Mae yna ddau o gewri y Genedl Gymreig i’w gweld yn
arddangosfa gwaith yr arlunydd Christopher Williams yn Amgueddfa ac Oriel
Gwynedd ym Mangor, y ddau gawr yw Lloyd
George (wrth reswm) a’r llall yn drawiadol iawn yn ei ffurfwisg archdderwyddol yw
Hwfa Mon. Rwan wrth gerdded i mewn i’r Oriel dyma’r ddau lun mwyaf o ran maint beth
bynnag ond dwi’n credu bod hi’n dal yn deg cyfeirio at y ddau yma fel Cewri’r
Genedl.
Mae’r
portread anferth o’r Parchedig Rowland Williams (Hwfa Mon) yn fy atgoffa o
gerflun Darwin ger y Llyfrgell yn yr Amwythig, y ddau mewn oed, yn urddasol, yn
ddynion sydd wedi byw ac wedi cyflawni a rhywsut, yn wladweinyddol a bron medrwn
gynnig, yn Frenhinol yn achos Hwfa Mon. Fy argraff cyntaf o Hwfa Mon yw y byddwn
yn amharod iawn i ddecharau dadlau hefo petae ni wedi bod yn gyfoedion ond yr argraff nesa yw – “sut mae o wedi cadw
ei wallt ?” mae ganddo fop o wallt gwyn yn llifo yn ol dros eu glustiau.
Efallai
fod y wisg archdderwyddol yn cyfeirio a lliwio’r meddwl neu efallai mae’r
cefndir arfordirol llwm a bygythiol yw’r rheswm ond fe all rhywun ddychmygu yn
hawdd iawn lun tebyg o Iwl Cesar yn eistedd ar ei orsedd. Mae’r cefndir mor
dywyll a rhai o luniau Turner neu Rembrandt ac efallai wir mae dyna oedd bwriad
Williams. Rhyfedd wedyn yw darganfod fod Hwfa Mon wedi “eistedd” ar gyfer y
llun yn ei gartref yn Rhyl – nid dyna’r olygfa o’i ystafell fyw yn sicr.
Bydd
nifer ohonnom yn gyfarwydd a Christopher Williams oherwydd y llun “Deffroad
Cymru” sydd i’w weld wrthgwrs yn un o ystafelloedd cyfarfod Institiwt
Caernarfon, nid efallai yr ystafell orau o ran gwerthfawrogi’r llun ond gwych o
beth fod ganddym Christopher Williams yn Institiwt Caernarfon yn sicr. Sawl
gwaith rwyf wedi mynychu cyfarfodydd yn yr ystafell fechan hon i drafod
materion digwyddiadau a busnes yng Nghaernarfon a bob amser rwyf bron a marw
isho torri ar draws y drafodaeth – “gyda llaw ydi pawb wedi gweld Deffroad
Cymru ?”
Dydi
Deffroad Cymru ddim yn yr arddangosfa hon, mae’r ffram rhy fawr, felly ewch
draw i Institiwt Caernarfon unrhywbryd ond i ddychwelyd i Fangor, yn ogystal
a’r portread o Lloyd George mae llun arall sydd a chysylltiad agos a LL.G sef y
llun o Frwydr Coedwig Mametz, 11 Gorffennaf 1916. Cyflogwyd Williams i fod yn
artist rhyfel am gyfnod byr ac i ymweld ac erchylltra’r Rhyfel Mawr yn ardal
Coedwig Mametz. Mae un o’r lluniau yng Nghastell Caernarfon ond mae darlun
arall llawer llai ei faint yn yr arddangosfa hon.
