Digon anodd
yw cael at Tomen y Foelas (Cyfeirnod map SH 870522) bellach, mae’r safle dan
goed a mieri trwchus ond mae rhywun yn cael argraff o faint y domen o’r llwybr
ger ffermdy Foelas Uchaf rhyw hanner milltir tu allan i bentref Pentrefoelas ar
y ffordd B5113 am Nebo. Yn ol y son mae’r domen yn codi i uchder o 7.5medr ond
mae hyn yn cael ei atgyfnerthu yn sylweddol gan ffrwd Nant y Foel sydd yn
amgylchu’r domen ar yr ochr Ogleddol a ddwyreiniol.
O edrych ar y map OS mae nhw yn
cyfeirio at y domen fel y ‘Foel Las Motte’ a fferm arall cyfagos yw ‘Hen
Voelas’. Does fawr o hanes ar gael am y domen, felly cwestiwn amlwg yn syth yw,
a’i perthyn i’r Normaniaid wrth iddynt wthio i mewn i Ogledd Cymru neu efelychiad
diweddarach o’r adeiladawaith Normanaidd gan y Cymry yw’r safle yma ?
Yr hyn sydd yn cael ei gytuno,
efallai, yw fod y domen yn gweld diwedd ei hoes erbyn ddiwedd y ddeuddegfed
ganrif, oddeutu 1198-99 pan rhoddir darnau sylweddol o dir yn yr ardal yma i
Abaty Aberconwy gan Llywelyn Fawr. Mae’r rhodd yma o dir i Aberconwy gan
Llywelyn yn un o’r ffactorau hefyd wrth i ni geisio dyddio y twr canol oesol ar
ben Dinas Emrys. Mae’r ddadl yn pwysleisio’r hyn sydd yn digwydd wrth i
Llywelyn drosglwyddo’r tir ac felly a oedd angen di-gomisiynu’r cestyll fel
petae ?
Cerddais i fyny o bentref o Bentrefoelas
tuag at y domen gan ddilyn arwyddion pren “Llwybr Hiraethog”. Codwyd fy nghalon
yn sylweddol gan hyn, roedd golwg newydd ar yr arwyddion ac oleiaf felly mae
hyn yn arwydd fod rhywun yn rhywle yn dangos diddordeb yn ein henebion. Doedd
dim awgrym o’r pellter o’r pentref at y domen a braidd yn anelwig oedd y llwybr
ac yn wir i ba gyfeiriad roeddwn i fod i gerdded.
Fel dyn mapiau a dyn sydd bellach yn
hen gyfarwydd a chroesi caeau mwdlyd a choedwigoedd tywyll defnyddiais gyfuniad
o synnwyr cyffredin a synnwyr o le a chyfeiriad. Ond efallai fod angen gwneud
pethau yn ychydig haws i ymwelwyr ? Ar
ol croesi tri cae rwyf yn cyrraedd stad Hen Foelas ac yn anelu am y coed – a
dyna hi y domen. A bod yn onest mae bron yn amhosib gwneud allan lle roedd y
beili, sef y buarth, ond mae olion ffosydd ac amddiffynfeydd i’w gweld yng
nghanol y mieri.
Gweddol di-pwrpas yw dringo i gopa y
domen ond mae’n rhaid gwneud yn does. Bellach mae’r olygfa i lawr am y pentref
a dyffryn Merdddwr wedi ei golli oherwydd y coed ond yn amlwg roedd hon yn
safle drawiadol yn ol yn y ddeuddegfed ganrif. Ond rwan, mae rhywbeth arall o
bwys yma ar stad Hen Foelas. Yma mae’r arwyddion braidd yn gamarweiniol neu
efallai y dyliwn i awgrymu braidd yn “gam”. Eto gyda chydig o synnwyr cyffredin
a sylwi ar lwybr troed newydd mae rhywun yn cyrraedd ‘Carreg Llywelyn’, ond o
ddifri mae’r arwyddion yn awgrymu fod angen cerdded yn bell i’r chwith o’r
llwybr – fedra’i ond mynegi barn fod yr arwydd yn gam !
Y ddadl arall wrthgwrs sydd wedi
cael ei chrybwyll yn y golofn hon sawl gwaith yn ddiweddar yw’r diffyg “sylw”
neu’r diffyg “ymwybyddiaeth” o’n safleoedd Cymreig, pwyslais ar y gair Cymreig
wrthgwrs. Faint ohonnom sydd yn gwybod am “Garreg Llywelyn” ? Pam mor amlwg
yw’r garreg hon – dyna chi gwestiwn da.
Mae’r gwreiddiol bellach yng
nghasgliadau’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a copi o’r garreg sydd i’w
gweld heddiw ym Mhentrefoelas, er mae golwg ddigon hynafol ar y garreg gyda
mwsogl drosti a dim modd o gwbl darllen unrhyw ysgrifen. Hon yw’r garreg “LEVELINUS” neu Llywelyn ac yn
ol Coflein yr ysgrif arni yw
‘IN XRISTO EST PRO HOC LAPIDE IN BAL
EM(RYS) FORTITUDINE BRACHI CE(LE) BR(IS) LEWELINUS PRINCEPS NORTH (WALLIE)’ .
Mae
cofeb fechan ger y garreg yn nodi fod Col. Wynne Finch wedi trosglwyddo’r
gwreiddiol i’r Amgueddfa Genedlaethol ym 1935 er mwyn ei chadw yn saff. Does
dim gair o Gymraeg ar y gofeb hon a mae amrywiaeth rhwng yr ysgrif a noder ar y
gofeb hon a’r hyn sydd ar safle we Coflein. Rwyf yma wrth iddi dywyllu. Mae cwn
y fferm yn cyfarth o bell. Does dim byd yma go iawn sydd yn esbonio arwyddocad
y garreg. Anodd dychmygu fod yma fawr o ymwelwyr. Anodd gwybod beth yn union
i’w feddwl.
Yn ol
rhai, mae’r garreg yn cofio am y rhodd o dir gan Llywelyn i Abaty Aberconwy ac
os felly yn dyddio oddeutu 1198-99 neu yn ddiweddarach wrthgrws; mae Llywelyn
yn fyw hyd at 1240. Mae son hefyd fod cyfuniad o’r Gymraeg a’r Lladin ar y
garreg. Rwyf angen gwybod mwy, bydd ebost yn cael ei yrru i’r Amgueddfa
Genedlaethol yn sicr.
Unwaith
eto, dyma dro fach fydda’n gweithio ar bnawn Sul, ddim rhy bell a rhwng y domen
a’r garreg, digon o bethau diddorol i’w gweld. Cyfuno hynny hefo’r Eglwys a dro
bach o amgylch Pentrefoelas, pawb yn hapus.
Yr hyn
sydd yn poeni rhywun fwyaf yw pam fod cyn llied o sylw i’r garreg hon. Ydi mae
hi ddigon di-nod yr olwg, a does dim gobaith mul o ddarllen unrhywbeth arni,
ond mae yma stori, a’r stori a’r drafodaeth yw’r peth diddorol, a’r peth
pwysig. Unwaith eto, rhaid gofyn cwestiynau ynglyn a faint o ddiddordeb rydym
yn ddangos yn ein hanes.
Dim
digon da rhoi bai ar y system addysg neu
y pwyslais “honedig” ar Gestyll Edward 1af, does dim yn ein rhwystro rhag ymweld
a Tomen y Foelas a Charreg Llywelyn heblaw arwydd pren braidd yn gam a llwybr
braidd yn anelwig.
No comments:
Post a Comment