Rydym ar lan yr Afon Cledwen, mae
pwysigrwydd i ddwr ac afonydd drwy hanes, oes bosib fod hwn yn fan sanctaidd
sydd wedi parhau dros 4,000 o flynyddoedd – dyna chi gwestiwn da ? Hefyd o fewn
y fynwent, ar ochr ddeheuol i gorff yr eglwys, mae dwy garreg fedd hynafol
iawn, yn dyddio o’r 9fed-10fed ganrif. Cerrig bedd Cristogol gynar yw’r
disgrifiad arferol am gerrig o’r fath. Mae’r groes ar y garreg agosaf i’r
eglwys yn ddigon hawdd i’w gweld a mae iddi derfyn ar draws y pedair fraich a
dau smotyn naill ochr i’r fraich uchaf. Mae’r groes ‘agored’ yn llai amlwg ar
yr ail garreg.
Nodwedd arall hynod iawn am fynwent
Llangernyw yw carreg fedd Robert Roberts ‘Y Sgolor Mawr’ (1835-1885). Mae lle i
ddadlau mae ei lyfr ‘The Life and Opinions of Robert Roberts, A Wandering
Scholar’ yw un o’r llyfrau Cymreig gorau erioed. O ran naws mae’n debyg iawn
i’r disgrifiadau o gefn gwlad mae rhywun yn ei gael gan George Borrow yn ‘Wild
Wales’ ond y gwahaniaeth rhwng Borrow a Roberts yw mae Roberts yw’r prif
gymeriad – nid sylwebydd yn cerdded heibio mo Roberts ond dyn sydd yn byw y
peth go iawn.
Mae’r disgrifiad er engraifft o
Roberts yn rhewi wrth geisio croesi Dyffryn Mymbyr un noson hwyr rhwng Capel
Curig a Nant Peris yn codi arswyd a chydymdeimlad ar rhywun a mae’r diweddglo o
gyrraedd y dafarn yn Nant Peris a chael ei ddadmar o flaen y tan yno yn un o’r
storiau gorau erioed am fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn ystod y pedwaredd
ganrif ar bymtheg.
Does dim modd canmol digon ar ‘A
Wandering Scholar’. Mae’r llyfr gwreiddiol wedi ei olygu gan J.H Davies,
Prifathro Coleg y Brifysgol Aberystwyth yn ystod y 1920 ond yn ddiweddar fe ail
gyhoeddwyd y llyfr gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1991. Beth sydd yn wych am yr
hunagofiant yma gan y Sgolor Mawr yw’r frawddeg ar flaen y llyfr gan J.H Davies
lle mae’n dweud fod y stori “as told by himself” gan yr hen Robert Roberts
druan.
No comments:
Post a Comment