"Efallai bod yna duedd ynon ni fel Cymry i roi gormod o sylw i iaith a
diwylliant, a threftadaeth a hanes... Ma hynny'n ofnadwy o bwysig, ond…. rydyn ni
angen rhoi sylw i fyd natur, i'r adnoddau aruthrol yma sy' ganddon ni yma yng
Nghymru" Bethan Wyn Jones (Golwg 06.06.13)
Weithiau mae
rhywun yn dod ar draws rhywbeth, boed yn ddigwyddiad neu yn berfformiad, neu yn
gan, neu yn ddarn o gelf, neu yn ffilm neu yn araith sydd mor, mor, bwerus,
bron a dweud fod y profiad yn ddigon i newid bywyd rhywun am byth. Nid
gor-ddweud ydwyf yma, a hyd yn oed petawn yn gor-ddweud dwi ddim yn credu fod
fawr o’r ots, achos roedd gwylio araith Iolo Williams ar “Sefyllfa Byd Natur” sydd i’w weld ar youTube yn yn o’r adegau
hynny.
Roedd y dagrau yn llifo, anodd oedd
cael fy ngwynt, roedd hyn yn cyfateb i’r araith
“I have a dream……” o ran y Byd Natur, roedd hyn cystal a chlywed “God
Save The Queen” gan y Sex Pistols am y tro cyntaf, roedd hyn dim llai na gwneud
rhywun sylweddoli fod llinell newydd gael ei rhoi yn y tywod. Fydd pethau byth
ru’n fath eto …….
Wrth i mi sgwennu mae bron i 10,000
wedi gwylio’r clip ar youTube, mwy na sydd yn gwylio na gwarndo ar ambell
raglen Gymraeg dybiwn i. Fel byddaf yn ddatgan yn aml, dyma’r cyfryngau newydd,
allan o reolaeth unrhyw fwrdd na chomisiynydd – dyma’r radio rhydd fel petae (a
gyda llaw os di rhywun eisiau gwybod pwy di’r grwp pop Cymraeg mwyaf blin ac
anarchaidd allan yna y dyddiau yma, ewch i edrych am Radio Rhydd o Fethesda –
mae nhw’n dweud hi gystal a Iolo am bethau ond gyda mwy o regfeydd ac hefo
gitars uchel).
Ar safle’r RSPB cefais y wybodaeth
angenrheidiol am ddarlith Iolo, doedd dim gwybodaeth pellach i’w gael ar you
Tube dim ond fod rhywun yn gweld logo ‘Sefyllfa Byd Natur’ yn y cefndir. Am y
tro cyntaf mae cyrff bywyd gwyllt wedi
dod at ei gilydd i lunio adroddiad, yn eu plith y WWT, Buglife, Bumblebee
Conservation Trust, Marine Conservation Society a llawer mwy. Wyddwn i ddim am
hanner y cyrff, ond wedyn fy anwybodaeth i yw hynny.
A beth sydd yn cael ei ddweud
ganddynt ? Gadewch i mi ddyfynu ambell ddarn o’r adroddiad :
“Mae
Tirogaethau Dramor y DU yn cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt o bwysigrwydd
rhyngwaldol enfawr ac mae dros 90 o’r rhywogaethau hyn mewn perygl mawr o
ddiflannu o’r tir yn fyd eang”
“Mae bygythiadau di-rif
i fywyd gwyllt y DU, ac mae’r bygythiadau mwyaf eithafol yn gweithredu i un ai
ddinistrio cynefin gwerthfawr neu israddio ansawdd a gwerth yr hyn sydd ar ol”
“Dylem weithredu i achub
byd natur oherwydd ei werth cynhenid ac oherwydd buddion a gawn ganddo sy’n
hanfodol i’n lles a’n ffyniant”
Son am ei
filltir sgwar mae Iolo yn ei araith, milltir sgwar Cymru sef y wlad hon, ond
mae hefyd yn son am filltir sgwar arall, sef ardal Llanwddyn yn Sir Drefaldwyn
lle e’i magwyd. Does dim son am ddarn o bapur, mae Iolo yn siarad o’r galon am
dros chwarter awr a phrin fod rhywun yn sylweddoli ei fod yn gorfod meddwl am
beth sydd yn dod nesa.
