Yn ystod Mis
Gorffennaf bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn gwneud gwaith cloddio
pellach o amgylch safle Ysgol yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon. Fe gyfeiriodd
y golygydd Tudur Huws Jones at Adroddiad Llanbeblig yn yr Herald (05.06.2013)
sydd i’w gael i’w lawrlwytho o safle we’r Ymddiriedolaeth.
Y bwriad yn ystod Gorffennaf oedd
cael golwg pellach ar y safle lle bu olion mynwent ganol oesol gynnar a hefyd
poptai pydew (ar gyfer pobi bara i’r milwyr) yn dyddio i oddeutu 77 oed Crist,
sef yr union gyfnod sefydlwyd y gaer Rhufeinig, Segontium. Felly y ddamcanaieth
oedd fod yma wersyll ar gyfer y Rhufeiniaid oedd yn adeiladu’r gaer gerllaw –
eto i gael mwy o wybodaeth lawrlwythwch yr adroddiad.
Fy ngwaith i yn ystod y cloddio, yn
ogystal a chael cyfle i ymuno yn yr hwyl o gloddio, oedd cydlynu’r ymweliadau
gan y Wasg i’r safle a chafwyd bore bendigedig yng nghwmni criw rhaglen ‘Heno’
S4C a’r gyflwynwriag Elin Fflur. Rwan ta, dwi’n adanabod Elin wrthgwrs fel y
gantores pop, neu’r “seren pop”, fel aelod o Carlotta hefo’i brawd Ioan
Llywelyn ar un adeg cyn iddi fentro i
faes y gyrfa unigol. Rydym hefyd yn adnabod Elin fel wyneb cyfarwydd ar y
teledu, fel cyflwynwriag sydd bob amser yn hapus a brwdfrydig.
A dyma frwdfrydedd eto gan Elin,
mae’n rhaid fod y criw ffilmio wedi bod ar y safle am oleiaf dwy awr. Roedd
Elin am siarad a phawb medrai’r Gymraeg, ond yn wahanol i bobl teledu arferol
sydd ond eisiau’r dyfyniad ar y ffilm a diolch yn fawr, ffwrdd a ni, roedd gan
Elin amser i bawb. Teimlai pawb fod eu cyfraniad o bwys wrth i Elin wrando’n
astud. Mae’r ddawn ganddi i wneud pobl yn gyfforddus o flaen camera ac i deimlo
fod eu sylwadau yn bwysig.
Ond yr argarff gefais i y bore hwnnw
oedd fod diddordeb Elin wedi ymestyn tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir gan
gyflwynwraig broffesiynnol, roedd hi wirioneddol a diddordeb yn yr hyn oedd yn
digwydd yn Llanbeblig. Roedd Anita a Sadie o’r Ymddiriedolaeth yn arwain
gwahanol ddosbarthiadau ysgol i’r safle – a rheini wedyn yn cael cyfle i gloddio
yn y baw – eto pa well ddeunydd ar gyfer y teledu ? Rhaid cofio hefyd fod yn
hollol fwriadol yn ystod y cloddio i roi gwahoddiad i’r gymuned leol,
gwirfoddolwyr o’r newydd a disgyblion ysgol i gymeryd rhan yn y gwaith cloddio
!
Cymeriad adnabyddus arall o fyd S4C/
BBC Radio Cymru sydd wedi dangos cryn ddiddordeb mewn archaeoleg / henebion
yw’r digrifwr Tudur Owen, cymaint felly fy mod wedi gaddo mynd a Tudur am dro
rhyw ben, efallai i weld safle hynod drawiadol fel Bryn Cader Faner neu
Carneddau Hengwm yn Ardudwy.
Bu Tudur yn y ‘newyddion’ fel petae
yn ddiweddar oherwydd “Gwilym Owen-gate”. Yn eironig iawn wrth recordio rhaglen
Hawl i Holi yn ddiweddar ar gyfer Radio Cymru bu i mi gyfeirio at Gwilym Owen
fel “deinasor” oherwydd ei sylwadau am gyflwynwyr fel Tudur, Eleri Sion ac os
dwi’n cofio yn iawn Dafydd a Caryl. Ond y tro yn y cynffon oedd i mi ddatgan
wedyn fy mod innau hefyd yn ddeinasor ac yn hollol gytun a Gwilym – mae’r
rhaglenni yna yn ddigon i mi droi drosodd at Radio 4.
