Yn fy
ngholofn yr wythnos dwetha (Herald Gymraeg 5 Mehefin 2013) cyfeirias at Gwilym
Cowlyd fel rhyw fath o “arwr” i mi a’r wythnos hon dyma grybwyll gwr arall lle
mae parch mawr gennyf ato, yn sicr am ei waith fel hynafiaethydd ac fel
arloeswr yn y maes archaeoleg, W.O Stanley.
Roeddwn wedi ymweld a Chaergybi ar
gyfer lansiad yr arddangosfa gelf ‘Meini Hirion Mon’ yn y llyfrgell dan ofal
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Yn wir roedd gwaith disgyblion ysgolion cynradd
Mon a’r artist Julie Williams yn ddim llai na bendigedig, trawiadol
ysbrydoledig a hynod lliwgar a byddwn yn argymell fod pawb yn galw heibio yn
ystod yr wythnosau nesa i weld yr arddangosfa hynod yma. Bydd cyfle dros y
misoedd nesa hefyd, i weld yr arddangosfa yn Oriel Ynys Mon a Galeri,
Caernarfon ond rheswm arall dros argymell mynd i weld yr arddangosfa yng
Nghaergybi yw fod modd wedyn bachu ar y cyfle i ymweld ag Eglwys St Cybi.
W.O Stanley oedd yn gyfrifol am y
gwaith cloddio ar gytiau crynion Ty Mawr ger Ynys Lawd a hefyd ar y beddrodau
a’r cytiau ym Mhorth Dafarch. Bu’m ddigon lwcus i gael hyd i’w lyfr ‘Cyttiau’r Gwyddeolod, Antiquities in
Holyhead Island and Anglesey by The Hon. William Owen Stanley F.S.A’ yn
ystod un o ffeiriau llyfrau Cymdeithas Bob Owen (Y Casglwr) yn ddiweddar.
Trysor o lyfr am y lluniau inc o’r cytiau heb son am ddadansoddiad a nodiadau
gofalus Stanley, yn sicr dyma un o arloeswyr gwaith cloddio archaeolegol yng
Nghymru.
Cydnabyddir Stanley yn y cyhoeddiad
‘Trafodion Canmlwyddiant 2011’ ,
cyhoeddiad gan Gymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Mon, mewn erthygl gan
Frances Lynch ar hanes cloddio archaeolegol ar Mon, lle mae Lynch yn cydnabod
mae Stanley oedd “tad archaeoleg ar yr Ynys”. Mae Lynch hefyd yn cyfeirio at ei
fam, y Foneddiges Stanley a mae’n debyg mae iddi hi mae’r diolch am achub
cromlech Trefignath yn ogystal a throsgwyddo’r diddordeb mewn henebion i’w mab.
Felly dyma gamu mewn i Eglwys Sant
Cybi a gwneud fy ffordd am Gapel Dewi Sant, neu Gapel Stanley fel mae rhai yn
ei alw, capel a godwyd dan ofal y pensaer Gilbert Scott ym 1897 er cof am
Stanley. Mae’n debyg i Gilbert Scott fod yn gyfrifol am adnewyddu darnau o’r
eglwys rhwng 1877 a 1879 a mae oel ei waith hefyd i’w weld yng Nghadeirlan
Bangor.
Dyma’r tro cyntaf i mi gael mynediad
i’r eglwys hon a rhaid cyfaddef fod y rhan helaeth o’m sylw wedi cael ei roi i gofeb
mamor Carrara, W.O Stanley. Gorweddai Stanley gyda ei law chwith wrth ei ochr
a’i law dde ar ei fol o dan ei fron. Mae copa ei ben yn foel ond mae gwallt yn
llifo tu cefn i’w glust a mae golwg fel petae yr hen greadur yn gorwedd yn
heddychlon gyda llian drosto a chlustog o dan ei ben. I’r naill ochr mae dwy
angel yn edrych drosto mewn gofal. Dyma chi beth ydi cofeb.
