Mae hanes stad Tan y Bwlch ger Maentwrog yn mynd a ni yn ol i gyfnod gwr o’r enw Ieuan ap Iorwerth ap Adda yn y G16 a’r son yw mae Ieuan a’i ddisgynyddion oedd yn gyfrifol am ddechrau casglu tir ac eiddo yn yr ardal hon a dyma ddechrau wedyn ar Stad Tan y Bwlch. Ond mae awgrym pellach fod y teulu yn hanu o linach Collwyn ap Tangno, un o bymtheg llwyth Gwynedd a fod cysylltiad hefyd yn mynd yn ol i gyfnod y Tywysog Gruffudd ap Cynan.
Mewn ffordd mae’n dibynu pam mor bell yn ol mae rhywun yn dymuno mynd, ond i’r rhan fwyaf ohonnom, cysylltir Plas Tan y Bwlch hefo’r teulu Oakley, perchnogion y Plas o 1789 hyd at 1961 a’r cysylltiad amlwg wedyn hefo Chwarel yr Oakley ym Mlaenau Ffestiniog. Gwr o Stafford oedd yr Oakley cyntaf, William, a thrwy briodi i mewn i deulu Tan y Bwlch daeth y teulu Oakley i fod yn berchnogion y stad.
Fel hogyn ysgol yr ymwelais a Tan y Bwlch am y tro cyntaf. Roeddwn wedi cael caniatad i gael amser i ffwrdd o’r ysgol er mwyn mynychu cwrs penwythnos ar Fryn Gaerau. Cofiaf yn iawn gefnogaeth fy athro Daearyddiaeth, Arthur Jones, a oedd hefyd yn ddirpwry yn yr Ysgol, i mi gael mynd wedi’r cwbl archaeolegydd oeddwn isho fod a roedd hwn yn gyfle da i ddysgu mwy.
Arweinydd y cwrs penwythnos hwnnw oedd archaeolegydd o’r enw Peter Crew, dyn a wnaeth argraff fawr arnaf o fewn y tridiau wrth i ni gamu drwy’r niwl trwchus i fryngaerau Garn Boduan a Charn Fadryn ym Mhen Llyn. A dyma ddychwelyd penwythnos yn ol ar gyfer Ysgol Undydd “Archaeoleg yng Ngogledd-Orllewin Cymru” gan Ymddiriedoaleth Archaeolegol Gwynedd ar y cyd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. A dyna chi wledd o siaradwyr.
Roedd y siaradwyr wedi eu “pacio fel sardins” go iawn, hanner awr yr un, un ar ol y llall, dan gadairyddiaeth abl swyddogion GAT a’r Parc. Cafwyd sgwrs am y cysgod Mesolithig ar Carreg Hylldrem ger Croesor gan Gary Robinson, trafodaeth am gytiau crynion ac anheddiadau Rhiwgoch ger Harlech gan Jane Kenny ac wrthgrws diweddariad ar waith Meillionydd, Mynydd Rhiw gan Dr Kate Waddington o Brifysgol Bangor.
Diddorol hefyd, a newydd i mi, oedd sgwrs Sian James ar ei gwaith ymchwil i’r esgyrn a ddarganfyddwyd ym mwyngloddfa copr Oes Efydd y Gogarth. Ar y llaw arall cyfarwydd iawn i mi oedd sgyrsiau Dave Hopewell ar safle Rhufeinig Tai Cochion a sgwrs John Roberts o’r Parc ar Ty’n y Mwd, Abergwyngregyn – sef un o lysoedd Tywysogion Gwynedd. Fe gloddais ar y safleoedd yma a mae’n rhaid fy mod wedi clywed y sgyrsiau yma rhyw hanner dwsin o weithiau erbyn hyn ond doedd hynny ddim yn amharu o gwbl ar fy mwynhad.
Daeth Margaret Dunn, Andrew Davisdson a David Gwyn a ni i gyfnodau diweddarach drwy drafod dendro-cronoleg hen dai Cymreig, trefluniau llefydd fel Aberdyfi a Dolgellau a chyd destun rhyngwladol i’r Chwareli Llechi. Hyn oll yn cadarnhau fod Archaeoleg Diwydiannol yn Archaeoleg “go iawn” yn ogystal ac archaeoleg cyn-hanesyddol – ond mae pawb yn derbyn hyn bellach – ond er mwyn gwneud y pwynt fe grbwyllwyd yr arolwg diweddar o’r “pillboxes” Ail Ryfel Byd ger Pen y Gwryd !
Yr olaf i anerch y dorf, a mi roedd y dorf yn gant o fynychwyr, ac yn ol y son dros 60 arall wedi methu cael lle yn theatr fechan Tan y Bwlch, oedd Bill Jones o Gymdeithas Hanes Dolwyddelan. Soniodd Bill am ei waith dros y naw mlynedd dwetha yn Nhai penamnen, hen gartref Maredudd ap Ieuan. Dipyn o dynnwr coes yw Bill, fe ffugiodd ddrysu rhwng “porcupine” a “concubine” wrth drafod hanes a sgandals Penamnen a dyna gael cant o bobl yn chwerthin ac yn sicr yn deffro unrhywun oedd yn dechrau pendwmpian ddiwedd pnawn. Fe ddaeth sioe sleidiau Bill i ben wrth iddo awgrymu mae’r sleidiau nesa oedd lluniau or holl wrthrychau aur a ddarganfuwyd ganddo. Syndod faint o’r dorf oedd yn siomedig fod amser Bill wedi dod i ben heb sylweddoli fod y tynnwr coes wedi gorffen drwy ein dal allan unwaith eto !
Fel soniais, dros gant yn mynychu, a chwedeg arall oleiaf yn methu cael lle – nid gor ddweud bellach yw fod diddordeb aruthrol allan yna yn y maes Hanes / Archaeoleg ac yn sicr o ran y cyd-destun Cymreig. Sylwaf yr ymateb cadarnhaol i gyfres Darn Bach o Hanes ar S4C yn ddiweddar ac mae fy mhrofiad o fynd o amgylch y wlad yn darlitho i gymdeithasau gyda’r nos hefyd yn cadarnhau hyn – neuaddau orlawn i drafod Hanes Cymru – da o beth !
Roedd dipyn o fynegi barn a thrafod am y Gymraeg hefyd ym Mhlas Tan y Bwlch. Rhaid canmol y Parc a GAT am ddarparu offer cyfieithu ac am gyflwyno lle’n bosib drwy’r Gymraeg yn ystod y dydd.Fe gyflwynodd John Roberts, archaeolegydd y Parc yn Gymraeg ac yntau wedi dysgu’r iaith. Rhaid derbyn nad oedd pob siairadwr yn gallu’r Gymraeg, a doedd hyn ddim at ddant pawb – sgwni os yw hi’n syniad bellach i gyfieithu o’r Saeneg i’r Gymraeg hefyd mewn digwyddiadau o’r fath – fel bod y dewis yno ?
Ond i’r mwyafrif ohonnom roedd hwn yn ddiwrnod bendigedig. Cafwyd wledd o fwyd amser cinio, a hynny heb i ni aros eiliad i gael eistedd a bwyta. Roedd staff Tan y Bwlch yn hynod groesawgar ac effeithiol a chefais orffen y prynhawn yn cael fy nhywys o amgylch y Plas gan Twn Elias – Canmoliath Uchel iawn iddynt oll yn wir.
No comments:
Post a Comment