Pan ofynnwyd i’r grwp pync-anarchaidd Crass yn ystod yr 80au pam eu bod yn canu gymaint o ganeuon Heddwch /gwrth-Niwcliar, ymateb y band oedd eu bod am barhau i gyfansoddi caneuon o’r fath tra bydd y broblem yn bodoli – nid mater o ail adrodd oedd hyn. A dyma fy mhregeth yr wythnos hon, oes mae elfen o ail adrodd ond mae angen gwneud y pwynt – felly ail adrodd amdani.
Fe sgwennais am graffiti F.W.A ar bont Rheilffordd y Bala yn yr Herald 23 Tachwedd 2011 gan awgrymu fod graffiti o’r fath o ddiddordeb hanesyddol a fod angen felly sicrhau fod y graffiti yn cael ei gadw. Engraifft arall o graffiti F.W.A sydd gennyf dan sylw yr wythnos hon, sef y cyfeiriad i’r “Lone Wolf” ar bont rheilffordd Machynlleth.
Yn wir, ar y safle yma mae graffiti ar ddwy ochr y bont, un i’r “Lone Wolf” a’r llall gyda’r slogan F.W.A ac Eryr Eryri. Y “Lone Wolf” wrth gwrs yw Glyn Rowlands, Corris a fu farw ar yr 22 Awst, 2009 yn 71 oed. Felly dydi’r graffiti yma ddim mor hen a hynny, mae’n dyddio o gyfnod marwolaeth Glyn, ond mae’n perthyn i’r hanes ehangach – hanes y F.W.A.
Yn sicr fe ddylid fod cofnod ffotograffaidd o hyn yn cael ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dwi’n cyd weithio reit aml gyda’r Archif Sgrin a Sain yn y Llyfrgell – mae nhw yn dda iawn am gadw’r archif o gasetiau, recordiau a chryno ddisgiau pop Cymraeg a Chymreig drwy sicrhau fod pethau yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd at y casgliad. Wrth i mi sgwennu’r erthygl yma, does gennyf ddim syniad beth yw polisi’r Llyfrgell ar graffiti’r F.W.A. Efallai dyliwn ebostio a gofyn.
Hefyd, fel rywf yn ysgrifennu, rwy’n rhoi “David Frost, F.W.A interview” i mewn i youtube ond does neb hyd yma wedi rhoi y digwyddiad yma ar y we. Mae ambell un wedi rhoi lluniau, blogiau am y F.W.A ar y we ond does dim cyfweliadau gyda’r aelodau gwreiddiol, dim ffilm, yn sicr mae yna wagle, gwagle sydd angen ei lenwi . Dyna’r peth am youtube – mae’n rhaid i rhywun lwytho’r pethau yma i fyny, rhaid fod gan rhywun yn rhywle gopi o’r cyfweliad Frost o 1967 ?
Dyma un o’r engreifftiau gorau, o “gysylltiadau cyhoeddus” ar ei ora, yn Hanes Cymru yn ystod yr Ugeinfed Ganrif. Mae hyn yr un mor eiconig a’r Beatles yn cyrraedd Gorsaf Bangor – fedra Max Clifford hyd yn oed ddim fod wedi gwneud yn well iddynt nac y gwnaeth Cayo Evans ei hyn ! O ran cyfweliadau, mae hwn yn curo’r Sex Pistols ar Bill Grundy ! Ffendiwch VHS !!
Gyda llaw - ar ymweliad diweddar a’r Ganolfan Fusnes ar Ffordd y Coleg, Bangor i dynnu llun o’r gofeb i goffau ymweliad y Beatles a Dinas Bangor, braf oedd gweld “Sir” Mick yn y llun. Does neb yn son am Mick Jagger a Marianne Faithfull yn ymweld a Bangor ym 1967 – dim ond y Beatles mae pawb yn gofio yn y cyd-destyn yma.
Ta waeth am hynny, un peth sydd yn dod i fyny ddigon hawdd ar y We yw cyfweliad hefo Glyn yn y Daily Post lle mae’n datgan nad yw’n difaru o gwbl am yr hyn gyflawnodd gyda’r F.W.A yn ol yn y 60au hwyr. Dyna’r argraff roedd rhywun yn gael gan Glyn, fe ddywedodd bethau tebyg ar raglenni teledu dros y blynyddoedd.
Bu i Glyn a minnau gyfarfod sawl gwaith dros y blynyddoedd, Glyn bob amser a gwen fawr ar ei wyneb. Roedd ei feibion, Steffan, Dafydd a Gareth yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd ac Uwchradd Llanfair Caereinion, Steffan ar un adeg un ffrind gora. Roedd cyfarfod Glyn yn ystod ein ieuenctyd yn gyfystyr a chyfarfod arwr go iawn – rhywun oedd wedi bod yn y F.W.A. - roedd hynny yn fwy na chwedlonol.
Fel oedolyn (ifanc) fe fynychais un o raliau y mudiad Cofiwn, 1982 os cofiaf yn iawn, Medi 16, Diwrnod Glyndwr, Caer Drewyn yng Nghorwen. Roedd gig yn y Pafilwin yr un noson. Ymhlith y gorymdeithwyr roedd Glyn, cefais wen a chroeso fel arfer. Cerddais y llwybr mynydd am yr hen gaer Oes Haearn yn ei gwmni. Rhaid cyfaddef fod rhan helaeth o fy sylw wrth gyrraedd y copa yn cael ei hawlio gan furiau cerrig sychion y gaer. Roedd yr archaeoleg yn trechu’r Cenedlaetholdeb ynddof.
Yr hyn a gofiaf am y digwyddiad yma yw fod pawb wedi gwneud llw i Glyndwr ar Gaer Drewyn. Rwan dwi ddim yn berson gwneud llw, dwi ddim yn berson Anthemau Cenedlaethol, na galw Paul yn Sir Paul McCartney na Bob yn Sir Bob Geldof, dwi fawr o ymaelodwr, ymunwr, dilynwr na chydymffurfiwr. Fe lwyddais i osgoi dweud y llw. Ar y pryd fy nheimlad oedd, “rwyf yng nghwmni hen rebals – wel gadewch i mi fod yn rebal”.
Ond yr hyn sydd wedi aros hefo rhywun dros y blynyddoedd yw y diddordeb yma yn hanes y F.W.A. Hyd heddiw mae yna wefr (a gwen fach ddireidus) o weld graffiti o amgylch y lle, a fel mae’r 60au, y 70au, yr 80au yn troi mewni gyfnodau hanesyddol mae rhywun yn dechrau gweld angen am driniaeth mwy sylweddol o’r pethau yma. Oes mae gennyf gopi o lyfr Roy Clews “To Dream of Freedom” ond fe gyhoeddwyd y llyfr ym 1980, cyn y We !
Nawr yw’r amser i gofnodi graffiti o’r fath cyn iddo ddiflannu – felly dyna’r cwestiwn wythnso yma – beth yn union yw polisi’r Llyfrgell Gen neu hyd yn oed yr Amgueddfa Gen ar graffiti’r F.W.A ?
No comments:
Post a Comment