Fe soniais yn y golofn yr wythnos dwetha (Herald Gymraeg 1
Awst 2012) am y gwaith cloddio diweddar gan Brifysgol Bangor ar safle Oes
Haearn Cynnar Meillionydd ar ochr orllewinol Mynydd Rhiw ym Mhen Llyn. Pnawn
Mercher roeddwn yn ol ym Meillionydd i groesawu Dosbarth WEA Bryncroes, dyma’r
dosbarth sydd yn cael sylw mewn llyfr, sef llyfr Elfed Gruffydd ‘Llyn’. Pwrpas
yr ymweliad oedd i ofyn ambell gwestiwn iddynt.
Roedd
yn bnawn braf a threuliwyd dwy awr hamddenol yn cerdded o amgylch y safle yn
trafod amaethu yn yr Oes Haeran, lle byddai’r dwr wedi dod ? a beth oedd pwrpas
y cylchfur-dwbl ? Yr hyn sydd yn amlwg i mi wrth deithio hyd a lled y wlad yn
darlithio yw fod gan bobl leol gyfraniad mawr i’w wneud i’r Byd Archaeolegol,
yn sicr o ran gwybodaeth lleol ond hefyd o ran gofyn y cwestiynnau sydd angen
eu gofyn.
Mae rhan o hyn yn dod o brofiad bywyd a
synnwyr cyffredin ond hefyd yn sicr yn y Byd Amaethyddol a’r Byd Crefftau megis
y gof neu’r saer maen mae yna gwestiynnau amlwg o beth fyddai wedi bod yn
ymarferol 2,500 o flynyddoedd yn ol. Does dim disgwyl cael ateb i bob cwestiwn
ond oleiaf mae’r cwestiynnau yn cael eu holi. Fel byddaf yn dweud yn aml iawn –
dydi’r archaeolegwyr ddim yn ffermwyr – felly mae angen mewnbwn a phrofiad y
ffermwyr go iawn os am ddehongli safleoedd amaethyddol – hyd yn oed rhai 2,500
mlwydd oed.
Y
Sadwrn cynt roeddwn ar ben Tre’r Ceiri hefo 34 o bobl oedd wedi dod ar daith
o’r gaer Rhufeinig yn Segontium ac ar fws wedyn draw i Lanaelhaearn. Roedd rhyw
naws trip Ysgol Sul iddi, pawb yn clebran, pawb yn frwdfrydig ac eto (diolch
byth) y tywydd yn braf. Trefnwyd y trip gan CADW, sydd wedi bod yn ymdrechu yn
galed eleni i ddod a digwyddiadau i Segontium. Gyda grwp cymysg, naturiol oedd
fod rhai yn brasgamu yn eu blaen tra roedd eraill yn ei chymeryd hi fwy dow
dow, ond y cyfarwyddyd oedd fod pawb i aros ger y bwrdd dehongli cyn mentro i
mewn drwy’r brif fynedfa.
Yma
cafwyd ein cinio, do fe ofynais os oedd pawb awydd cinio, ond cwestwin dwl iawn
oedd hwn, roedd y bocsus bwyd ar agor yn barod erbyn i mi ddal fynny hefo’r
ceffylau blaen. Mae yna rhywbeth diddorol iawn am y syniad yma o “bicnic” yn yr
awyr agored. Rhaid fod pob plentyn wedi profi hyn, wedi mwynhau hyn, un o
bleserau syml bywyd, fel mynd i lan y mor, a dydi’r pleser ddim yn ein gadael
nacdi ? Dyma eistedd ar garreg ac ymuno yn yr hwyl, y sgwrs, y drafodaeth – ac
ydi mae’r bechdanau llawer gwell tri chwarter ffordd fyny mynydd !
Criw
cymysg oedd gennyf o ran yr Iaith, felly roedd angen cyflwyno yn ddwy-ieithog.
Byddaf yn cyflwyno yn y Gymraeg gyntaf bob amser ac yn pwysleisio wrth ymwelwyr
neu’r di-Gymraeg fod hyn yn rhan o’r profiad o werthfawrogi Cymru. Does neb
byth yn cwyno. Criw cymysg oedd gennyf
hefyd o ran gwybodaeth er fod pawb yn rhannu brwdfrydedd a diddordeb felly
roedd angen rhoi Tre’r Ceiri yn ei gyd-destun hanesyddol.
Er ein
bod yn son am Dre’r Ceiri fel bryngaer Oes Haearn, mae’n debyg fod defnydd o’r safle yn ystod y Cyfnod Rhufeinig gan y
brodorion Celtaidd. A dyma chi gwestiwn diddorol yn codi yn syth, rhyw bymtheg
milltir sydd yna rhwng Segontium a Tre’r Ceiri, yn wir mae’r Eifl i’w weld yn
glir o brif fynedfa De-orllewin Segontium. Beth oedd y drefn felly – sut fod
llwyth Celtaidd wedi cael llonydd i fyw mewn Bryngaer a hynny mor agos i brif
ganolfan y Rhufeiniaid yn y Gogledd-orllewin ?
Y joc
ofnadwy o wael, a dwi’n defnyddio hon bob tro, ac yn cael pobl i chwerthin bob
tro, yw fod y Rhufeiniaid yn gwybod yn well na mentro lawr i Ben Llyn – fedra
nhw ddim gobeithio cael trefn arnynt ! Ymddiheuraf, comediwr fydda’i byth !
Felly oes modd i ni grybwyll rhyw fath o ddealltwriaeth rhwng llwythi Llyn a’r
Rhufeiniaid ? Oedd rhaid i bobl Llyn dalu trethi ar ffurff cynnyrch amaethyddol
i’r Gormeswyr newydd ?
Wedyn
mae maint Tre’r Ceiri, 150 o gytiau crynion, y waliau anferth, poblogaeth
oddeutu 400 neu fwy sgwn i ? Ac a oedd Tre’r Ceiri yn safle parhaol neu lloches
mewn cyfnodau o fygythiad ? Yn sicr mae’r dwr yn codi yma ar ochr Ogleddol y
gaer – felly roedd ganddynt ddwr. Fy nheimlad i yw fod hon yn gaer rhy fawr,
gormod o gytiau cadarn i fod yn safle dros dro – efallai fod yma dref gaerog,
dechreuad y traddodiad dinesig – pobl yn cyd fyw – yn sicr mae 150 o gytiau
ddipyn mwy na nifer o bentrefi heddiw, gan dderbyn fod pob un o’r 150 cwt ddim
mewn defnydd ar yr un pryd ond wedyn mae dal yn gabnolfan fawr.
Yr hyn
oedd yn amlwg, heblaw’r ffaith fod pawb yn mwynhau mynd am dro oedd fod pawb
mor barod i drafod ac o ofyn cwestiynau. Nid yn unig fod pobl yn gwerthfawrogi
treftadaeth Cymru ond mae yma berchnogaeth, ein cyn-deidiau oedd yma a braint a
phleser oedd cael arwain pobl hefo’r fath ymroddiad a pharch tuag at Hanes
Cymru.
No comments:
Post a Comment