Mae ymateb ddigon positif wedi bod i’r rhaglen ‘Darn Bach
o Hanes’ a ddarlledwyd ar S4C yn ddiweddar yn edrych am y llysoedd colledig,
sef y llysoedd hynny oedd yn perthyn i Dywysogion Gwynedd yn ol yn y 12fed a 13eg
ganrif. Un o’r pwyntiau godwyd gan Dewi Prysor ar ddiwedd y rhaglen oedd
efallai fod lle i ni fel Cymry gymeryd mwy o ddiddordeb yn y safleoedd yma.
Rydym yn
son am safleoedd Cymreig, a dyma ni yn ol yn troedio llwybrau cyfarwydd mewn
ffordd. Rwyf yn ysgrifennu’r golofn yma ar ol treulio’r bore yn tywys criw o
Americanwyr o ardal Fflorida o amgylch Castell Caernarfon. Ie wir, castell “Seisnig”
ond wyddo’chi beth, fe dreulias ddipyn golew o’r amser yn trafod y ddau
Llywelyn, cyd-destyn y rhyfeloedd yn erbyn John, Harri III ac Edward 1af.
Y
cwestiwn ar flaen tafod y cyfeillion o America oedd nid hynt a helynt Edward
ond sefyllfa addysg yma yng Ngwynedd, oedd plant yr ardal yn cael eu haddysg
drwy gyfrwng y Gymraeg, pa ganran o’r boblogaeth oedd yn siarad yr Iaith? Dyma
oedd y cwestinau, cwestiynau am fywyd heddiw, am yr economi ac yn sicr iawn am
yr Iaith Gymraeg.
Felly er
ein bod yng Nghastell Caernarfon, roedd fy sgwrs yn gyflwyniad llawer mwy eang
na hanes y gwrthdaro rhwng Llywelyn ac Edward ym 1282. Lleoliad trawiadaol
hanesyddol, rhan o’r hanes yw Castell Caernarfon, darn bach o’r hanes a’r
cyd-destun bron os mynnwch, a does gennyf ddim problem yn y byd hefo arwain
teithiau o amgylch unrhyw safle hanesyddol.
Hanes yw
hanes a does dim modd “dewis ochr” a dechrau ymwrthod a rhan o’r hanes. Dydi
hynny ddim yn gweithio. Efallai mae’r pwynt yma eto, yw peidiwch a phoeni
cymaint am y safleoedd “Seisnig” (neu Gestyll Edward 1af yn benodol) ond ewch
allan i ddarganfod y safleoedd Cymreig, a fe all hynny fod “yn ogystal” yn
gellith, hefyd ynde, gwnewch y ddau –
dim o’i le a hynny. Mae na fwy i hanes Cymru na’r cyfnod yma wrthgwrs, ac os di
Edward 1af yn eich poeni gymaint a hynny ewch am dro i Tre’r Ceiri !
Yr hyn
oedd yn ddiddorol am y gwahoddiad i gyfrannu i ‘Darn Bach o Hanes’ oedd cael
mynd i ffilmio ar safle “Llys Dinorwig” ger Brynrefail. Rwan, dyma chi safle na
wyddwn i fawr amdano, yn sicr doeddwn rioed di bod yno am dro ac yn rhyfeddach
byth doeddwn ddim yn ei adnabod fel un o safleoedd Llys y Tywysogion ochr yn ochr
a Rhosyr, Aberffraw ac Aber (safle Ty’n y Mwd). Felly pleser mawr oedd cael dod
i adnabod y safle yma yn well.
Enw’r
fferm gyfagos yw ‘Fferm Llys’, felly mae awgrym amlwg yn yr enw fod rhywbeth o
bwys yma ond ar yr argraff cyntaf, mae’r darn yma o dir creigiog sydd yn
ymestyn allan i ddyffryn Caledffrwd yn ymdebygu i fryngaer fechan neu safle
amddiffynnol o’r Oes Haearn neu’r cyfnod Rhufeinig. Heb gloddio wrthgwrs
fedrith rhywun ddim bod yn sicr, ond wrth sgwrsio gyda’r ffermwr lleol am sut
roedd y tir yn y dyffryn yn arfer bod yn wlyb iawn mae’n gwenud synwyr fod yma
rhyw fferm fechan wedi ei hamddiffyn gyda clawdd a ffos.