Prin
ei fod yn baglu ar ei eiriau, mae hon yn araith fydda’in gwneud i rai o
aelodau’r Cynulliad / Llywodraeth swnio fel newydd ddyfodiad diniwed. Yn
rhyfedd iawn mae Iolo yn sylwi ar rai o Aelodau’r Cynulliad yn yr ystafell a
mae’n gwenud yn siwr eu bod yn sylweddoli fod hyn yn cyfeirio atynt. ’Di
“pwerus” ddim yn gwneud cyfiawnder a safon yr araith hon, yn sicr mae’n araith
sydd yn gorwedd yn gyfforddus ar yr un llwyfan a MLK neu Mandela,
gwleidyddiaeth o fath gwahanol efallai, ond mae’r gwladweinydd yna yn sicr !
I droi yn ol at ddyfyniadau fy
nghyd-golofnydd Bethan Wyn Jones a gyhoeddwyd yn Golwg 06.06.13 yr hyn sydd yn
mynd trwy feddwl rhywun yw beth fyddai’r grym petae’r Byd hanes a threftadaeth
a’r Byd ymgyrchu Iaith yn uno hefo’r Byd Natur ac yn dechrau gweiddi. Yn amlwg,
a dwi’n sicr fod Betha a phawb arall yn gwybod nad cystadleuaeth rhwng y
meusydd yw hyn, er gwaetha ein traddodiad Eisteddfodol.
Byddaf yn son yn aml fod rhaid wrth
gyd-destyn. Does dim modd ymdrin a dehongli Hanes Cymru heb werthfawrogiad a
dealltwriaeth o berthynas y Gymraeg a
hyn oll. Efallai gallwn fynd mor bell ac awgrymu mae hanner darlun mae rhywun
yn ei gael heb ddeall neu siarad yr Iaith Gymraeg.
Felly hefyd gyda Byd Natur, mae’r
peth yn hollol ganolig ac allweddol os am ddehongli Cymru a Chymreictod, mae
anwybyddu natur yr un mor amhosib a pheidio ymdrin a thirwedd Cymru. Yn syml
mae’n amhosib trafod Cymru heb werthfawrogi’r holl elfenau.
Engraifft da i chi, bythefnos yn ol
bu’m draw i Enlli - ddwywaith, y tro cyntaf gyda dosbarth hyfryd, deallus a
gwybodus y Lasynys Fawr ac ar ol trafod safle claddu Oes Efydd ar ben Mynydd
Enlli dyma dreulio amser yn gwylio’r frangoesgoch yn glanio ar y llethr o’n
blaen. Dyma’r tro cyntaf i mi gael astudio’r frangoesgoch a roedd y wefr yn
amlwg.
Yr
eilwaith roeddwn yn ol i astudio safleoedd cist-feddau o’r Canol Oesoedd yng ngwmni
Colin sydd yn hwylio pobl drosodd i’r ynys, ond eto ar y ffordd adre dyma
wylio’r palod a’r hebog dramor. Doedd dim modd dweud fod y cist-feddau yn
“well” na’r hebog dramor ond yn amlwg fod y cist-feddau o fewn fy maes i a fy
mod yn gallu eu trafod a’u dehongli gyda mwy o awdurdod.
Cymerwch chwarter awr i wylio Iolo Williams ar you Tube, dyma un o’r areithiau gorau’r 21ain ganrif, dyma godi cywilydd arnom i gyd am ein difaterwch, croeso i’r Gymru newydd.
Roedd ymgyrch y Maes Gwyrdd yn yr Eisteddfod yn Llandw llynnedd yn ymdrech i ddod a'r neges yma drwodd yn gryf; llwyddasom am un flwyddyn yn unig... efallai cawn atgyfodi'r ymgyrch eto mewn Eisteddfod yn y dyfodol. Mae Bethan Wyn Jones yn llygad ei lle - mae'r Cymry efallai wedi cymryd byd natur yn naturiol, fel petai am rhy hir; mae'r difrod wedi dod yn sydyn ac fel syndod...
ReplyDeleteMae tudalen y Maes Gwyrdd, Maes Gwyrdd 2012, dal yn fyw ar Facebook ac yn hawdd ei ddarganfod gyda'r "search".
Delete