Yn y
llun cawn gawlach o gyrff gwaedlyd, Almeinig a Phrydeinig gyda’r prif gymeriad,
y milwr Prydeinig, sydd wedi hen golli ei helmed, yn camu dros gorff gwaedlyd
un o’i gyd filwyr i drywanu milwr Almaeneg gyda’i bayonet. Gwelir tan ar y
gorwel fel rhyw fachlud rhyfelgar a does dim ond poen a braw (a baw) ar wyneb y
milwyr druan. Dangosais y llun i un o’r meibion – dyma erchylltra a
gwallgofrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n lun trawiadol. Rydym yn syllu yn
ddistaw.
Ar ochr
arall yr Oriel gwelir ochr arall i waith Williams. Rhain eto yn ddelweddau
cyfarwydd, y lluniau o deulu Williams ar draeth Bermo, merched y teulu yw
rhain, yn darllen ac yn ymlacio ar lan y mor. Ond does gan r’un ohonnynt
wynebau go iawn, does dim modd adnabod y cymeriadau, mae rhain mor wahanol i’r
milwyr yn Mametz lle mae’r wynebau mor allweddol i’r llun. Lluniau lliwgar a hapus yw rhain er hynny,
lluniau sydd yn atgoffa rhywun o ddyddiau braf, lluniau i godi’r galon, lluniau
cyfarwydd ar sawl ystyr.
Mor
wahanol yw’r lliwiau coch a glas lliwgar a’r heddwch a’r diniweidrwydd ar
draeth Bermo ym 1917 o gymharu ar llun o Goedwig Mametz ym 1916. Anodd dychmygu
fod y Rhyfel Mawr yn dal i fynd yn ei flaen. Does dim dwy waith fod lluniau
Williams yn hawdd ar y llygaid er fod cryn amrywiaeth o’r portreadau i’r
tirweddau a’i waith wedyn yn Venice a’r gwaith cynnar sydd yn fy atgoffa o
waith y cyn-Raffaeliaid.
Mynychais
ddarlith gan Robert Meyrick o Brifysgol Aberystwyth a chael cyfle i ddeall
ychydig mwy am Christopher Williams yr arlunydd. Yn wir mae Meyrick wedi
cyhoeddi llyfryn sydd yn gyfuniad o hanes a lluniau lliw i gyd fynd a’r
arddangosfa hon a ddechreuodd ei thaith yn gynharach eleni yn y Llyfrgell
Genedlaethol.
A dyna
chi’r pwynt cyntaf, o ystyried fod Williams wedi cael y fath gefnogaeth gan
Lloyd George, ac yn wir wedi peintio LL. G sawl gwaith yn ogystal a Margaret,
onid rhyfedd felly fod cyn llied o sylw wedi bod i Williams dros y blynyddoedd
canlynol. Un cynnig gan Meyrick yw fod Williams yn gymeriad arferol, hynny yw
yn artist wrth ei waith, yn arlunydd “normal” o gymharu ac Augustus John a’i gyfaill
James Dixon Innes wrth iddynt yfed a mercheta eu ffordd at Arenig Fawr.
Gwyliwch y rhaglen ddogfen ardderchog “The Mountain That Had To Be Painted” am
hyn gyda sylwebaeth gan yr alunydd cyfoes Iwan Gwyn Parry.
Efallai
fod angen i ni, ac yn wir yn hen bryd i ni ail sefydlu enw da Williams ar y
llwyfan Genedlaethol, mewn ffordd dyna oedd bwrdwn darlith Meyrick a roedd lled
beirniadaeth ar y Sefydliadau Cenedlaethol am anwybyddu Williams. Ar y llaw
arall bu teulu Williams yn hael iawn yn dosbarthu ei waith i neuaddau tref fel
gyda achos Institiwt Caernarfon.
Hen
stori gyfarwydd oedd hon i mi, dydi’r Cymry a’r Sefydliadau Cymreig ddim
ymhlith y mwyaf parod i ddathlu y talentau sydd ganddym o fewn Cymru, yn
hanesyddol mwy na heddiw gwaetha’r modd. Petae Williams ond wedi bod yn fwy o
rebal a wedi ymuno a John ac Innes ??????
No comments:
Post a Comment