Fe ellir
gweld y clawdd ar ffos o dan o mieri hyd at heddiw ond amhosib yw mynd i mewn
i’r “gaer” gan fod y tyfiant mor drwchus. Dyna yn sicr oedd fy argraff gyntaf
o’r safle. Ond wedyn sut mae esbonio’r waliau sydd offi fewn i’r gaer ?
Efallai
fod yma adeiladau o’r cyfnod Tywysogion neu o’r Canol Oesoedd sydd wedi ei
lleoli o fewn yr hen gaer. Hynny yw, fod yr adeiladau canol oesol yn gwneud
defnydd o safle sydd wedi bod yn amddiffynedig yn y gorffennol. Mae hyn yn
gwneud synnwyr ac yn sicr mi fydda’r daearyddiaeth yn factor.
Heddiw
gellir gweld darn o wal hynafol ychydig i’r gorllewin o’r gaer, sydd i’w gweld gyda
llaw bellach o fewn y maes carafanau, a mae’n bosib fod y wal yma yn
gysylltiedig a neuadd yn perthyn i Gruffydd Llwyd, Tregarnedd. Ond mae’r
adeiladwaith yma wedyn dipyn diweddarach na’r Tywysogion.
Mae
Leyland, Pennant ac eraill yn cyfeirio at y safle fel ‘Llys’ ond rhaid cyfaddef
mae anodd iawn yw gallu cysylltu Llywelyn ap Gruffydd er engraifft yn
uniongyrchol ar safle yma. Felly, mae elfen o ddirgelwch neu ansicrwydd ynglyn
a gwir hanes y safle yma. Mewn oes arall hefo digon o arian cyhoeddus o gwmpas
efallai byddai modd cloddio yma i gael gweld os oes unrhyw awgrym o ddyddiadau
ar gyfer y safle.
Hyd yn
oed hefo’r cestyll amlwg, mae yna ansicrwydd ar adegau pwy adeiladodd pa ddarn.
Safle Cymreig arall i mi ymweld a fo yn ddiweddar oedd Castell Dryslwyn yn
Nyffryn Tywi, rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Un o gestyll Tywysogion Deheubarth
oedd Dryslwyn a’r tebygrwydd yw mae adeiladwaith cerrig Rhys Gryg un o feibion
yr Arglwydd Rhys sydd i’w weld heddiw er fod cyfnodau o ail godi ac atgyweirio
wedi digwydd yno hyd at gyfnod Gwrthryfel Glyndwr.
Tra yn y
Brifysgol ym 1982, cefais gynnig i gloddio yn Nryslwyn ond roeddwn eisoes wedi
cytuno i gloddio i fyny yn y Chevoiots gyda Colin Burgess ar safle Oes Efydd.
Burgess oedd yr awdurdod ar yr Oes Efydd yn fy nyddiau coleg a roedd y cyfle i
gloddio hefo fo yn gynnig rhy dda. Ond heddiw dyma ddifaru ychydig na chefais y
fraint o gael cloddio ar y safle Cymreig hynod yma.
Efallai
mae un o’r prif ddigwyddiadau sydd yn cael ei gysylltu a Dryslwyn yw’r gwarchae
pryd daeth11,000, ie yn union, 11,000 o filwyr Seisnig yma i Ddyffryn Tywi i
ymosod ar Rhys am Maredudd. Roedd Rhys wedi arwain gwrthryfel yn erbyn y Saeson
ym 1287, pum mlynedd ar ol cwypm Llywelyn. Yn amlwg doedd y Saeson ddim am
ddioddef unrhyw wrthryfel pellach ond mae 11,000 o ddynion yn erbyn byddin fach
Rhys yn sylweddol yntydi.
Yn ol y stori bu iddynt
geisio tanseilio’r castell drwy dyllu twnel o dan y muriau ac wrth i’r
boneddigion ddod draw i weld y gwaith fe ddisgynnodd y twneli gan ladd nifer o
arweinwyr amlwg Edward 1af. Er hyn colli wnaeth Rhys ap Maredudd er iddo lwyddo
i ffoi yn iddo gael ei ddal yn 1292 a’i ddienyddio yn Efrog.
No comments:
Post a Comment