Er mor dywyll oedd hi yng nghornel
yr eglwys daeth fy llygaid i ymgynefino mewn amser a dyma drio cymeryd holl
ysblander yr olygfa o’m blaen i mewn a’i ddadansoddi yn bwyllog. Nid hawdd gan
fod llen o bolion haearn yn ein gwahanu, felly dyma fod yn hogyn drwg a benthyg
stol i mi gael edrych yn iawn ar gofeb Stanley. Dyma wneud yr hyn rwyf yn ei
wneud bob tro, cymeryd llwyth o luniau a wedyn dyma roi y stol yn ei hol yn
daclus.
Does dim dwywaith fod hon yn gofeb
teilwng os nad ysblenydd, ond does dim yma go iawn i esbonio arwyddocad gwaith
Stanley fel hynafiaethydd. Ef er engraifft roddodd yr esgyrn mammoth a
ddarganfuwyd ym mhorthladd Caergybi ym 1864 fel rhodd i’r Amgueddfa Hanes Natur
yn Llundain, esgyrn sydd bellach ar fenthyciad i Amgueddfa Morwrol Caergybi
(trysor bach arall yn y dref hon).
Ond nid dyma’r oll yma yn y capel
bach hynod, gan nad oes modd osgoi y ffenestr lliwgar uwchben cofeb Stanley.
Gwydr lliw yn dangos ffrwythau ar goed yw hon a mae rhywun yn adnabod arddull
William Morris yn syth wrth edrych ar y ffenestr. Yma mae ychydig o ddryswch,
yn ol rhai ffenestr o ffatri William Morris yw hon, neu yn arddull Morris, a honnir
mae’r cynllunydd oedd gwr o’r enw Bowman ond yn ol eraill y cynllunydd oedd
Edward Burne-Jones a gynlluniodd y ffenestr yng ngweithdy ei ffrind William Morris.
Edward Burne-Jones a gynlluniodd y ffenestr yng ngweithdy ei ffrind William Morris.
Gwraig W.O Stanley oedd Ellin
Williams o deulu Bodelwyddan wrth gwrs, hi sydd wedi rhoi ei henw i Dwr Ellin,
y twr gwylio adar RSPB bellach, ger Ynys Lawd. Mae ffenestr arall yn y capel er
cof am Ellin, gyda’r seintiau Theresa,
Dorothy ac Agnes ac unwaith eto awgrymir fod y ffenestr yma yn arddull
Burne-Jones. Yma rhaid cyfaddef nad arbeingwr ydwyf ond byddai’n ddiddorol iawn
cael clywed gan ddarllenwyr yr Herald Gymraeg os oes gan unrhywun wybodaeth
pellach am wenuthurwyr y ffenestri yma.
Maddeuwch i mi am ail-adrodd, ond
byddaf yn dweud o hyd fod angen ymweliad arall os am wneud cyfiawnder ag Eglwys
St Cybi. Roeddwn mor fodlon cael treulio ychydig amser yng nghwmni W.O Stanley
fel nad oedd fawr o awydd arnaf i gychwyn archwylio gweddill yr eglwys yn llawn
– felly mae angen ymwleiad arall er mwyn darganfod nodweddion eraill St Cybi.
Ar y llaw arall, rwyf yn hen gyfarwydd
a thu allan St Cybi gan fod yr eglwys yn eistedd yn dwt a thaclus o fewn y gaer
Rhufeinig, hon yw’r gaer wrth gwrs sydd yn rhoi yr enw i’r dref Caer Gybi.
Nodwedd amlycaf y muriau Rhufeinig yw’r patrwm “asgwrn-penwaig” gan fod y
cerrig wedi ei gosod am i fyny ac yn groes i’w gilydd. Nodwedd arall ddiddorol
i’r gaer yw fod y ffordd fawr ger y porthladd unwaith yn ddwr gan mae yno oedd
y mor yn gyrraedd yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Caer arfordirol oedd hon yn
gwarchod Gogledd Cymru rhag ynosodiadau o’r mor.
Dyma droi yn ol at ddechrau’r stori,
treuliwch amser yn darganfod Caergybi, ewch draw i Lyfrgell Caergybi i weld yr
arddangosfa ‘Meini Hirion Mon”, chewch chi ddim eich siomi ac os oes cyfle, ac
os yw’r eglwys ar agor, ewch i mewn i weld cofeb famor W.O Stanley yr
hynafiaethydd a’r arloeswr archaeoleg o Fon.
No comments:
Post a Comment