Bob hyn a hyn mae rhywun yn mynychu darlith ac yn cael ei
ysbrydoli a dyma yn union ddiwgwyddodd i mi ychydig yn ol wrth fynychu seminar
gan Angharad Wynne. Mae manylion Angharad i’w gael ar angharadwynne.com ond yr
hyn oedd o dan sylw oedd sut mae hyrwyddo a hybu twristiaeth drwy bwysleisio a
datblygu unigrywedd ac eithriadrwydd y Lle. Hynny yw, beth sydd yn gwneud lle
yn arbennig, yn wahanol, yn atyniadol – y gwahanol yw’r pwynt gwerthu.
Yn
amlwg i ni gyd, mae’r Iaith Gymraeg yn ei hyn yn cynnig rhywbeth eithriadol,
arbennig ac i bob pwrpas unigryw i bobl sydd yn ymweld a Chymru, oes mae yna
wledydd eraill gyda ieithoedd “lleiafrifol” ond does nunlle arall gyda’r
Gymraeg (onibai am Patagonia wrthgwrs) ac un o’r cwestiynau a godwyd gan
Angharad oedd sut mae hybu neu hyd yn oed gwerthu’r Iaith, fel atyniad.
O brofiad, rwyf yn gwybod fod teithio dramor
gyda grwpiau roc Cymraeg, (oedd ond yn canu yn Gymraeg pryd hynny yn yr 80au /
90au cynnar), yn creu pwynt trafod, yn rhywbeth hollol wahanol, yn hawlio sylw.
Rwyf o hyd wedi dadlau fod yna fwy o fanteision canu yn Gymraeg dramor na sydd
yna o fentro yn yr Iaith fain. Mae’r ffaith fod rhywun neu rhywbeth yn wahannol
o fantais, yn sefyll allan – pwy sydd isho popeth ru’n fath ? Ateb : Saeson
sydd eisiau pysgodyn a sglodion yn Sbaen ……….. dweud dim mwy. Hynny yw, fe
wnaethom yrfa yn y Byd Pop Rhyngwladol drwy bwysleisio ein arwahanrwydd, ein
gwahaniaeth, ein Cymreictod a’r Iaith (o leiaf am gyfnod).
Rhywbeth arall a godwyd gan Angharad
oedd yn taro tant fel petae oedd y syniad yma fod prinder o gerddoriaeth
Cymraeg a Chymreig i’w glywed yn y bwytai, gwely a brecwast a chanolfannau o
amgylch Cymru. Do fe chwaraewyd dipyn ar y Stereophonics a’r Manics ym mhob
math o lefydd annisgwyl yn ystod cyfnod Cwl Cymru ond go iawn, petae rhywun yn
stopio am banad yn Rhaeadr fory – be di’r siawns y bydd 9Bach neu Cowbois Rhos
Botwnnog i’w clywed yn y cefndir ? Yn union !
Onid y Super Furry’s wnaeth y
pwynt yn gymharol ddiweddar fod siopau prif strydoedd dinasoedd Cymru yn union
ru’n fath a siopau unrhyw ddinas yn Lloegr – beth sydd yn gwneud y dref neu’r
ddinas Gymreig yn wahanol ? Wrthgwrs y ddadl yma yw fod yr archfarchnadoedd a’r
MacDonaleiddio (diolch Angharad Tomos am hwn) bellach yn fygythiad diwylliannol
ar raddfa Byd eang nid yn unig yng Nghymru. Ar y llaw arall cefais bleser yn
ddiweddar o aros dros nos yng Ngwesty’r Meirionydd yn Nolgellau a mae twf y
gwely a brecwast bwtic yma yng Nghymru yn rhywbeth hynod bositif. Roedd y
fwydlen hyd yn oed yn nodi fod y wyau o fferm yn Llangadfan. Pam mor dda yw
hynny !!!!
Wrth i Angharad Wynne gyflwyno’r
math yma o syniadau yn ei ffordd hawddgar, bwyllog a hynod ddymunol, dyma godi
calon ychydig, oes mae pobl eraill hefyd yn gweld fod angen hyrwyddo mwy ar ein
diwylliant cyfoes, yn enwedig yn y sector dwristaidd – a hynny er budd
economaidd i’r Wlad. Bu son mawr dros y blynyddoedd, a chredaf fod hyn yn
parhau i fod ar yr agenda – am y syniad yma o Dwristiaieth Diwylliannol.
Mewn realiti mae’r bobl sydd yn
son am hyn o fewn y Cynulliad a phwyllgorau di-ri yn tueddi i droi mewn
cylchoedd tra wahannol, os nad llwyr arwahan, i’r bobl sydd yn creu diwylliant
Cymraeg a Chymreig, yn sicr o safbwynt y Byd Pop. Prin iawn yw’r dystiolaeth
fod y Byd Pop Cymraeg yn elwa o’r fath drafodaethau, efallai fod y Byd Celf yn
haws i’w drin – ond mae roc a rol yn dal i fod braidd yn anghyfforddus iddynt.
Mae’r cerddorion i raddau helaeth
yn parhau i fod yn dlawd er mawr ganmoliaeth am eu dawn gan y gwybodusion –
beth yw’r gorau, y parch ta’r geiniog ? Prin iawn yw’r cerddorion Cymraeg sydd
yn gallu ychwanegu at eu hincwm drwy beth bynnag mae nhw’n alw yn Dwristiaeth
Diwylliannol dybiwn i. Os am barhau i gael Diwylliant Cymraeg cyfoes arloesol a
chyffrous bydd yn rhaid ehangu economi y peth – fel arall hobi gan bobl
dalentog fydd o, yn aros eu tro i gael swydd gan y Cyfryngau. Mae’r ddadl
economaidd mor hen a Dafydd El, wedi’r cwbl un o ddamcaniaethau Dafydd El oedd
hyn o ran achub y Gymraeg drwy ddatblygu economi Gymraeg.
Ac i
droi yn ol at y bwytai a’r gwely a brecwast, gyda thranc y CD fel cyfrwng, onid
oes dadl felly hefo’r holl filoedd o CDs Cymraeg sydd heb werthu, a bellach,
fydd ond yn hel llwch – dwi’n gwybod am hyn, mae gennyf tua 5,000 ohonnynt yn
selar y ty acw – oni ddylid cael nawdd gan y Cynulliad i wneud rhywbeth gwell
hefo’r CDs na phydru mewn selerau tamp yn strydoedd cefn Caernarfon ? Beth am
brosiect ail-gylchu ond fod modd eu hail
gylchu i fwytai, gwely a brecwast a chaffis bach y wlad. Wyddoch chi beth – dwi
ddim yn siwr os dwi’n tynnu coes neu o ddifri am hyn ?
Maddeuwch
i mi yma. Teimlaf fy hyn yn rwdlan, mae’n anodd sgwennu am Ganu Pop neu
Diwylliant Cymraeg heb i’r gwaed ddechrau berwi oherwydd rhwystredigaeth ond
dwi’n gwybod fod gennyf bwynt dilys yma. Wyddoch chi beth, os cewch gyfle ewch
i wrando ar Angharad Wynne yn trafod y syniad o le – mae hi gyda’r ddawn o
gyflwyno’r peth yn bwyllog a rhesymol, mewn ffordd sydd yn ysbrydoli rhywun.
No comments:
Post a Comment