Thursday, 8 March 2012

Ann Griffiths v Real Powys Herald Gymraeg 7 Mawrth 2012




Mae ambell i wahoddiad yn rhy dda i’w wrthod, y cynnig daeth i law oedd gan yr awdur Mike Parker i mi ymuno ag e i gerdded ar hyd llwybr Ann Griffiths o Bont Llogel draw i Ddolanog ar ddiwrnod hyfryd, hyfryd o fis Fedi ar hyd yr hyfryd, hyfryd Efyrnwy yn yr hyfryd, hyfryd rhan yma o Faldwyn. Parker wrthgwrs yw awdur llyfrau fel  “Neighbours From Hell, English Attitudes to the Welsh” (y Lolfa) a “Map Addicts” (Collins).

                Rwan go iawn, bu i ni fynd ar y daith yma ar y 3dd o Fedi, 2010 ond roeddwn wedi gaddo na fyddwn yn sgwennu am y daith nes ei fod e yn cyhoeddi ei lyfr diweddaraf “Real Powys” (Seren), sydd allan nawr.  Blwyddyn a hanner yn ddiweddarach, dwi ddim am ail adrodd hanes y daith yn ei chyfanrwydd a thecach efallai fydd rhoi sylw i lyfr hyfryd, hyfryd  Parker.

                Mae’n  lyfr teithio amgen os mynnwch, wedi ei selio ar y ddamcaniaeth lled radicalaidd o’r enw seico-ddaearyddiaeth, sef i bob pwrpas dilyn eich trwyn heb ormod o gynllunio. Yn ol y son bu cryn ddadlau rhwng Parker a golygydd y gyfres, Peter Finch  (sydd yn cynnwys  Real Cardiff, Real Merthyr, Real Newport) os oedd seico-ddaearyddiaeth yn bosib yn nghefn gwlad yn hytrcah na’r amlwg dref neu ddinas. Yn amlwg bu Parker  yn llwyddianus yn ei ymdrechion i ddarbwyllo Finch.

                A dweud y gwir, wrth i mi drafod hyn a Parker, mae’n hollol amlwg i mi fod seico-ddaearyddiaeth yn gweithio yn unrhywle, yn wir fe sgwennais golofn i’r Herald rhyw flwyddyn yn ol yn gwneud hyn yng Nghaernarfon gan gerdded o’r Maes i’r Gaer Rhufeinig yn Segontium gan nodi unrhywbeth o ddiddordeb oedd ar hyd y daith. Felly mae seico-ddaearyddiaeth yn gweithio tu allan i’r cyd-destyn trefol Mr Finch !

                Un o’r peth doniolaf a ddigwyddodd i ni ym Mhont Llogel ar y bore hynny o Fedi oedd fod Parker wedi awgrymu ein bod yn cyfarfod ym maes parcio’r Comisiwn Coedwigaeth am 11 y bore. Ddigon hawdd. Dwi’n cyrraedd mewn da bryd ond dim golwg o Mike. Mae Mike hefyd yn cyrraedd mewn da bryd a dim golwg o Mwyn ? Dim signal i’r ffon symudol feklly ar ol hanner awr o sefyllian dyma’r ddau ohonnom yn penderfynu cerdded am dro i ganol Pont Llogel a dyna un o’r digwyddiadau “Dr Livingstone hynny”. Pwy fydda wedi disgwyl i le mor fach (a hyfryd) a pont Llogel i gael dau maes parcio, un naill ochr i’r pentref.

                Go dda rwan, Parker yn ddyn mapia a finna yn dywysydd ac o’r ardal yn wrieddiol ! Do fe chwerthodd y ddau ohonnom, nid yn unig am fod y peth yn ddoniol ond dwi’n amau’n gryf iawn fod y ddau ohonnom wedi teimlo braidd yn wirion o feddwl ein diddordebau mewn mapiau ! Ta waeth, un peth oedd yn taro rhywun wrth i ni gychwyn ar hyd Llwybr Ann Griffiths oedd pam mor hollol llonydd oedd yr Efyrnwy. Roedd y dwr yn frown, tybiaf oherwydd y mawn yn yr ucheldir, ond roedd yr afon fel awgryma Gwilym Colwlyd yn dangos lun y dydd ar len y dwr.