Dydi hynny wrthgwrs ddim yn fy
rhwystro rhag gyrru ymlaen hefo Tudur, ac yn wir mae’r polisi cerddoriaeth ar
ei raglen yn wych, ond fedra’i ddim gwrando ar bobl yn chwerthin yn uchel ar
jocs eu hunnan a fedra’i ddim dioddef rwdlan. Y rheswm efallai i mi
ddefnyddio’r gair “deinasor” oedd wrth gyfeirio at y rhaglen ar Radio Cymru yn
ddiweddar lle holwyd Gwilym a Sian Gwynedd (Golygydd Radio Cymru) gan Dylan Iorwerth am ffigyrau gwrando Radio
Cymru a doedd dimson na thrafod o gwbl am yr angen am fwy o ddewis ac
amrywiaeth ar y We (chwi gofiwch nad oeddwn am godi hyn byth eto achos does neb
yn gwrando !!!!)
A hyn oll yn fy arwain wedyn at
gwestiwn holwyd i mi yn ystod darlithio am “Beth yw Archaeoleg ?” yn ystod Gwyl
Arall eleni, sef beth oedd y cysylltiad rhwng canu pop ac archaeoleg. Cyfeirio
oedd yr holwr wrthgwrs at Julian Cope, cyn leisydd y Teardrop Explodes o Lerpwl,
a ysgrifennodd lyfr cynhwysfawr a gwirioneddol ddiddorol a doniol ar adegau o’r
enw “The
Modern Antiquarian” (Thorsons, 1998).
Yn ei lyfr mae Cope yn egluro sut i
ynganu Bryn Celli Ddu – “Brin Kethle Thee”, hwn yw’r awdur oedd ofn y defaid ym
Modowyr, cromlech gyfagos, os maddeuwch i mi am ddyfyniad arall gan Copey y
Sgowsar “As we crossed the field ….. the sheep faced us and refused to back
down”.
Ychydig flynyddoedd yn ol bu’m ar
daith o Gymru gyda’r canwr gwleidyddol Billy Bragg a roeddwn wedi edrych ymlaen
am gael cyfle i drafod gwleidyddiaeth Cymru hefo fo. Dros yr holl bythefnos o
deithio yr unig ddiddordeb gan Bragg oedd fy holi am henebion i’w gweld yn ar
hyd y daith a finnau wedyn yn ei gyfeirio at Abaty Cymer, neu lle bynnag, ar
hyd yr A470.
Cofiaf sgwrs arall gyda’r actores
Sharon Morgan rhyw dro wrth ffilmio ‘Pethe’ a hithau’n son fod ganddi radd mewn
archaeoleg, cyn troi yn seren eiconaidd y Byd actio gan ymddangos yn y ffilm
‘seminal’ ‘Grand Slam’ wrthgwrs. Gradd mewn hanes oedd gan Rhodri Llwyd Morgan
neu Rhodri Cerrig Melys (sef y grwp roc Cymraeg o Aberteifi) fel oedd o i ni yn y Byd Pop ac
yn ddiweddar iawn rwyf wedi cael cyfle i gyd-weithio a chyffaill iddo, cyn actor
arall Morgan Hopkin, sydd bellach yn cyfarwyddo cyfres am Archaeoleg ar gyfer
S4C.
A sut mae modd anghofio’r hanesydd,
awdur, rebal a chymeriad hynod a dweud y lleiaf Dewi Prysor ? Cofiaf Prysor fel
hogyn ysgol yn un o ddilynwyr prin yr Anhrefn yn eu dyddiau cynnarganol yr 80au.
Heb “drefnwyr” fel Prysor yn ein gwahodd i Drawsfynydd fydda’r grwp rioed di
cael cyfle i fagu dilyniant hyd a lled Cymru.
Y dyddiau yma mae Prysor yn
cyflwyno’r rhaglen ardderchog (er fod y cyfresi bell, bell rhy fyr) ‘Darn Bach
o Hanes ar S4C a sawl gwaith rwyf wedi cael y plerser o gyd ffilmio hefo Dewi
mewn lleoliadau archaeolegol.
Felly oes yna fymryn o wirionedd i’r
dywediad mae “Archaeoleg yw’r Rock’n Roll Newydd” ?
No comments:
Post a Comment