                Y distawrwydd llethol oedd y peth arall oedd yn amlwg, dim swn y Byd, dim swn ceir, dim ond ambell i ddafad neu fran, unwaith eto, dyma wirioneddol deimlo fod yr enaid yn cael llonydd yma, yn wir, fod posib i enaid gael llonydd yma – mae hynny bellach yn beth prin a rhywbeth i’w drysori.  Yn y bennod yma, sydd a’r penwad (i’w disgwyl yndoedd) “Gwlad y Plygain, Gwlad y Pync” mae Parker yn defnyddio ein sgwrs fel sail i’r bennod, felly ar hyd lan yr Efyrnwy dyma roi y Byd yn ei le, do fe fu rhaid trafod Plygain ar hyn a elwir gan Parker fel “storm in a tea cup” sef darllediad Radio Cymru o artistiad gwerin cyfoes yn dehongli Plygain, a mae awgrym ganddo yn y llyfr ei fod yn credu fy mod yn feistr ar greu digwyddiadau dadleuol a hynny yn fwriadol er mwyn creu sylw. Ymlaen a ni ………….

                Wrth i ni gyrraedd pentref Dolangog, dyma fentro i fewn i Gapel Coffa Anne Grifiths, y tro cyntaf i mi, rhag fy nghywilydd, ond heb os dyma oedd uchafwbynt y daith o ran swrealaeth a seico-ddaearyddiaeth. Astudiodd y ddau ohonnom gerflun Ann Griffiths, y cerflun gwyn hynny, yr unig ddelwedd o Ann, ac yn ol y son, dim sylwedd i’r ddelwedd, dim ffynhonnell, dim llun, dim portread arall o Ann.

                Agorwyd y capel ym 1904 fel capel i goffau Ann ac yn bensaerniol mae’n perthyn i’r dylanwad Celf a Chrefft, sydd efallai yn anarferol i gapel anghydffurfiol. Adeiladwyd y capel ar safle hen gapel Methodistaidd Salem a adeiladwyd ym 1830 ac a adnabyddir fel “Ty’r Ysgol” ond a oedd mewn fath gyflwr erbyn dechrau’r Ugeinfed Ganrif fel roedd rhaid ei ddymchwel.

                Un diddorol yw delwedd Ann, does dim modd weud os oed hi’n ferch ddel neu ddim, mae’n ddelwedd eiconaidd wrthgwrs, achos dyna’r unig un, ond does dim awgrym o “hwyl” a fe dreuliodd y ddau ohonnom weddill ein amser cinio yn trafod Ann, sut ferch oedd hi, y dewrder mewn ffordd wrth iddi adael yr Eglwys yn Llanfihangel yn Ngwynfa, cefnu a chrefydd ei theulu  a throi at y Methodistiaid – dipyn o ferch yn sicr.

                Un peryg yr olwg oedd John Hughes, Pontrobert, cytunodd y ddau ohonnom na fydda’r un ohonnom yn dadlau hefo John Hughes ar noson dywyll ar strydoedd cefn Pontrobert cyn i ni adael Dolanog a dringo Allt Dolanog tuag at yr hen gaer Oes Haearn. Bu i mi ymweld a chaer Allt Dolanog yn ystod fy nyddiau coleg gan i mi selio fy nhraethawd hir ar Fryn Gaerau Dyffryn Banw a’r Cylch. Ar y diwrnod hyn mae’r rhedyn yn uchel, ffordd hir i fynd a Dolwar Fach angen  cael tic yn y bocs felly gwybio heibio naethom ond gan godi llaw (neu het) ar hen bobl Celtaidd Dolanog.

                I droi yn ol at lyfr Parker, Real Powys mae’n lyfr sydd yn gorlifo gyda perlau bach, llefydd bach diddorol di-arffordd, anweladwy, angof, llefydd angen cyfeirnod map – llefydd bach diddorol led led Powys o’r De i’r Gogledd, Dwyrain i’r Gorllewin. Prynwch y llyfr ac ewch am dro !

No comments:

Post a Comment